Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ANDRE MCPHERSON I'R CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Campbell am ddod i ddigwyddiad Pride Llanelli. Rwy’n credu y bydd pawb a ddaeth yn cytuno ei fod yn llwyddiant mawr i gydraddoldeb yn Sir Gaerfyrddin.  Yng ngoleuni hyn, a allaf ofyn i’r Cynghorydd Campbell pryd y bydd y polisi ynghylch baneri yn newid, fel ein bod yn gwybod bod digwyddiadau yn cael eu nodi, e.e. mis ymwybyddiaeth o Ganser y Fron, drwy chwifio baner?  Dywedodd y Cynghorydd Campbell ei fod wedi llunio amserlen o faneri ac, ar ôl trafodaethau, cytunais fod hynny’n syniad da.  Eto, a allaf ofyn pryd y bydd hyn yn cael ei roi ar waith?  Gobeithiaf y bydd hyn yn cael ei gadarnhau yn fuan, gan ei fod wedi bod yn mynd ymlaen ers tro. Diolch eto.”

 

 

Cofnodion:

“Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Campbell am ddod i ddigwyddiad Pride Llanelli. Rwy’n credu y bydd pawb a ddaeth yn cytuno ei fod yn llwyddiant mawr i gydraddoldeb yn Sir Gaerfyrddin. Yng ngoleuni hyn, a allaf ofyn i’r Cynghorydd Campbell pryd y bydd y polisi ynghylch baneri yn newid, fel ein bod yn gwybod bod digwyddiadau yn cael eu nodi, e.e. mis ymwybyddiaeth o Ganser y Fron, drwy chwifio baner? Dywedodd y Cynghorydd Campbell ei fod wedi llunio amserlen o faneri ac, ar ôl trafodaethau, cytunais fod hynny’n syniad da. Eto, a allaf ofyn pryd y bydd hyn yn cael ei roi ar waith? Gobeithiaf y bydd hyn yn cael ei gadarnhau yn fuan, gan ei fod wedi bod yn mynd ymlaen ers tro. Diolch eto."

 

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

 

"I ateb y cwestiwn, mae gennyf galendr digwyddiadau drafft yr wyf wedi bod yn gweithio arno gyda swyddogion. Fy nod yw gwneud hyn drwy'r broses ddemocrataidd - hynny yw drwy'r Bwrdd Gweithredol erbyn y mis nesaf – ac os gallaf rannu rhai o'r uchafbwyntiau gyda chi, rhai o'r digwyddiadau yr ydym wedi nodi y byddwn yn eu dathlu fel rhan o'r grwpiau â nodweddion gwarchodedig e.e. mae Fforwm 50+ sy'n digwydd yfory – rydym ni'n hapus fel awdurdod lleol i gefnogi hynny, hoffwn sôn am un neu ddwy enghraifft i chi weld y math o ddigwyddiadau amrywiol, ac os caf ddweud hefyd, nid chwifio baneri a goleuo adeiladau'r cyngor yn unig ydyw, mae'n llawer fwy na hynny - mae hynny'n symbolaidd mewn sawl ffordd – ond mewn gwirionedd mae'n cynnwys rhestr o weithgareddau cadarnhaol yr ydym yn gobeithio eu trefnu i gynyddu ymwybyddiaeth o nodweddion gwarchodedig ac mae chwifio baneri a goleuo adeiladau yn rhan o hynny ond nid dyna'r unig ffordd y byddwn yn dathlu. Felly i sôn yn gyflym iawn, bydd Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ym mis Hydref, Mis Hanes Pobl Dduon hefyd ym mis Hydref, ym mis Tachwedd rydym yn dathlu Diwrnod y Rhuban Gwyn sy'n mynd yn fwy poblogaidd bob blwyddyn, Diwrnod AIDS y Byd ym mis Rhagfyr, Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, Mis Hanes LGBT ym mis Chwefror, Diwrnod Cofio'r Holocost ym mis Ionawr ac ati, bydd Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia a Thrawsffobia hefyd ym mis Mai. Felly rydym wedi treulio tipyn o amser yn edrych ar y calendr o ddigwyddiadau sy'n cael eu dathlu nid yn unig yng Nghymru ond yn y DU a ledled y byd hefyd ac rydym am fod yn rhan o'r neges honno ein bod yn dymuno i fod yn gymdeithas goddefgar ac amrywiol. Felly, gobeithio y bydd yr amserlen hon yn cael ei chyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol ym mis Hydref ac rwy'n eithaf hyderus y bydd yn cael ei phasio a bydd yn rhan o'n calendr digwyddiadau yn y dyfodol. Bydd y calendr yn un newidiol felly os hoffai unrhyw aelodau gynnwys unrhyw ddigwyddiadau ychwanegol ac os yw'r cyllid yn caniatáu hynny yna byddwn yn hapus i'w cynnwys hefyd."

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.