Agenda item

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD CWARTER 1 - 1AF EBRILL I'R 30AIN O FEHEFIN 2019

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Perfformiad ynghylch Amcanion Llesiant 2019/20 y Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer Chwarter 1. Roedd yr adroddiad yn cynnwys camau gweithredu a mesurau mewn perthynas â'r Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2018-2023 i gyflawni'r Amcanion Llesiant ar gyfer 2019/20 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

Nodwyd bod saith o blith y 64 o gamau gweithredu a mesurau o fewn yr adroddiad wedi cael eu symud ymlaen hyd at ddwy flynedd heb unrhyw eglurhad. Gofynnodd yr aelodau sut roedd penderfyniadau i symud targedau'n cael eu gwneud ac a oedd y penderfyniad wedi cael ei wneud gan y Bwrdd Gweithredol. Rhoddodd yr Uwch-swyddog Rheoli Perfformiad wybod bod rhai camau gweithredu wedi cael eu hadolygu yn unol â'r Strategaeth Gorfforaethol. Yn ogystal, mynegodd yr Aelodau bryder ynghylch y diffyg sylw roedd yr adroddiad yn ei roi i rai targedau, gan nodi bod targedau mewn perthynas â gwastraff yn ymddangos yn benodol iawn, ond roedd y targedau a bennwyd i leihau'r defnydd o ynni yn ymddangos yn amhendant mewn cymhariaeth. Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol oedd yn bresennol wybod y byddai'n sôn am y pryderon i'r Bwrdd Gweithredol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch strategaethau ardaloedd penodol mewn perthynas â Cham Gweithredu 10486, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Gwastraff wybod i'r Aelodau nad oedd dadansoddiad o bob ardal ar gael ond gellid rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynlluniau at y dyfodol mewn ardaloedd lleol.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at Gam Gweithredu 14088 a oedd yn cyfeirio'n rhannol at g?n yn baeddu, a rhoddwyd gwybod iddynt fod y mater yn dal i gael ei adolygu. Nododd y Cadeirydd fod y pwyllgor wedi cytuno i gynnal cyfarfod i drafod rheoliadau arfaethedig mewn perthynas â Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, a hynny yn ei gyfarfod ym mis Mai (Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, 17 Mai 2019, Cofnod 6.3). Byddai c?n yn baeddu/mesurau rheoli yn cael eu hystyried yn y cyfarfod hwnnw. Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol oedd yn bresennol wybod y byddai'n fodlon mynychu'r cyfarfod.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch Cam 14093 mewn perthynas â'r rhaglen Buddsoddi er mwyn Arbed, a oedd yn cynnig benthyciadau i Gynghorau Tref a Chymuned i newid lampau stryd i olau Deuodau Allyrru Golau (LED), rhoddodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth wybod mai rhwng Llywodraeth Cymru a'r Cyngor Sir oed y benthyciad ac yna byddai cytundeb benthyg ar wahân yn cael ei greu rhwng y Cyngor Sir a'r Cyngor Cymuned perthnasol.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth ynghylch lleoliad y 26 o bwyntiau gwefru newydd y cyfeiriwyd atynt yng Ngham 13270. Roedd yr Aelodau'n awyddus i weld y pwyntiau gwefru hyn yn cael eu gosod mewn mannau gwledig fel y nodir yn y targed. Rhoddodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth wybod bod grant o £220,000 gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i osod 26 o bwyntiau gwefru cyhoeddus ledled y sir, yn bennaf mewn trefi a phentrefi lle y mae meysydd parcio. Nodwyd y bydd pwyntiau gwefru'n cael eu gosod mewn ardaloedd gwledig yn y blynyddoedd sydd i ddilyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL –

5.1      dderbyn yr adroddiad;

5.2       bod eglurhad digonol yn cael ei roi ynghylch unrhyw dargedau arfaethedig sy'n cael eu symud;

5.3       bod y Bwrdd Gweithredol yn adolygu cwmpas y targedau a osodwyd.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau