Cofnodion:
Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.
Gan gyfeirio at gofnod 2 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2018, rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i geisiadau am gymorth gan Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin. Blaenoriaeth y ddwy gronfa oedd cefnogi'r gwaith o greu swyddi a busnesau newydd yn y Sir.
PENDERFYNWYD:
5.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin, yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a'r rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
Cronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin |
||
Cyfeirnod y Cais |
Yr Ymgeisydd |
Y Dyfarniad |
SUF104 |
Bird in Hand |
£10,000.00 |
SUF109 |
Meithrinfa Dydd Blodau Melyn/ Buttercup Day Nursery |
£10,000.00 |
SUF111 |
Care and Independence Wales |
£5,431.39 |
SUF100 |
Praiseworthy Apparel Ltd. |
£9,120.00 |
SUF50 |
Crazie Catering |
£10,000.00 |
SUF107 |
Caits Bakess |
£1,651.76 |
SUF106 |
S?n y Coed |
£4,541.69 |
SUF91 |
Casber Scaffolding |
£10,000.00 |
SUF105 |
Amaeth Cothi |
£8,255.25 |
SUF108 |
Disaster Care Red Dragon |
£10,000.00 |
SUF94 |
Online Cab Solutions |
£4,407.51 |
SUF103 |
Skyr Wales |
£10,000.00 |
Cronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin |
||
Cyfeirnod y Cais |
Yr Ymgeisydd |
Y Dyfarniad |
GF130 |
Shufflebottom |
£10,000.00 |
GF116 |
Power Steering Solutions |
£10,000.00 |
GF119 |
Cywion Bach |
£5,000.00 |
GF110 |
Meithrinfa Jac-y-Do |
£3,427.26 |
GF131 |
Morgan Marine |
£10,000.00 |
GF121 |
J Robinson |
£6,630.00 |
GF124 |
MPW Document Solutions |
£10,000.00 |
5.2 ar ôl datgan diddordeb yn gynharach, gofynnodd y Cynghorydd E. Dole i’r cais canlynol gael ei gyfeirio at y Bwrdd Gweithredol i’w ystyried.
Cyfeirnod y Cais |
Yr Ymgeisydd |
Y Dyfarniad |
GF131 |
Ynni Da (Cyng. A. Vaughan Owen) |
£2,487.00 |
Dogfennau ategol: