Cofnodion:
Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig a fyddai'n debygol o ddatgelu pwy yw'r unigolyn dan sylw.
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud ag enw'r apelydd a manylion personol eraill, sef data personol yn unol â'r diffiniad yn Adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1998. Nid oedd y mater a fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn fater budd cyhoeddus. Byddai datgelu'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad yn annheg ac yn groes i hawl yr apelydd i gael preifatrwydd. Felly ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cynnwys yr adroddiad yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r apelydd a'i gynrychiolydd undeb llafur, ynghyd â'r Swyddogion Ymchwilio a Chomisiynu penodedig, ac amlinellodd y protocol y byddid yn ei ddilyn wrth wrando ar yr apêl (roedd copïau o'r protocol ym mhecyn yr agenda.)
Aeth y Pwyllgor yn ei flaen i gael tystiolaeth gan y Swyddog Comisiynu, ei thyst ac un o dystion yr apelydd.
(NODER: gohiriwyd y cyfarfod gan y Pwyllgor am 12.45pm am ginio ac ailymgynullwyd am 1.30pm)
Yn dilyn y toriad, cafodd y Pwyllgor ragor o dystiolaeth gan yr apelydd a thyst. Cafodd y ddwy ochr gyfle wedyn i groesholi ynghylch y dystiolaeth a roddwyd ac i grynhoi. Ar ôl gwneud hynny, gadawodd y ddwy ochr y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd.
Galwodd y Pwyllgor bawb yn ôl i'r cyfarfod i ddweud gan ei bod hi mor hwyr (5.00 p.m.), fod y cyfarfod i'w ohirio hyd at ddyddiad ac amser i'w cytuno yn yr wythnos yn dechrau 14 Hydref, pryd y byddai'n cwrdd eto i drafod y dystiolaeth a'r sylwadau a gyflwynwyd er mwyn dod i benderfyniad. Wedyn byddai pob parti yn cael gwybod am y penderfyniad yn ysgrifenedig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y cyfarfod yn cael ei ohirio hyd at ddyddiad ac amser i'w cytuno yn ystod yr wythnos yn dechrau 14 Hydref, 2019.
Y CYFARFOD A AILYMGYNULLWYD
Roedd y Pwyllgor wedi ailymgynnull yn Ystafell Pwyllgorau 2, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin ddydd Mercher 16 Hydref, 2019 am 2.00 p.m.
Yn Bresennol: Y Cynghorydd K.Howell (Cadeirydd)
Cynghorwyr: S.M. Allen, K. Broom, D. Jones ac E. Morgan
Roedd y Swyddogion canlynol yn bresennol yn y cyfarfod:-
S. Murphy – Uwch-gyfreithiwr
J. Stuart – Uwch-bartner Busnes (Adnoddau Dynol)
K. Thomas - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd
(Ystafell Bwyllgorau 2, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin - 2.00 p.m.– 4.00 p.m.)
Bu i'r Pwyllgor, yn unol â'i benderfyniad cynharach, ailymgynnull i ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan yr apelydd a'i gynrychiolydd a'r Swyddogion Comisiynu ac Ymchwilio:-
PENDERFYNWYD
5.1 |
Bod yr honiadau yn erbyn yr apelydd wedi eu profi |
5.2 |
Ar sail yr amgylchiadau lliniarol, bod
· yr apêl yn cael ei chadarnhau, gan roi rhybudd ysgrifenedig terfynol, · penderfyniad y Gwrandawiad Disgyblu a gynhaliwyd ar 27 Mehefin, 2019 i ddiswyddo'r apelydd yn cael ei ddiddymu a bod yr apelydd yn cael ei diraddio i swydd arall. Os nad oes cyllideb ar gyfer swydd arall, dylai’r gweithiwr ddychwelyd i’w swydd barhaol â hyfforddiant a chymorth. |
5.3 |
Hysbysu'r apelydd yn ysgrifenedig am y dyfarniad yn llawn. |
Dogfennau ategol: