Cofnodion:
Bu i’r Cynghorydd D.J.R. Bartlett ddatgan buddiant, sef ei fod yn Llywydd Cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.
Bu’r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar ‘Paratoi’r Ffordd: Adolygiad Strategol o Drefniadau Cwricwlwm ac Asesu 3 – 19 yn Sir Gaerfyrddin’. Datblygwyd y cynigion er mwyn gweithredu argymhellion Donaldson (Dyfodol Llwyddiannus), Adolygiad Furlong a’r Fargen Newydd yn holl ysgolion a lleoliadau arbennig y Sir. Diben yr adolygiad oedd ystyried:
· Amlinellu’r prif themâu a heriau wrth gynllunio cwricwlwm ac asesu yn y cyfnod presennol, wrth ymateb i ddiwygiadau sydd ar ddigwydd a rhai pellgyrhaeddol ar raddfa genedlaethol.
· Cynnig ymatebion gwreiddiol i broblemau cymhleth a ddaw yn sgîl y diwygiadau arfaethedig i’r cwricwlwm ac asesu.
· Cynnig strategaethau pendant ar gyfer gweithredu diwygiadau a thrawsnewidiadau ystyrlon i’r cwricwlwm, er budd addysg pob dysgwr yn Sir Gaerfyrddin.
Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:
Gofynnwyd a fyddai ymddeoliad Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru yn effeithio ar y cynigion hyn ac a fyddai gweinyddiaeth a gweinidog addysg newydd yn dilyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai yn debygol o arwain at ragor o newidiadau. Cydnabu’r Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr fod hwn yn gwestiwn perthnasol ond yr ymddangosai bod consensws gwleidyddol o blaid y cynigion. Dywedodd fod cryn fomentwm y tu ôl i’r newidiadau arfaethedig oedd yn peri iddo gredu y byddai llawer o’r newidiadau hyn yn cael eu gweithredu beth bynnag fyddai canlyniad etholiadau’r Cynulliad.
Wrth ymateb i gwestiwn am gwricwlwm wedi’i deilwra i Sir Gaerfyrddin, cydnabu’r Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr na chafwyd eto unrhyw ganllawiau penodol gan Lywodraeth Cymru ond ei bod yn ymddangos fod y Gweinidog yn awyddus i roi hyblygrwydd i awdurdodau lleol o ran yr hyn oedd yn cael ei addysgu yn eu hysgolion. Awgrymodd, er y byddai testunau craidd y cwricwlwm yn cael eu gosod ar gyfer Cymru gyfan, y byddai athrawon yn y Sir yn gallu defnyddio hanes a thraddodiadau diwylliannol lleol er mwyn rhoi blas lleol i’w gwersi.
Nodwyd bod yr ‘ysgolion arloesi’ a restrir yn yr adroddiad i gyd yn ysgolion cynradd mwy o faint, ac awgrymwyd y byddai gofynion cwricwlwm ysgolion o’r fath yn wahanol iawn i rai ysgol wledig fechan a chanddi ddau neu dri o athrawon. Cydnabu’r Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr fod y rhai a restrwyd yn ysgolion mwy am y rheswm syml fod ganddynt y capasiti i ryddhau staff i weithio ar y datblygiadau newydd. Fodd bynnag, roedd swyddogion yn gweithio i sicrhau y gallai staff o ysgolion llai gyfrannu i’r gwahanol grwpiau datblygu’r cwricwlwm a sefydlir.
Gofynnwyd a fyddai gan Goleg Sir Gâr gwricwlwm gwahanol gan nad oedd o fewn awdurdodaeth yr Awdurdod Lleol. Dywedodd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr wrth y Pwyllgor i’r adolygiad o’r cwricwlwm 11-19 yn Sir Gaerfyrddin, sydd yng ngofal y Rheolwr Trawsnewid Dysgu, gael ei gynnal yn gyfochrog â datblygu’r ddogfen Paratoi’r Ffordd a’i fod yn ffrwyth trafodaethau rhwng yr Awdurdod Lleol a’r Coleg ar ddatblygu gweledigaeth strategol ar gyfer addysg yn y Sir. Byddai’r adolygiad yn nodi sut byddai angen i drefniadau partneriaeth presennol ddatblygu ac addasu er mwyn cyflwyno cwricwlwm oedd yn diwallu anghenion yr holl ddysgwyr 11-19 yn y Sir.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: