Agenda item

BLAEN-GYNLLUN DEDDF YR AMGYLCHEDD CSC 2016-19 ADRODDIAD AR GYFLWYNO I LYWODRAETH CYMRU

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adolygiad o Blaen-gynllun Deddf yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin (Cymru) 2016-2019 i'w ystyried yn dilyn ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn 2017. Roedd yr adolygiad yn dangos sut oedd y Cyngor yn bodloni ei rwymedigaeth gyfreithiol wrth gyfeirio at y Ddeddf.

 

Er mwyn dangos tystiolaeth o'r ddyletswydd hon yn cael ei chyflawni o dan Ddeddf yr Amgylchedd, roedd yn ddyletswydd statudol bod yn rhaid i bob corff cyhoeddus yng Nghymru baratoi a chyhoeddi cynllun ynghylch sut yr oedd yn bwriadu cydymffurfio â'r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau erbyn mis Mawrth 2017.

 

Nododd yr Aelodau fod dull Sir Gaerfyrddin o ddatblygu a chyflawni ei Flaen-gynllun wedi cynnwys ymgysylltu â swyddogion i edrych ar eu harferion gwaith, eu cynlluniau a'u prosiectau tra'n eu cynorthwyo i nodi cyfleoedd presennol ar gyfer cynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwytnwch ecosystemau, ochr yn ochr â chyflawni eu rhwymedigaethau a'u hamcanion eraill.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r gost o reoli clefyd coed ynn, esboniodd y Rheolwr Cadwraeth Wledig nad oedd yn bosibl amcangyfrif cost gan fod llawer iawn o waith dal i'w wneud. Fodd bynnag, cadarnhawyd y byddai angen y £300k a neilltuwyd dros y 2 flynedd nesaf ar gyfer rheoli'r clefyd.  Er mwyn rheoli lledaeniad clefydau, roedd arolygon yn cael eu cynnal ar hyn o bryd i nodi meysydd risg uchel er mwyn blaenoriaethu cam gweithredu priodol a thargedu adnoddau'n effeithiol. Eglurodd y Rheolwr Cadwraeth Wledig fod coed wedi'u heintio yn aml yn cael eu marcio â rhuban oren.

 

Er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o ddifrifoldeb y clefyd hwn, awgrymwyd y byddai seminar ar gyfer pob aelod yn fuddiol er mwyn egluro arwyddocâd Clefyd Coed Ynn, sut i'w adnabod a'r ffordd orau o weithredu. Yn dilyn yr awgrym hwn, cynigiwyd y dylid trefnu seminar ar gyfer yr holl Aelodau ar Glefyd Coed Ynn. Eiliwyd y cynnig.

 

Eglurodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd fod gweithgor Clefyd Coed Ynn wedi cael ei sefydlu a bod cynllun cyfathrebu wrthi'n cael ei ddatblygu er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o'r clefyd. Yn ogystal, roedd tudalen we yn cael ei datblygu a fyddai'n cynnwys canllawiau a chyngor i berchnogion tir.

 

Yn ogystal, dywedodd y Rheolwr Cadwraeth Wledig er mwyn sicrhau bod negeseuon cyson yn cael eu cyfleu, fod 'Cwestiynau Cyffredin' yn cael eu datblygu ar y cyd â'r NFU, NRU a CLA, roedd pecyn cymorth a luniwyd gan y Cyngor Coed yn cael ei ddefnyddio ac roedd gwaith cyswllt angenrheidiol yn cael ei gyflawni gyda pherchnogion tir oedd gerllaw priffyrdd.

 

·       Cyfeiriwyd at y gwaith a wneir ar hyn o bryd gydag ysgolion (cyfeirnod PIMS 1304, tudalen 11 o'r adroddiad). Gwnaed ymholiad ynghylch Ysgol Tre Ioan, sef yr unig ysgol y soniwyd amdano yn y Cynllun. Dywedodd y Rheolwr Cadwraeth Wledig fod gwaith y tîm yn cael ei gyfyngu gan amser y tymor, materion brys eraill a bod diffyg adnoddau ar gael. Codwyd awgrym y gallai'r Cyngor ddefnyddio rhwydwaith Ysgolion Awyr Agored Sir Gaerfyrddin er mwyn helpu i rannu gwybodaeth â rhwydwaith ehangach o ysgolion. Roedd y Rheolwr Cadwraeth Wledig wedi nodi'r awgrym.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1     bod  yr adolygiad o Flaen-gynllun Deddf yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin 2016-2019 yn cael ei dderbyn.

 

7.2     bod seminar aelodau ynghylch clefyd Coed Ynn yn cael ei drefnu.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau