Agenda item

CAIS AM DRWYDDED SAFLE LLANELLI WANDERERS RFC, STRADEY PARK AVENUE, LLANELLI SA15 4BT.

Cofnodion:

Gadawodd yr Is-bwyllgor Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 9.35am ac ailymgynullwyd ar y safle am 10.15am, er mwyn gweld y safle uchod lle cafwyd cyfle i weld y cyfleusterau mewnol ac allanol a lleoliad eiddo'r gwrthwynebwyr. Ar ôl i'r ymweliad â'r safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 11.30am i ystyried y cais.

 

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Glwb Rygbi Crwydriaid Llanelli am drwydded safle mewn perthynas â'r safle uchod i ganiatáu'r canlynol:-

 

Cyflenwi Alcohol a Cherddoriaeth a Recordiwyd - o ddydd Mercher i ddydd Sul 12:00 – 23:30,

 

Oriau Agor: Dydd Mercher - Dydd Sul 12:00-00:00,                                                                                                  

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A - copi o'r cais

Atodiad B - sylwadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu

Atodiad C  - sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys

Atodiad D - sylwadau a gyflwynwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd

Atodiad E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.

 

 chytundeb yr holl bartïon, dosbarthwyd copïau o ddogfennau ychwanegol i'r Is-bwyllgor a oedd yn cynnwys newidiadau i'r amodau a gynigiwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd yn y Cyngor; cynllun yn dangos lleoliad eiddo'r gwrthwynebwyr mewn perthynas â'r safle/eiddo y cyfeiriwyd ato yn y cais, ynghyd ag e-bost gan yr ymgeisydd yn diwygio'r cais drwy eithrio chwarae cerddoriaeth a recordiwyd yn hwyrach na 23:00. Yn ogystal, cafodd yr Is-bwyllgor ohebiaeth ychwanegol gan un o'r gwrthwynebwyr i'r cais arfaethedig, a oedd wedi'i chyflwyno'n flaenorol i'r ymgeisydd a'r awdurdodau cyfrifol.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad, ac argymhellodd petai'r Is-bwyllgor yn penderfynu caniatáu'r cais bod yr amodau awgrymedig a gynigiwyd gan Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd (fel y'i diwygiwyd) yn cael eu gosod ar y drwydded.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu hefyd at benderfyniad yr ymgeisydd i dynnu elfen o'r cais yn ei hôl mewn perthynas â chwarae cerddoriaeth a recordiwyd tan 23:30. Rhoddodd wybod i'r Is-bwyllgor, yn dilyn newidiadau i'r Ddeddf Trwyddedu a Dadreoli Adloniant Rheoledig, fod hawl awtomatig gan unrhyw safle â thrwydded alcohol i chwarae cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth a recordiwyd rhwng 8:00am a 11:00pm, heb i hynny ymddangos ar y drwydded safle neu heb unrhyw amodau ynghlwm wrth y drwydded honno. Fodd bynnag, petai chwarae cerddoriaeth yn achosi niwsans, roedd y ddeddfwriaeth yn caniatáu cyflwyno cais am adolygiad o'r hawl honno.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad C i'r adroddiad, a gofynnodd am osod y 13 amod awgrymedig a nodwyd ynddo ar y drwydded fel rhai angenrheidiol a chymesur ar gyfer hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu. Roedd yr ymgeisydd wedi cytuno ar y rheiny.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad D i'r adroddiad, a'r wyth amod diwygiedig canlynol a ddosbarthwyd yn y cyfarfod:-

 

1.    Cyfyngir yfed alcohol i'r safle Trwyddedadwy yn unig;

2.    Ni chaniateir yfed alcohol ar ôl 21:00 mewn unrhyw fannau allanol sydd y tu mewn i ffiniau'r safle;

3.    Ni chaniateir gwydrau agored na chynwysyddion gwydr mewn unrhyw fannau allanol ar y safle;

4.    Dynodir y man gorchuddiedig/cysgodol wrth ymyl prif fynedfa'r adeilad fel y man ysmygu a rhaid i'r holl gwsmeriaid ddefnyddio'r man hwn i ysmygu;

5.    Rhaid darparu cynhwysedd addas yn y man ysmygu i gwsmeriaid daflu eu stympiau sigaréts;

6.    Rhaid cadw'r holl ffenestri a drysau allanol ar gau ar ôl 20:00, ac eithrio mynd i mewn a gadael y safle;

7.    Rhaid dangos hysbysiadau cwrteisi amlwg, clir a darllenadwy i gymdogion wrth bob allanfa yn gofyn i'r cyhoedd barchu anghenion preswylwyr lleol ac iddynt adael y safle a'r ardal yn ddistaw;

8.    Rhaid defnyddio’r allanfa dân yn yr ystafell ddigwyddiadau ar y llawr cyntaf a grisiau'r ddihangfa dân mewn argyfwng yn unig ac nid ar unrhyw adeg arall.

 

Dywedodd cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ei fod wedi siarad â'r ymgeisydd ynghylch yr amodau diwygiedig arfaethedig ac y cytunwyd i gynnwys amodau 2-8 ar unrhyw drwydded a allai gael ei rhoi, ond bod amod 1 yn cael ei dynnu'n ei ôl.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Rhoddwyd cyfle i'r gwrthwynebwyr roi sylwadau ar y cais, ac ailadroddwyd rhai o'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn eu sylwadau yn Atodiad E ynghyd â'r deunydd ychwanegol a ddosbarthwyd. Roedd y rhain yn cynnwys:-

·         hanes cynllunio'r safle,

·         cwyn flaenorol am y niwsans s?n ym mis Mehefin 2018,

·         lleoliad tri safle trwyddedig arall yn y cyffiniau,

·         profiad blaenorol o s?n yn tarfu yn ystod digwyddiadau'r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro a'r potensial ychwanegol i s?n gan gwsmeriaid y clwb rygbi darfu ar ôl 11:00pm, a fyddai'n effeithio ar amwynder preswyl a chwsg plant ifanc,

·         ystyriwyd bod y cais yn ddiangen a dylai'r clwb barhau i wneud cais am drwyddedau Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro yn hytrach na thrwydded barhaol.

·         pryder y gallai caniatáu trwydded arwain at newid y clwb yn dafarn yn y dyfodol

·         agosrwydd y safle at eiddo preswyl a'r ffaith bod y ffenestri ar y llawr cyntaf yn wynebu'n uniongyrchol ystafelloedd wely'r eiddo hwnnw.

·         os caniateir y drwydded gan yr Is-bwyllgor, dylid ei chyfyngu i ddydd Gwener a dydd Sadwrn.

·         dylai'r gwaith i uwchraddio'r system teledu cylch cyfyng, yn unol â gofynion yr Heddlu, gael ei ymestyn i gynnwys y maes parcio o flaen y clwb.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd.

 

Cadarnhaodd yr ymgeisydd, wrth ymateb i'r materion a fynegwyd, er nad oedd y clwb wedi bwriadu gwerthu alcohol i ddechrau, roedd y rhesymau dros gyflwyno'r cais yn cynnwys cael gwared â'r angen i wneud cais am Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro a'r gost sy'n gysylltiedig â hynny, gellid gwneud cais am hyd at 16 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro mewn blwyddyn, i reoli pobl sy'n dod â'u halcohol eu hunain i'r safle yn ystod digwyddiadau'r Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro, i gynyddu refeniw'r clwb ac i ddarparu cyfleusterau i'w noddwyr. Dim ond gwerthu caniau cwrw o'r oergell oedd bwriad y clwb, nid oedd lle yn y clwb i ddarparu bar neu seler i hwyluso gwerthu cwrw casgen. Hefyd, bwriad y clwb oedd gweithio gyda'r gymuned leol i darfu cyn lleied â phosibl ar breswylwyr.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd.

 

Ar hynny,

 

PENDERFYNODD YR IS-BWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a oedd wedi ei rhoi gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais am drwydded safle ar gyfer Clwb Rygbi Crwydriaid Llanelli yn cael ei ganiatáu, wedi'i ddiwygio, a hynny'n unol â'r amodau trwyddedu yr oedd yr ymgeisydd, yr Heddlu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd wedi cytuno arnynt.

 

RHESYMAU

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

  1. Roedd y clwb wedi'i leoli'n agos iawn at nifer fawr o safleoedd preswyl.
  2. Nid oedd y clwb wedi cael trwydded safle o'r blaen.
  3. Rhoddwyd 16 o Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro i'r safle mewn perthynas â gwerthu alcohol yn y clwb rhwng Tachwedd 2018 a Medi 2019.
  4. Cafodd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd g?yn ynghylch niwsans s?n o'r safle ym mis Mehefin 2018.
  5. Nid oedd yr ymgeisydd bellach yn ceisio trwydded i ddarparu adloniant rheoledig ar y safle.
  6. Roedd cerddoriaeth ac ymddygiad swnllyd gan gwsmeriaid y clwb wedi tarfu ar breswylwyr lleol pan gafodd digwyddiadau eu cynnal yn flaenorol dan Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro.
  7. Nid oedd yr un o'r Awdurdodau Cyfrifol wedi gwrthwynebu caniatáu trwydded mewn egwyddor.
  8. Roedd yr Heddlu wedi cynnig amodau i'w hychwanegu at y drwydded i hyrwyddo atal troseddau ac anhrefn. Roedd yr ymgeisydd wedi derbyn yr amodau hynny.
  9. Roedd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd wedi cynnig amodau i'w hychwanegu at y drwydded i hyrwyddo atal niwsans cyhoeddus. Roedd yr ymgeisydd wedi derbyn yr amodau hynny.
  10. Roedd y cais am drwydded o ddydd Mercher tan ddydd Sul yn unig.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor bwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol.

 

Yr oedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.

 

Yn yr un modd, nid oedd materion ynghylch angen, ac a oedd lleoliadau tebyg eraill ar gael yn agos ai peidio, yn ystyriaethau perthnasol o dan y Ddeddf Trwyddedu.

 

Nododd yr Is-bwyllgor yr anghysondeb posibl rhwng caniatâd cynllunio presennol y safle a'r cais am drwydded. Fodd bynnag, nid oedd yr Awdurdod Cynllunio wedi cynnig unrhyw sylwadau ynghylch hyn ac roedd paragraff 13.5 o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Cyngor yn ei gwneud yn glir nad oedd hyn yn rhwystr i ganiatáu trwydded. Cynghorwyd yr ymgeisydd, fodd bynnag, i geisio eglurdeb ynghylch unrhyw faterion cynllunio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn defnyddio'r drwydded.

 

Derbyniodd yr Is-bwyllgor dystiolaeth Mr a Mrs Toft ynghylch effaith niweidiol s?n o'r safle yn y gorffennol. Derbyniodd y dystiolaeth ysgrifenedig hefyd gan y preswylwyr eraill ynghylch yr effaith arnynt. Ar y sail honno, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon y byddai'r cais, fel y'i cyflwynwyd yn wreiddiol, wedi tanseilio'r amcanion trwyddedu.

 

Fodd bynnag, roedd yn ofynnol i'r Is-bwyllgor roi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol, yn enwedig yr Heddlu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd yn yr achos hwn. Roedd y ddau awdurdod cyfrifol hwn o'r farn, yng ngoleuni'r newidiadau a wnaed gan yr ymgeisydd i'r cais, y gellid hyrwyddo’r amcanion trwyddedu yn briodol drwy osod yr amodau trwydded y cytunwyd arnynt gan yr ymgeisydd a'u bod yn ymateb cymesur i'r materion a fynegwyd gan breswylwyr lleol.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried cyfyngu ar oriau trwyddedadwy ddydd Mercher, dydd Iau a dydd Sul i leihau'r effaith ar nosweithiau cyn diwrnodau ysgol, ond teimlwyd na ellid cyfiawnhau hynny yng ngoleuni'r dystiolaeth gan yr awdurdodau cyfrifol.

 

Felly, roedd yr Is-bwyllgor wedi'i fodloni ei bod yn briodol caniatáu'r drwydded, yn amodol ar yr amodau trwydded a gytunwyd, a bod hyn yn ymateb cymesur i'r materion a nodwyd. Wrth ddod i’r casgliad hwn, nododd yr Is-bwyllgor os byddai defnydd o'r drwydded yn tanseilio'r amcanion trwyddedu, yn enwedig os oedd yn achosi niwsans cyhoeddus i breswylwyr lleol, gellid adolygu'r drwydded ac, yn y pen draw, roedd gan yr Is-bwyllgor hawl i'w hatal neu ei diddymu.

 

Anogodd yr Is-bwyllgor y clwb i gydweithio'n agos â'r preswylwyr i fonitro effaith y drwydded ac anogodd breswylwyr lleol, os bydd gweithgareddau trwyddedadwy yn tarfu arnynt, i ymgysylltu â'r awdurdodau cyfrifol fel y gellid cymryd camau priodol.

 

 

Dogfennau ategol: