Agenda item

Y CYNG. J. JAMES - CAIS AM EITEM AR AGENDA'R PWYLLGOR CRAFFU - BRIDIO CWN YN SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar Fridio C?n yn Sir Gaerfyrddin. Derbyniwyd yr adroddiad yn ogystal â Blaenraglen Waith y Pwyllgor yn dilyn cais gan y Cynghorydd J. James o dan Reolau'r Weithdrefn Graffu 10 (1). 

 

Eglurodd y Cynghorydd James, yn dilyn y rhaglen ddogfen a ddarlledwyd gan y BBC yn ddiweddar yn ymchwilio i'r diwydiant ffermio c?n bach (Hydref 2019), ei fod yn ofynnol i ofyn am adroddiad er mwyn cael gwybodaeth am y mater emosiynol hwn.

 

Cyflwynodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd yr adroddiad i'r Pwyllgor, a oedd yn rhoi gwybodaeth am y sefyllfa bresennol o ran trwyddedu bridio c?n yn Sir Gaerfyrddin a'r dull a ddefnyddir.

 

Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn esbonio y lefel o reoleiddio a gorfodi rhagweithiol sydd wedi digwydd, sut mae dull y Cyngor wedi datblygu a heriau'r dyfodol. Roedd hyn cynnwys gwybodaeth am sut mae'r Cyngor wedi parhau i wella safonau bridwyr trwyddedig a'r ffordd orau o dargedu adnoddau yn y dyfodol.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

  • Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr adolygiadau a amlinellir yn yr adroddiad, eglurodd Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y cynhaliwyd yr adolygiadau fel rhan o broses barhaus i wella, sicrhau eglurder o ran y dull a thargedu adnoddau'n briodol. Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai unrhyw argymhellion yn deillio o'r adolygiadau yn rhan o ymgynghoriad cynhwysfawr.

 

  • Cyfeiriwyd at y dull presennol o gynnal ymweliadau/monitro rhyngrwyd rhagweithiol. Eglurodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd fod Swyddogion yn monitro'r cyfryngau cymdeithasol bob dydd ac wedi ymchwilio i unrhyw weithgaredd amheus. Eglurodd y Rheolwr Materion Defnyddwyr a Busnes ymhellach, er bod monitro'r cyfryngau cymdeithasol a'r rhyngrwyd yn gyffredin, fod gwaith rhagweithiol arall yn helpu i ddod o hyd i werthwyr, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth a gweithio'n agos gydag Awdurdodau Lleol cyfagos i rannu gwybodaeth.

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith mai dim ond 2 swyddog penodedig sydd gan yr Awdurdod i reoli holl elfennau'r gwaith gan gynnwys archwilio a rheoleiddio cynelau lletya. Mynegwyd pryder cryf na fyddai'r nifer hwn o adnoddau penodol yn ddigon i fodloni disgwyliadau'r cyhoedd am y gwasanaeth o ran rheoleiddio diwydiant mor ddeinamig a chymhleth. Cydnabu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd y pryder a dywedodd fod adnoddau'n cael eu hadolygu i sicrhau bod blaenoriaethau'n cael eu cyflawni o fewn y terfynau amser penodol.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â gwirio gerddi cefn preifat ar gyfer bridio c?n yn anghyfreithlon, dywedodd y Rheolwr Materion Defnyddwyr a Busnes fod Swyddogion Tai yr Awdurdod Lleol yn cynorthwyo drwy wneud gwiriadau fel rhan o'u rhaglen arolygu. Cydnabuwyd bod eiddo preifat yn cael eu defnyddio i fasnachu bridio c?n fodd bynnag, roedd nifer o gyfyngiadau cyfreithiol yn bodoli a'r unig ffordd o fynd mewn i eiddo preifat a amheuir oedd cyflwyno gwarant, a oedd yn ofynnol gan y Llys Ynadon, a oedd yn broses heriol ac yn aml yn llawn straen.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach, dywedodd y Rheolwr Materion Defnyddwyr a Busnes fod Swyddogion a'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd yn cydweithio'n agos er mwyn gwella'r sefyllfa. Anfonwyd llythyr at Lywodraeth Cymru gan yr Awdurdod ac fel rhan o sail ranbarthol Cymru i fynegi pryderon. Rhoddwyd gwybod bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ffurfio Gr?p Gorchwyl a Gorffen i ymchwilio i'r mater hwn.

 

·       Gan gyfeirio at y cynllun 'Prynu â Hyder', nodwyd y dylid annog y cyhoedd i brynu c?n gan fridwyr c?n a oedd yn aelod o'r cynllun yn unig.  Cytunodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd a nododd fod yr Awdurdod yn annog bridwyr c?n a oedd yn hysbys iddynt i ymuno â'r cynllun, a oedd yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd bod y bridwyr yn masnachu'n deg. Mae pob busnes sydd wedi'i gofrestru â'r cynllun wedi bod yn destun nifer o wiriadau manwl gan weithwyr proffesiynol Safonau Masnach cymwys cyn cael ei gymeradwyo fel aelod o'r cynllun.

 

·       Cyfeiriwyd at y ddeddfwriaeth newydd a elwir yn 'Deddf Lucy', a oedd yn golygu na fyddai modd i werthwyr trydydd parti werthu c?n a chathod bach mwyach, a gofynnwyd am eglurhad o ran a oedd y ddeddfwriaeth yn berthnasol i werthwyr cefnstryd? Dywedodd yr Arweinydd Busnes a Rheoleiddio na fyddai'r ddeddfwriaeth yn dod i rym yn Lloegr tan Ebrill 2020, nid oedd unrhyw ofynion o ran Cymru wedi'u penderfynu hyd yn hyn, ac felly nid oedd yn sicr beth yn union fyddai'n cael ei gynnwys tan yr amser hwn.

 

·       Estynnwyd diolchiadau i'r swyddogion am eu gwaith ac am lunio adroddiad llawn gwybodaeth. Er y cydnabyddir natur emosiynol a dadleuol y mater, nodwyd y teimlir bod y mater hwn yn haeddu cael ei adolygu ymhellach.

 

Cynigiwyd felly fod y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn ystyried y mater hwn ymhellach drwy gynnal adolygiad craffu ymchwiliol. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd y byddai adolygiad yn cael ei groesawu, ond mynegwyd pryder ynghylch amseriad yr adolygiad gan fod nifer o achosion sensitif parhaus ar hyn o bryd. Awgrymodd y Rheolwr Materion Defnyddwyr a Busnes y gallai fod yn fuddiol i adolygiad ystyried y prosesau a'r cyfyngiadau yn lleol ac yn genedlaethol.

O ystyried sylwadau'r swyddogion, teimlai'r Cadeirydd y byddai'n fuddiol adolygu'r pwnc hwn drwy gyfrwng Gorchwyl a Gorffen, felly gwnaeth welliant i'r cynnig i nodi y bydd bridio c?n yn Sir Gaerfyrddin yn destun adolygiad Gorchwyl a Gorffen nesaf y Pwyllgor. Eiliwyd y gwelliant.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

4.1     bod yr adroddiad ynghylch Bridio C?n yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei dderbyn;

4.2     y bydd bridio c?n yn Sir Gaerfyrddin yn destun adolygiad Gorchwyl a Gorffen nesaf y Pwyllgor.

 

 

Dogfennau ategol: