Agenda item

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO

Cofnodion:

5.1   PENDERFYNWYDgwrthod y cais cynllunio canlynol, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar y sail bod y datblygiad arfaethedig yn groes i Bolisi TR3 a TAN18  oherwydd pryderon am ddiogelwch priffyrdd a'r effaith sylweddol ar drigolion lleol;

 

W/38125

Cynllun i ddatblygu 36 o breswylfeydd a gwaith cysylltiedig ar dir i'r de o ystad Dôl y Dderwen, Llangain, Sir Gaerfyrddin SA33 5BE

 

Atgoffodd y Swyddog Rheoli Datblygu yr Aelodau fod y Pwyllgor wedi gohirio gwneud penderfyniad ar y cais hwn yn ei gyfarfod ar 19 Medi 2019 er mwyn i'r ymgeisydd, y tirfeddiannwr cyfagos a'r swyddogion drafod mynediad arall posibl i'r datblygiad drwy Ffordd yr Eglwys.

 

Dywedwyd bod yr ymgeisydd, mewn ymateb i'r gohiriad, wedi asesu ymhellach y mynediad i'r datblygiad ac wedi cadarnhau na fyddai awgrym y Pwyllgor i gael mynediad arall drwy Ffordd yr Eglwys yn bosibl am y rhesymau a amlinellwyd yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio.

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn nodi er bod y datblygiad yn cael ei groesawu mewn egwyddor, nodwyd nad oedd unrhyw newidiadau pellach wedi cael eu gwneud i'r cais i fynd i'r afael â'r pryderon a fynegwyd mewn perthynas â mynediad. Roedd felly yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig oherwydd y pryderon diogelwch o ran y dull mynediad arfaethedig i'r datblygiad fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) a'r Cynlluniwr Trafnidiaeth i'r materion a godwyd.

 

5.2    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

[Sylwer: Gan ei fod wedi datgan buddiant yng ngheisiadau cynllunio W/38261, W/38262 a W/38263 yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd D. Phillips Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y ceisiadau a phenderfynu arnynt.]

 

W/38261

Gwaredu'r adeilad cerrig sydd wedi cwympo ac adeiladu 1 breswylfa ar dir ger Pen-y-Bont, 1 Pen-y-Bont, Llanboidy, Hendy-Gwyn ar Daf, Caerfyrddin, SA34 0Eh

 

W/38262

Gwaredu'r adeilad cerrig sydd wedi cwympo ac adeiladu 1 breswylfa ar dir ger Pen-y-Bont, 1 Pen-y-Bont, Llanboidy, Hendy-Gwyn ar Daf, Caerfyrddin,SA34 0EH

 

W/38263

Dymchwel a gwaredu adeiladau amaethyddol adfeiliedig, ac adeiladu preswylfa newydd â 3 ystafell wely ar dir ger Pen-y-Bont, 1 Pen-y-Bont, Llanboidy, Hendy-Gwyn ar Daf, Caerfyrddin, SA34 0EH

 

5.3    PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/38893

Mae'r cais cynllunio hwn ar gyfer Datblygiad Garddwriaethol cynaliadwy isel ei effaith dan Bolisi Llywodraeth Cymru Tan 6, Datblygiad Un Blaned. Ar hyn o bryd mae'r tir yn cael ei ystyried yn dir amaethyddol a bydd y cais yn cynnwys newid defnydd y tir neu ran ohono at ddefnydd preswyl ym Mharc yr Odyn, Hebron, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0XT.

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol a dywedodd er ei fod yn cefnogi'r cais, nododd y cafodd cais blaenorol ei wrthod ar gyfer cyn-berchennog y safle. Mewn ymateb i'r sylw, eglurodd y Swyddog Rheoli Datblygu [Rhanbarth y Gorllewin] i'r Pwyllgor y prif wahaniaethau rhwng y cais blaenorol a'r cais presennol a phwysleisiodd y dylai'r Pwyllgor ystyried y cais ger ei fron.

 

 

5.4 PENDERFYNWYD:-

 

5.4.1   bod y cais cynllunio canlynol yn cael ei wrthod oherwydd bod y cais yn golygu datblygu annedd ar y farchnad agored, nad oedd yn cyd-fynd â pholisïau'r CDLl;
 

5.4.2   bod y swyddogion yn cynghori'r ymgeisydd  y byddai cyflwyno cais diwygiedig sy'n cynnwys angen lleol gwirioneddol, yn unol ag amcanion y polisi dan Bolisi AH3, yn cael ei ystyried heb unrhyw gost ychwanegol i'r ymgeisydd. 

 

W/39008

Adeiladu preswylfa ar dir Maes-y-ffynnon, Llangynog, SA33 5DA

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn cefnogi'r cais oherwydd y rhesymau o ran anghenion lleol ac amgylchiadau cymdeithasol.

 

Pwysleisiwyd i'r Pwyllgor gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) fod yr ymgeisydd yn ceisio annedd dilyffethair ar y farchnad agored yn hytrach nag annedd anghenion lleol fel sy'n cael ei ganiatáu dan Bolisi AH3 y Cynllun.

 

Er bod Aelodau'n cydymdeimlo â'r rhesymau y tynnodd yr Aelod Lleol sylw atynt a'r rhai a geir yng ngwybodaeth ategol yr ymgeisydd, safbwynt y Pwyllgor oedd nad oedd y cais yn cyd-fynd ag amcanion polisi y Cynllun Datblygu Lleol nac amcanion y Polisi Cynllunio Cenedlaethol.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau