Agenda item

FERSIWN ADNEUOL DRAFFT O GYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018 - 2033

Cofnodion:

(NODER:

1.    Gan fod y Cynghorydd J. Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd Siambr y Cyngor tra bo'r Pwyllgor yn ystyried y mater,

2.    Roedd y Cynghorwyr W.T. Evans a M.J.A Lewis wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Fersiwn Adneuol Drafft o Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 a luniwyd yn unol â phenderfyniad y Cyngor ym mis Ionawr 2018. Nodwyd bod yr adroddiad yn cynrychioli carreg filltir bwysig o ran cyflawni'r Cynllun gan ei fod yn nodi gweledigaeth o ran defnydd y tir, amcanion strategol a gofynion twf strategol y Cyngor hyd at 2033.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor yn dilyn ei ystyriaeth y byddai'r Cynllun, gan gynnwys safleoedd ymgeisio a dogfennau ategol eraill, yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor ym mis Tachwedd 2019 i'w cymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, a ragwelir ar gyfer mis Rhagfyr 2019. Byddai unrhyw sylwadau a ddaw i law fel rhan o'r ymgynghoriad, ynghyd â Fersiwn Adneuol Drafft o'r CDLl, yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cyngor i'w hystyried cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2020 er mwyn cynnal Archwiliad Cyhoeddus a'u mabwysiadu'n ffurfiol erbyn mis Rhagfyr 2021.

 

Nodwyd bod tudalen 9 o Grynodeb Gweithredol yr adroddiad yn manylu ar nifer o'r meysydd polisi a'r themâu allweddol a amlinellwyd yn y CDLl diwygiedig, a nodwyd hefyd mai ethos sylfaenol y Cynllun yw hyrwyddo twf. Roedd y themâu a'r polisïau hynny yn rhoi sylw i faterion megis creu lle, newid hinsawdd a chreu cymunedau cydlynus, yn ogystal ag adlewyrchu Polisïau Cynllunio Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·         Nodwyd bod Polisi Strategol 12 yngl?n â datblygu gwledig yn amlinellu sut y byddai'r Cynllun yn cefnogi cynigion datblygu a fyddai'n cyfrannu at gynaliadwyedd cymunedau gwledig y sir. Cafodd y cynigion hynny eu croesawu, ond gofynnwyd cwestiwn a allai'r CDLl diwygiedig fynd i'r afael â chyfyngiadau polisïau'r cynllun presennol. Roedd hyn mewn perthynas â galluogi plant ffermwyr i fyw ar y fferm drwy ganiatáu tai newydd.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio, er y gallai'r CDLl ymdrechu i helpu o ran hyrwyddo'r ddarpariaeth honno, byddai unrhyw bolisïau mabwysiedig yn gorfod rhoi sylw i'r Polisïau Cynllunio Cenedlaethol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru a chydymffurfio â hwy. Dywedodd fod Tasglu Gwledig y Cyngor wedi trafod y mater yn flaenorol a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion ynghylch hynny a oedd wedi cael eu cynnwys yn y Fersiwn Adneuol Drafft o'r Cynllun, lle y bo modd.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio hefyd nad oedd y sefyllfa uchod yn unigryw i Sir Gaerfyrddin a'i bod yn cael ei gweld ledled cefn gwlad Cymru. Er y gallai swyddogion lobïo Llywodraeth Cymru yngl?n â hyn, byddai'n rhaid gwneud sylwadau gwleidyddol tebyg hefyd.

·         Cyfeiriwyd at 4.30 ar dudalen 46 yr adroddiad ynghylch lefelau mudo a gofynnwyd am eglurhad yngl?n â'r rhesymau dros y cynnydd yn y gr?p oedran 30-44 sy'n symud i'r sir. 

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor, er bod yr ystadegau'n dangos patrwm mudo positif yn y gr?p oedran uchod, roedd yn anodd manylu ar unrhyw reswm penodol dros yr ystadegau. Fodd bynnag, roedd tystiolaeth yn dangos bod y mudo yn digwydd o fewn Cymru ac nid y tu allan iddi. Roedd gwaith yn cael ei wneud, o ran y mudo mewnol, i werthuso unrhyw effaith gadarnhaol/negyddol y gall hyn ei chael ar yr iaith Gymraeg ac i ddeall natur y symudiad a sut mae pobl yn dod yn rhan o gymdeithas. Roedd y Cynllun hefyd am fynd i'r afael â llif y bobl ifanc sy'n symud allan o'r sir i fynd i'r brifysgol ac ati, drwy ddarparu cyfleoedd gwaith ac amgylchedd a fyddai'n eu hannog i ddychwelyd.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch gwahodd Arolygydd Llywodraeth Cymru, a benodwyd i ystyried y CDLl, i annerch y Cyngor, nodwyd er bod yr awdurdod yn gallu gofyn bod Arolygydd yn bodloni rhai meini prawf penodol e.e. bod yn siaradwr Cymraeg, yr Arolygydd fyddai'n penderfynu derbyn y gwahoddiad neu beidio. Byddai'r Arolygydd yn ymweld â chymunedau ar draws y sir fel rhan o broses ymgyfarwyddo â'r Cynllun a byddai cyfle i aelodau fynd i sesiynau archwilio lle gallent gymryd rhan a mynegi eu barn am faterion sy'n effeithio ar eu cymunedau lleol.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y nifer posibl o safleoedd ymgeisio a fydd yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Drafft, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod cyfanswm o 926 o safleoedd wedi cael eu cyflwyno. Fodd bynnag, gan fod y safleoedd hynny'n cael eu harchwilio o hyd, nid oedd modd rhoi ateb pendant o ran y nifer terfynol a fydd yn cael eu cynnwys yn y Cynllun ar hyn o bryd.

·         Cyfeiriwyd at Bolisi TRA4 yngl?n â defnyddio rheilffyrdd segur at ddibenion hamdden posibl yn y dyfodol. Mynegwyd y farn na ddylai'r rheilffyrdd gael eu neilltuo ar gyfer hamdden yn unig oherwydd gallent gael eu defnyddio fel ffyrdd cymudo hanfodol i adfywio cymunedau lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio er bod geiriad y polisi yn nodi defnyddio'r rheilffyrdd at ddibenion hamdden, byddent yn gweithredu'n ymarferol fel llwybrau teithio llesol ac yn fodd o alluogi cymunedau i gael mynediad at drafnidiaeth mewn ffordd wahanol. Felly, gellid ail-archwilio a newid y geiriad os yw hynny'n briodol.

·         Cyfeiriwyd at gynnydd y Cynllun diwygiedig o ran ei fabwysiadu'n gyfan gwbl ym mis Rhagfyr 2021. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y gallai'r cynnydd hwnnw effeithio ar benderfyniadau ynghylch ceisiadau cynllunio a gyflwynwyd dan y CDLl presennol.

 

Dywedodd y Pennaeth Cynllunio wrth i'r Fersiwn Adneuol Drafft o'r Cynllun symud ymlaen i gael ei fabwysiadu'n ffurfiol, byddai angen rhoi ystyriaeth i gyflwyno protocol a fyddai'n prosesu ceisiadau o'r fath lle na fyddai'r penderfyniad yn cael ei wneud hyd nes ei fod wedi cael ei fabwysiadu. Byddai hynny'n arbennig o berthnasol ar gyfer ceisiadau cymhleth a mawr sy'n gofyn am arweiniad sylweddol cyn penderfynu arnynt.

·         Cyfeiriwyd at lansiadau diweddar Symud Sir Gaerfyrddin Wledig Ymlaen a menter 10 Tref y Cyngor, a oedd yn ceisio datblygu cynlluniau unigol i'r trefi hynny i ddarparu gweledigaeth strategol hirdymor o ran sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Er bod y mentrau hynny'n cael eu croesawu, cydnabuwyd y gallai fod goblygiadau cynllunio o ran eu cyflawni, yn enwedig mewn perthynas ag addasu hen adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth. Mynegwyd y farn bod angen mabwysiadu dull hyblyg wrth ystyried addasiadau o'r fath, gan gynnwys unrhyw drafodaethau â CADW.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio er bod y Cyngor yn awyddus i wneud cynnydd o ran y fenter 10 Tref, cydnabuwyd y gellid profi anawsterau wrth nodi dibenion priodol ar gyfer hen adeiladau. Fodd bynnag, byddai'r awdurdod yn gweithio gyda CADW i nodi ffyrdd ymlaen sy'n dderbyniol lle bo'n bosibl.

·         Cyfeiriwyd at signal ffonau symudol ar draws y sir ac er bod 88% o bobl yn cael signal da yn y sir, nid oedd 12% o bobl yn ei gael. Ystyriwyd bod codi mastiau ychwanegol yn yr ardaloedd gwledig yn hanfodol i wella'r signal a rhoi hwb i adfywio.

 

Dywedodd y Pennaeth Cynllunio, o ran cymeradwyo'r mastiau, fod yn rhaid rhoi ystyriaeth i'w hymddangosiad gweledol ac amgylcheddol yn enwedig mewn amgylcheddau sensitif ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Yn hynny o beth, roedd yr awdurdod wedi cymeradwyo codi dau fast ar gyfer y gwasanaethau brys yn ddiweddar ac roedd trydydd mast yn cael ei ystyried ar hyn o bryd fel rhan o gynigion Cymru gyfan, i godi 89 mast o'r fath. Roedd y broses o'u codi yn cynnwys cael trafodaeth gyda'r darparwyr ynghylch cydweddu'r mastiau â'r cefn gwlad o'u hamgylch.

·         Cyfeiriwyd at y cynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr sy'n cael eu rhoi ar waith yn y sir a'r angen i sicrhau bod cymunedau'n elwa ar y datblygiadau hynny.

 

Dywedodd y Pennaeth Cynllunio fod polisïau cynllunio cenedlaethol yn benodol iawn yngl?n â'r math o gyfraniadau y gallai awdurdodau lleol eu hawlio gan gynlluniau o'r fath, ac nid oedd defnyddio'r broses gynllunio i hwyluso budd i'r gymuned yn cael ei ganiatáu. Yn unol â hynny, roedd trafodaethau ynghylch budd i'r gymuned yn fater rhwng y cymunedau a'r datblygwr.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyflwyno Ardoll Seilwaith Cymunedol (CIL) yn Sir Gaerfyrddin, cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod y cynnig wedi cael ei adael ar hyn o bryd gan fod angen aros am eglurhad gan Lywodraeth Cymru o ran dyfodol CIL yng Nghymru.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch penderfyniad diweddar y Cyngor i ddarparu 900 o dai cyngor newydd dros y deng mlynedd nesaf, cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod hynny wedi cael ei gynnwys yn y Cynllun Drafft ac ni fyddai'n achosi cynnydd cyfatebol yn y ddarpariaeth a nodwyd ar gyfer tai newydd yn ystod cyfnod y Cynllun.

·         Cyfeiriwyd at yr effaith roedd mapiau llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn eu cael ar ddatblygiad mewn ardaloedd hanesyddol ac ardaloedd eraill a allai fod yn agored i lifogydd. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oedd unrhyw drafodaethau wedi cael eu cynnal gyda'r CNC yngl?n ag ailystyried y mapiau hynny.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod trafodaethau rheolaidd wedi cael eu cynnal gyda'r CNC yngl?n ag ystyried safleoedd ymgeisio yn y Cynllun Drafft, ac roedd yr holl safleoedd wedi cael eu cyflwyno i'r awdurdod hwnnw i'w hystyried. Roedd y dull yn ceisio osgoi rhoi unrhyw ddatblygiadau ar orlifdir. Cadarnhaodd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi TAN 15 diwygiedig yn ddiweddar at ddibenion ymgynghori ac roedd CNC yn adolygu'r ddwy set o fapiau llifogydd Cymru (mapiau CNC a'r mapiau cyngor datblygu) gyda'r bwriad o'u disodli ag un set a fyddai'n cael ei hadolygu bob chwe mis. Roedd hyn i'w gyferbynnu â'r mapiau cyngor datblygu presennol a oedd yn cael eu hadolygu bob 4-5 mlynedd.

 

Dywedodd y Pennaeth Cynllunio, fel rhan o'r newid i un set o fapiau, y byddai angen i ddatblygwyr gysylltu'n uniongyrchol â CNC cyn cyflwyno ceisiadau cynllunio a, lle bo angen, byddai angen iddynt weithio gyda CNC i lunio mapiau diwygiedig o ran canlyniad llifogydd a thrwy hynny gyflymu'r broses gynllunio pan fydd cais yn cael ei gyflwyno.

·         Cyfeiriwyd at Bolisi CCH2 o ran darparu o leiaf un pwynt gwefru cerbydau trydan i dai a fflatiau newydd. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a ddylai'r ddarpariaeth honno gael ei chynyddu yng ngoleuni'r pwyslais cenedlaethol presennol ar ddefnyddio cerbydau trydan i ddisodli cerbydau tanwydd ffosil.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod darpariaeth y Cynllun presennol yn cydymffurfio â'r polisi cenedlaethol. Fodd bynnag, wrth i amser fynd heibio ac wrth i dechnoleg ddatblygu, byddai'r cynllun yn cael ei fonitro a'i ailystyried i asesu a oedd angen newid y ddarpariaeth i fynd i'r afael ag amgylchiadau sy'n newid.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cydweithio trawsffiniol, cafodd ei gadarnhau y bu ymgysylltu ag awdurdodau lleol eraill yn rhanbarth De-orllewin Cymru ac yr ymgynghorir â hwy ynghylch paratoi'r cynllun. Byddai hynny'n caniatáu ar gyfer dull cyffredin posibl ar draws y rhanbarth, a oedd i ryw raddau yn cael ei gynnwys yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Hefyd, amlygodd y Rheolwr Blaen-gynllunio yr ardaloedd lle roedd tystiolaeth ar y cyd yn cael ei pharatoi rhwng awdurdodau ar draws y rhanbarth.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch Polisi SP18 o ran adnoddau mwynau, cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio fod trafodaethau wedi cael eu cynnal yn rhanbarthol ynghylch echdynnu mwynau. Roedd ymgynghoriadau hefyd yn cael eu cynnal ynghylch llunio Datganiad Technegol Rhanbarthol i bennu lefelau echdynnu yn y dyfodol a'u cynnwys yn y CDLl. Byddai'r datganiad hwnnw'n arbennig o bwysig o ran gwneud penderfyniadau ynghylch dod o hyd i agregau yn y rhanbarth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch lefel y deunyddiau sydd wedi cael eu hailgylchu a ddefnyddir yn y sector adeiladu ar hyn o bryd, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor er nad oedd y wybodaeth ar gael yn hwylus, byddai trefniadau yn cael eu gwneud i anfon y wybodaeth at aelodau drwy e-bost. Adroddwyd bod yr 'Economi Gylchol' yn elfen bwysig o ddefnyddio deunyddiau sydd wedi cael eu hailgylchu, gan ei bod yn rhoi pwyslais ar eu cadw ar y safle i osgoi costau trafnidiaeth ac i annog datblygwyr yn gynnar yn ystod datblygiad y safle i ystyried defnyddio gwastraff sydd ar y safle. Roedd y dull hwn wedi cael ei fabwysiadu'n barod gan yr awdurdod ar gyfer nifer o'i ddatblygiadau.

·         Cyfeiriwyd at y sefyllfa bresennol, sef er bod y CDLl yn pennu lefelau dangosol ar gyfer datblygiadau tai, roedd datblygwyr yn aml yn mynd y tu hwnt i'r lefelau hynny wrth gyflwyno cynigion cynllunio.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio nad oedd y senario uchod yn anghyffredin, hynny yw, roedd lefelau dwysedd wedi cael eu pennu ar gyfer pob haen ddatblygu. Nodwyd bod hynny wedi bod yn broblem yn y CDLl presennol mewn perthynas â safleoedd penodol. Byddai'r cynllun newydd yn defnyddio dull gwahanol - byddai'r dwyseddau'n cael eu seilio ar sut y byddai'r datblygiadau'n cydweddu â chymeriad yr ardal, eu hamgylchedd lleol a chreu cymunedau cydlynus. Er y byddai gwahaniaethau'n anochel rhwng lefelau dangosol a bennir yn y CDLl ac uchelgeisiau'r datblygwyr, byddai angen i ran o'r dull yn y cynllun drafft gyflwyno prif gynllun sy'n dangos sut y byddai'r datblygiad yn cysylltu â'r gymuned ehangach, yn enwedig mewn perthynas â datblygiadau mawr o ran tai.

 

Dywedodd y Pennaeth Cynllunio er bod y CDLl presennol yn pennu lefelau tai dangosol, roedd y nifer gwirioneddol o unedau a ddatblygwyd yn dibynnu ar eu dyluniad. Dim ond pan fydd datblygwr yn cyflwyno cynigion datblygu y gallai asesiad llawn gael ei gynnal o'r lefelau dwysedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR BOD

4.1

y Fersiwn Adneuol Drafft o Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 (a'r dogfennau atodol) yn cael eu cymeradwyo ar gyfer ymgynghori ffurfiol

4.2

y Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft ynghylch Moryd Byrri ac Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr yn cael eu cymeradwyo ar gyfer ymgynghori ar yr un pryd â'r Fersiwn Adneuol Drafft o'r CDLl

 

 

Dogfennau ategol: