Agenda item

S/37227 - SYCHU A STORIO HELYG O'R GOEDWIG GYFAGOS. CLODDIO A GWAREDU ARDALOEDD O LAWR CALED NAS AWDURDODWYD GAN GADW'N UNIG YR HYN SYDD EI ANGEN I DDARPARU MYNEDIAD I GERBYD I'R ADEILAD. GWELLA MYNEDIAD I'R BRIFFORDD GYHOEDDUS YNGHYD Â GWEITHREDU STRATEGAETH DRAENIAD DŴR WYNEB GAN GYNNWYS CREU PWLL GWANHAU NEWYDD A DRAENIO CYSYLLTIEDIG AR DIR YN GRUGOS WOOD, LLANNON, LLANELLI, SA14 8JH.

Cofnodion:

[Sylwer: Gan eu bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd D. Jones a'r Cynghorydd G.B. Thomas Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at yr ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.1 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio oedd wedi ei gynnal ar 27 Mehefin 2019) er mwyn rhoi cyfle i'r Pwyllgor allu gweld yr effaith ar yr amgylchedd gan gynnwys difrod i'r mawnogydd lleol ac hefyd i asesu'r briffordd ynghylch llifogydd a d?r arwyneb. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a'r atodiad, a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn ei hadroddiad ysgrifenedig hi.

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) wrth y Pwyllgor, yn ychwanegol at y 61 o bryderon a gwrthwynebiadau a ddaeth i law, fod dau lythyr arall yn cynnwys sylwadau wedi dod i law yn gwrthwynebu'r cais. Er bod y prif bryderon a'r gwrthwynebiadau a godwyd wedi'u nodi yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, roedd y Pwyllgor hefyd wedi ystyried y pryderon a'r gwrthwynebiadau ychwanegol a ddaeth i law a oedd wedi'u nodi yn yr atodiad.

 

Cafodd sylw ei roi gerbron y Pwyllgor yn gwrthwynebu'r cais, gan ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio. Roedd y prif bryderon yn ymwneud ag effaith y datblygiad ar system ddraenio yr ardal hon a'r problemau posibl o ran llifogydd. Hefyd, gan fod yr ardal yn cynnwys mawnogydd, dylid cadw'r cynefin. Yn ogystal, adroddwyd sylwadau ysgrifenedig yn gwrthwynebu'r cais gan y Cadeirydd ar ran yr Aelod Lleol yn ei absenoldeb.

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) i'r materion a godwyd fel y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig/atodiad y Pennaeth Cynllunio. 

 

Yn ogystal, mewn ymateb i nifer o bryderon a godwyd ynghylch effaith y cynllun ar broblemau draenio sydd eisoes yn bodoli ar y briffordd, eglurodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) fod gwaith wedi'i wneud yn ddiweddar ar y briffordd i ddatrys y broblem, drwy wella'r llif i gwlfer d?r wyneb presennol. Roedd y cais yn cynnwys cynllun d?r wyneb a oedd yn cynnwys pwll traeniad i sicrhau y byddai d?r wyneb yr adeilad a'r rhan fwyaf o'r trac mynediad yn cael ei liniaru i raddau tir glas er mwyn sicrhau na fyddai d?r ychwanegol yn llifo i'r draeniau d?r wyneb a oedd yn croesu'r briffordd. Cynigiwyd y byddai unrhyw dd?r a oedd yn weddill o'r trac mynediad yn cael ei ddargyfeirio i ffos a oedd eisoes yn bodoli.  Nod y cynllun felly oedd sicrhau na fyddai'r d?r o'r mynediad a'r llwybr yn cael effaith andwyol.

 

Nododd yr Aelodau yr ymgynghorwyd â Pheirianwyr Draenio'r Sir a Chyfoeth Naturiol Cymru ynghylch y cais ac nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio S/37227 yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau