Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2018/19, a luniwyd yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rhoddodd yr adroddiad drosolwg o berfformiad 2018/19 a chynnydd pob un o'r 15 Amcan Llesiant. Canolbwyntiodd yr aelodau ar yr adrannau canlynol yn y ddogfen gan fod y rheiny'n berthnasol i gylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu - Cymunedau:
· Rhagarweiniad
· AMCAN LLESIANT 2. Helpu plant i ddilyn ffyrdd iach o fyw
· AMCAN LLESIANT 5. Trechu Tlodi
· AMCAN LLESIANT 6. Creu mwy o swyddi a thwf ledled y sir
· AMCAN LLESIANT 7. Cynyddu faint o dai rhent a thai fforddiadwy sydd ar gael
· AMCAN LLESIANT 8. Helpu pobl i fyw bywydau iach (mynd i'r afael ag ymddygiad peryglus a gordewdra)
· AMCAN LLESIANT 14. Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru
· Atodiadau
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at dudalen grynhoi'r Mesurau Llwyddiant Allweddol. Dywedwyd bod defnyddio gwepluniau'n amhriodol i nodi llwyddiant rhai o'r mesurau. Cytunodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth a dywedodd y byddai'n chwilio am symbol mwy priodol i ddangos y llwyddiant drwy'r ddogfen.
· Yn dilyn nifer o sylwadau ynghylch y targedau, roedd yr Aelodau o'r farn bod angen i'r targedau fod yn fwy realistig neu'n dryloyw pe byddai tuedd yn cael ei nodi mewn perthynas â diffyg gwelliant bob blwyddyn. Roedd y Pennaeth Hamdden yn cydnabod bod rhai o'r targedau'n uchelgeisiol a bod cynnydd rhai o'r mesurau heb ddatblygu llawer ac efallai y bydd yn cymryd amser ychwanegol i gyflawni gwelliannau.
· O ran y graff yn Amcan Llesiant 9, a ddangosai 'canran y bobl sy'n teimlo bod ganddynt ymdeimlad o gymuned'. Mynegwyd canmoliaeth gan mai Sir Gaerfyrddin yw'r 4ydd uchaf o flwyddyn i flwyddyn o ran y % newid, ar ôl lleihau o 73% yn 2014/15 i 47.4%. Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth fod y llwyddiant oherwydd bod y Tasglu Gwledig yn monitro cymunedau gwledig, a oedd yn gweithio ar ffyrdd i wella cynhwysiant cymdeithasol drwy weithio mewn partneriaeth a chydweithio.
Dywedwyd y byddai'r argymhellion o'r adolygiad Gorchwyl a Gorffen ynghylch Unigrwydd yn cyfrannu at Amcan Llesiant 9. Yn ogystal, dywedodd aelod fod grant o'r gronfa effeithlonrwydd o hyd at £5k ar gael. Fodd bynnag, gan fod y grant hwn yn boblogaidd, cynghorir bod cais yn cael ei gyflwyno'n gyflym. Roedd y Pennaeth Hamdden yn cytuno ac yn cydnabod mor bwysig oedd i Gynghorwyr a Swyddogion fanteisio ar unrhyw gynlluniau sydd ar gael iddynt.
· Mewn ymateb i ymholiad mewn perthynas â'r Caffi a'r Maes Carafanau ym Mharc Gwledig Pen-bre, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y ddigwyddiadau uchel eu proffil niferus wedi bod o fudd i'r ardal ac y byddai'r Caffi'n gwneud gwahaniaeth mawr i'r hyn a gynigir yn y parc. Roedd rhai problemau cychwynnol o ran y system rhwystr newydd yn y maes parcio ac yn y cyfamser, er mwyn cynorthwyo ag unrhyw faterion a sicrhau bod ceir yn gallu dod i mewn a gadael yn hwylus, roedd staff yn gweithio ger y rhwystr ar adegau prysur, ac roedd system intercom ar waith ar adegau eraill.
· Dywedwyd y gallai Cyngor Sir Caerfyrddin gael budd o ailgyflwyno hawlenni pysgota, gan fanteisio ar asedau'r cyngor ledled y sir. Yn ogystal, awgrymwyd y gallai'r Cyngor achub ar y cyfle hwn heb lawer o ymdrech na chostau.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cyllido, dywedodd y Pennaeth Hamdden nad oedd hwn wedi bod yn faes ffocws i'r adran dros y blynyddoedd diweddaf, ond cytunodd y gellid archwilio a datblygu'r maes hwn. Ychwanegodd y Pennaeth Hamdden efallai ei bod yn golygu defnyddio'r adnoddau a'r partneriaethau presennol, cymaint â chyllido buddsoddiad yn y lle cyntaf. Byddai angen i'r gwaith cychwynnol gael ei gyflawni ar y cyd ag asiantaethau, cyrff llywodraethu, busnesau a chlybiau lleol allweddol er mwyn llunio cynllun cydlynol ar gyfer cydlynu adnoddau o'r fath.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
6.1 ofyn i'r Pennaeth Hamdden ystyried y posibilrwydd o gynnal cyfarfod ag asiantaethau allweddol i ystyried y posibilrwydd o hyrwyddo cyfleoedd pysgota ledled y sir.
6.2 ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2018/19.
Dogfennau ategol: