Agenda item

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO

Cofnodion:

4.1 PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:

 

S/37227

Sychu a storio helyg o'r goedwig gyfagos.Cloddio a gwaredu ardaloedd o lawr caled nas awdurdodwyd gan gadw'n unig yr hyn sydd ei angen i ddarparu mynediad i gerbyd i'r adeilad. Gwella mynediad i'r briffordd gyhoeddus ynghyd â gweithredu strategaeth draeniad d?r wyneb gan gynnwys creu pwll gwanhau newydd a draenio cysylltiedig ar dir yn Grugos Wood, Llannon, Llanelli, SA14 8JH.

 

[Noder: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd D. Jones Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno].

 

Cafwyd sylw a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle er mwyn gweld yr effaith ar yr amgylchedd gan gynnwys difrod  i fawnogydd lleol ac hefyd i asesu'r briffordd mewn perthynas â llifogydd a d?r wyneb.

 

Yn unol â Phrotocol y Pwyllgor Cynllunio, roedd y gwrthwynebydd a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch y cais hwn wedi dewis cyflwyno ei sylwadau yn y cyfarfod a fydd yn dilyn yr ymweliad â'r safle.

 

RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y datblygiad arfaethedig ac i asesu effaith ar yr amgylchedd lleol, perygl llifogydd a'r briffordd.

 

S/37727

 

Adeiladu bloc warws unllawr newydd ynghyd ag adeiladu estyniad ail-lawr uwchben y swyddfa bresennol a gwaith cysylltiedig i faes parcio, ffasâd  a ffens perimedr (cyfanswm arwynebedd arfaethedig - 800 metr sgwâr) yn CK's Stores, Heol Arglawdd, Llanelli, SA15 2BT

 

RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle yn sgil pryderon a godwyd ynghylch amwynder gweledol a'r effaith bosibl ar eiddo cyfagos.

 

 

 

4.2       PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar gadarnhau manylion adran 106 a chael eglurder ynghylch canfyddiadau mewn perthynas â phroblemau posib o ran y draeniad presennol.

 

S/38544

 

Adeiladu 17 o breswylfeydd, heol yr ystad ac isadeiledd cysylltiedig (adolygu cynllun y safle a manylion y math o d? a gymeradwywyd dan ganiatâd cynllunio S/27674) ar dir Parc Gwernen, Fforestfach, Tycroes, Rhydaman, SA18 3PR        

 

Daeth sylw a wrthwynebai'r cais i law gan yr aelod lleol, ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio gan gynnwys pryderon mewn perthynas â:

 

  • lleoliadau'r lleiniau
  • colli preifatrwydd;
  • perygl o lifogydd
  • problemau presennol ynghylch d?r wyneb ;
  • problemau presennol ynghylch d?r carthffosiaeth yn gorlifo mewn gerddi
  • angen am gytundeb adran 106;
  • mabwysiadu ffyrdd;
  • effaith y byddai tai ychwanegol yn ei chael ar isadeiledd y pentref;
  • effaith ar ysgolion lleol sydd eisoes yn gweithio i'w capasiti llawn;
  • does dim llwybrau diogel ar hyd y briffordd e.e. palmant i'r siopau lleol
  • colli parc a meysydd chwarae;
  • rhoddwyd caniatâd eisoes i adeiladu 200+ o dai yn y ward.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) a'r Uwch-dechnegydd (Cyswllt Cynllunio) i'r materion a godwyd.

 

4.2  PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio:-

 

S/38564

 

Ymestyn yr adeilad storio presennol i'w droi'n addoldy.  Dymchwel yr adeilad presennol a fu gynt yn d? arwerthiant.  Uwchraddio maes parcio presennol a draenio ar gyfer defnydd arfaethedig yn 2 Heol Caerfyrddin, Cross Hands, Llanelli, SA14 6SP

 

Cafwyd sylwadau gan yr Aelod Lleol yn gwrthwynebu'r cais ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, ac roeddynt yn cynnwys y canlynol:

 

  • pryderon ynghylch priffyrdd;
  • pryderon ynghylch y cynydd a ragwelir yn nefnyddwyr ffyrdd.
  • ar hyn o bryd does dim darpariaeth ar gyfer croesfan i gerddwyr ar sgwâr Cross Hands na Heol Caerfyrddin er bod Ysgol Maes y Gwendraeth wedi'i chynnwys yn y cynllun 'llwybr mwy diogel i'r ysgol'.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) a'r Uwch-dechnegydd (Cyswllt Cynllunio) i'r materion a godwyd.

 

[Noder: Gwnaed cais i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle.  Cynigiwyd ac eiliwyd y cais yn briodol ond yn dilyn pleidlais gwrthodwyd y cais.]

 

S/38665

 

Preswylfa newydd â pharcio addas oddi ar y stryd ar dir ger 9 Trebuan, Felinfoel, Llanelli, SA15 4LH

 

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau