Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2018/19

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant drosolwg o'r adroddiad a thynnodd sylw'r Aelodau at yr Amcanion Llesiant perthnasol.

 

Mynegodd yr Aelodau'r materion/cwestiynau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad –

 

Nododd yr Aelodau, o ran fformat a chynnwys yr adroddiad, nad oedd data yn ymwneud â chanlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol y nodwyd yn yr adroddiad bod ei ddisgwyl ym mis Mehefin/Gorffennaf 2019 wedi'i gynnwys, er bod y data perthnasol ar gael ar-lein. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wybod y byddai'r data y cyfeiriwyd ato'n cael ei ddosbarthu i'r Aelodau ar ôl y cyfarfod.

 

Mynegwyd pryder ynghylch ffigurau presenoldeb yn yr ysgol ar Dudalen 36 yr adroddiad, a nodai mai ffigurau presenoldeb ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin oedd y ffigurau isaf yng Nghymru, gan eu bod wedi disgyn o 94.4% i 93.9% ac o'r 21ain safle i'r 22aub safle yn genedlaethol. Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch y mesurau a oedd ar waith i wella presenoldeb. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wybod fod y ffigurau'n ymwneud â data o 2017/18 a bod yr adran eisoes wedi nodi patrymau yn 2018/19 sy'n cael sylw, a bydd llythyr yn cael ei anfon at yr holl rieni a gwarcheidwaid yn annog presenoldeb llawn. Nododd ymhellach fod llai na 2% o wahaniaeth rhwng yr awdurdod â'r perfformiad gorau a'r awdurdod â'r perfformiad gwaethaf. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y Gwasanaeth Lles Addysg wedi'i ailfodelu a'i gysylltu â'r Swyddog Diogelu Addysg, gyda'r bwriad y bydd y newid yn darparu cymorth gwell ac yn gwella presenoldeb plant sy'n anodd eu cyrraedd a phlant agored i niwed. Roedd mwy o gymorth â ffocws yn cael ei roi i ysgolion i reoli absenoldeb. Hefyd, rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wybod i'r Aelodau, o ran y data a oedd yn cael ei adolygu, fod y broses o godio absenoldeb yn anghyson, a byddai hyfforddiant ac arweiniad ar gysondeb yn cael eu darparu; fodd bynnag, ni fyddai hyn yn sicrhau gwelliant. Yn y blynyddoedd diwethaf, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru oedd cysondeb o ran codio, ond bellach roedd yn gyfrifoldeb ar bob awdurdod lleol unigol. Cytunodd yr Aelodau nad oedd y ffigurau presenoldeb isel yn cyd-fynd â pherfformiad da mewn meysydd eraill.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch y system sgorio newydd y cyfeirir ati ar Dudalen 41, a oedd yn mesur canlyniadau arholiadau ar gyfer disgyblion Blwyddyn 11. Rhoddodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant wybod fod hwn yn fesur newydd a oedd yn disodli'r hen system o fesur 5 canlyniad TGAU, a oedd yn cynnwys Iaith a Mathemateg. Byddai'r mesur newydd yn sgorio'r naw canlyniad gorau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod data cymharol o flynyddoedd blaenorol ar gael a byddai'n cael ei gynnwys yn yr adroddiad ar Ganlyniadau Amodol Arholiadau a fyddai'n cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf. Byddai data am gyrhaeddiad yn ymwneud â rhywedd hefyd yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y cynnydd yn nifer y disgyblion ym Mlwyddyn 11 ac 13 nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) a'r ddarpariaeth ar gyfer Blwyddyn 13, rhoddodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant wybod fod gwaith sylweddol yn cael ei wneud ar draws adrannau i gefnogi disgyblion NEET. Ar hyn o bryd, roedd cyllid Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r gwaith hwn, ac yng ngoleuni'r sefyllfa wleidyddol bresennol, roedd cynlluniau wrth gefn i'w rhoi ar waith i barhau â'r gwaith hwn yn y tymor hir. Nododd hefyd fod y ddarpariaeth ar gyfer Blwyddyn 13 yn anstatudol, ond roedd yn ofynnol i awdurdodau gynnig o leiaf 30 o bynciau ar ôl-16 er mwyn cael cwricwlwm eang. Mae canolbwynt ar ddatblygu disgyblion i fod yn ddinasyddion a gweithwyr wedi newid i ailasesu'r cwricwlwm gyda chanolbwynt cryf ar gyrsiau galwedigaethol a gwneud dewisiadau mwy gwybodus. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod disgyblion Blwyddyn 11 wedi cael eu hannog i ystyried beth oedd eu hopsiynau ac i ddeall lle y gallai eu dewisiadau eu harwain, yn enwedig mewn perthynas â chyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau. Nododd hefyd fod yr awdurdod yn cynnig nifer o brentisiaethau bob blwyddyn, a bod Budd i'r Gymuned gan gontractwyr Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd i bobl ifanc.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wybod, o ran y mesurau perfformiad ar gyfer yr Adran Addysg a Phlant, fod toriadau yn y gyllideb yn ystod y tair blynedd diwethaf wedi arwain at ostyngiad yn nifer y staff ac adnoddau. Roedd yr adran yn parhau i weithio i wella'r mesurau yn yr adroddiad, dan yr amgylchiadau a nodwyd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: