Agenda item

IECHYD MEDDWL MEWN ADDYSG

Cofnodion:

Yn ystod y gwaith o gynllunio'r flaenraglen waith, nododd y Pwyllgor Ddarpariaeth Iechyd Meddwl mewn Addysg fel maes diddordeb a gofynnodd am adroddiad. Rhoddodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant drosolwg o'r adroddiad a oedd yn cynnwys data am hunanladdiad ymhlith pobl ifanc, amlinelliad o'r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc sydd mewn perygl, mentrau mewn ysgolion a throsolwg o arferion da a'r cyd-destun cenedlaethol.

 

Mynegodd yr Aelodau'r materion/cwestiynau canlynol wrth ystyried yr adroddiad –

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y Materion yn Codi ar dudalen 63 o'r adroddiad a oedd yn rhestru arholiadau a disgwyliadau ysgolion fel un o'r prif bwysau a heriau i lesiant. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod pobl ifanc yn onest mewn grwpiau ffocws a'u bod yn rhestru ystod eang o faterion, gan nodi bod disgwyliadau ysgolion yn uchel ar y rhestr ond nid hwnnw oedd y safbwynt diffiniol yn gyffredinol. Cydnabod bod yna bwysau sylweddol ar ysgolion i berfformio ac y gellir pasio hyn ymlaen i'r plant a allai deimlo hyn yn benodol yn ystod cyfnodau arholiadau. Nododd ymhellach y byddai'r cwricwlwm newydd yn cynnwys pwysau newydd a fyddai angen mynd i'r afael ag ef yn y dyfodol. Roedd hefyd o'r farn y dylid rhoi sylw i lesiant dysgwyr yn gyntaf oll, gan sicrhau bod pobl ifanc yn byw heb orbryder, straen a phryderon; a bydd y safonau'n gwella o ganlyniad.

 

Nododd yr aelodau yr astudiaeth achos mewn perthynas ag Ysgol Brynsierfel gan ofyn a yw hyn yn cael ei ailadrodd ym mhob ysgol, cyfeiriodd yr Aelodau at raglen SPEAKR a oedd yn cael ei defnyddio'n eang. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod yna arferion da iawn mewn nifer o ysgolion ac mae rhai ohonynt wedi'u cydnabod gan ESTYN. Dywedodd fod rhaglen SPEAKR yn becyn masnachol sydd ar gael i ysgolion ei phrynu. Mae'r rhaglen yn caniatáu i ddisgyblion nodi pan fyddant yn hapus ai peidio a gall yr athrawon adolygu'r data ar nifer o adegau yn ystod y diwrnod ysgol. Dywedodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion fod yna lawer o fentrau a rennir ledled rhanbarthau ERW yn ogystal â gwaith rhyngwladol gan gynnwys prosiect Lost Words.

 

Bu'r aelodau yn holi ynghylch nifer isel yr atgyfeiriadau i'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant mewn perthynas â'r ffigurau cenedlaethol, a nifer uchel y merched sy'n defnyddio gwasanaethau cwnsela o gymharu â nifer y bechgyn. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod y data o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gywir ond roedd yn cydnabod bod nifer yr atgyfeiriadau i'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn is na'r disgwyl. Mewn ymateb i'r ffaith bod nifer y bechgyn sy'n defnyddio gwasanaethau cwnsela yn cyfateb i hanner cyfanswm nifer y merched, awgrymodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant y gellid ystyried rhai ffactorau, megis a yw bechgyn yn debygol o guddio'u problemau a bod merched yn fwy agored fel arfer ac yn llai tebygol o guddio'u problemau. Nododd hefyd fod bechgyn mwy tebygol o gael atgyfeiriad ar gyfer ymddygiad na merched ac mae'n bosibl bod hyn yn ffactor.

 

Wrth nodi'r cynnydd mewn hunanladdiad ymhlith bechgyn a dynion ifanc, gofynnodd yr Aelodau ynghylch pa gymorth sydd ar gael i ysgolion nodi unrhyw arwyddion rhybudd cynnar. Dywedodd y Pennaeth Gwella Ysgolion fod ysgolion yn gweithio o'r Cyfnod Sylfaen ymlaen i normaleiddio trafodaethau am y materion hyn a bod staff yn cael hyfforddiant a chymorth i atgyfeirio disgyblion i'r llwybrau perthnasol. Mae staff hefyd yn cael eu huwchsgilio i ddeall effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a thrawma. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau cynhwysfawr yn ddiweddar ynghylch ymateb i faterion hunan-niweidio ac ystyried hunanladdiad ymhlith pobl ifanc, gan gynnwys sut i ofyn cwestiynau i blant a phobl ifanc sydd â theimladau hunanladdol neu sy'n hunan-niweidio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: