Agenda item

PERFFORMIAD A CHYRHAEDDIAD YSGOLION 2014/15

Cofnodion:

Bu i'r Cynghorydd D.J.R. Bartlett ddatgan buddiant, sef ei fod yn Llywydd Cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad ar berfformiad a chyflawniad ysgolion oedd yn crynhoi'r materion allweddol oedd yn deillio o ddadansoddiad o'r data mewn perthynas â pherfformiad ysgolion yn ystod blwyddyn academaidd 2014/15. Roedd yr adroddiad yn cynnwys yr elfennau canlynol:

 

·         Safonau: Cyflawniadau’r Sir ar gyfer 2014/15

·         Deilliannau Arolygiadau

·         Datblygu Gwerthoedd a Sgiliau

 

Hysbyswyd y Pwyllgor sut roedd perfformiad a safonau yn ysgolion y sir yn cymharu â'r ysgolion oedd yn perfformio orau ar draws rhanbarth ERW.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd sut roedd yr adran yn bwriadu gweithredu’r meysydd gwelliant y cyfeirir atynt yn yr adroddiad. Dywedodd y Prif Swyddog Addysg wrth y Pwyllgor y byddai’r tri phrif faes gwelliant (Perfformiad dysgwyr eFSM, perfformiad dysgwyr mwy abl a thalentog, perfformiad yn y Cyfnod Sylfaen) yn cael eu cynnwys yng nghynllun busnes yr adran ar gyfer 2016/17 yn ogystal â chael eu cynnwys yng nghynllun busnes ERW yn flaenoriaethau allweddol i’r Sir ar gyfer 2016/17. Ychwanegodd Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion fod pob ysgol yn cael ei chategoreiddio yn ôl y math o gefnogaeth yr oedd ei hangen arni ac mai Sir Gaerfyrddin oedd yr awdurdod cyntaf yn rhanbarth ERW i ymweld ag ysgolion yn rheolaidd i arwain gwelliannau. Roedd cynnydd yn amlwg, yn enwedig felly yn y sector uwchradd, lle’r oedd swyddogion wedi darparu cryn dipyn o gefnogaeth.

 

Holwyd ynghylch nifer yr Ymgynghorwyr Her oedd yn gweithio yn y Sir. Cadarnhaodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion fod 12 ymgynghorydd, er bod agweddau ar y gwaith hefyd yn cael eu cefnogi gan benaethiaid ysgolion neu swyddogion eraill o’r adran oedd yn cael eu defnyddio yn ôl y galw.

 

Cyfeiriwyd at bwysigrwydd arweinyddiaeth mewn ysgolion ond lleisiwyd pryder fod hyn wedi cael ei farnu’n anfoddhaol yn 10% o’r ysgolion a arolygwyd yn ystod 2014/15. Dywedodd Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion wrth y Pwyllgor fod hyn yn ymwneud â dwy ysgol, a oedd fel ei gilydd wedi dod allan o gategori monitro ESTYN yn ddiweddar yn dilyn eu gwahanol arolygiadau. Roedd swyddogion o’r Awdurdod wedi gweithio’n llwyddiannus gyda’r ysgolion yn ystod y cyfnod hwn ac roedd yn galonogol nodi nad oedd gan Sir Gaerfyrddin unrhyw ysgolion yn y sector isaf o ran perfformiad yng Nghymru.

 

Derbyniwyd, er bod yr adroddiad ei hun yn galonogol a bod ESTYN wedi barnu bod 75% o’r arweinyddiaeth yn rhagorol neu’n dda, fod rhaid gofyn a ddylai hyn yn ei dro effeithio ar addysgu a safonau, materion oedd ond yn cael eu barnu’n ddigonol yn 40% o’r ysgolion. Awgrymwyd y dylai fod cyfatebiaeth rhwng arweinyddiaeth ragorol a’r safonau a’r addysgu sydd i’w gweld mewn ysgolion. Cytunodd Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion y dylai arweinyddiaeth gref ac effeithiol arwain mewn egwyddor at godi safonau a gwell addysgu mewn ysgolion. Fodd bynnag, er bod ESTYN yn siarad â disgyblion ac yn edrych trwy lyfrau gwaith yn y sector cynradd, roedd penderfyniadau arolygwyr ar safonau neu addysgu mewn ysgolion yn seiliedig ar asesiadau athrawon. Ychwanegodd fod ysgolion Sir Gaerfyrddin yn tueddu i gynhyrchu asesiadau athrawon gweddol geidwadol, oedd yn aml yn or hunan-feirniadol, a bod hynny yn ei dro yn effeithio ar sut roedd ysgolion yn cael eu gweld gan yr arolygwyr.

 

Gwnaed cyfeiriad at y cwestiynau allweddol a ofynnid gan ESTYN wrth iddynt arolygu ysgolion, a gofynnwyd a oedd ysgolion y Sir yn cael anhawster gydag unrhyw rai ohonynt yn arbennig. Nododd Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion fod presenoldeb wedi bod yn fater allweddol i ESTYN yn ddiweddar, a phetai ffigyrau presenoldeb ysgol yn destun pryder, ei bod yn ymddangos y gallai hynny beri i’r arolygwyr chwilio am feiau eraill. Er enghraifft, os nad oedd presenoldeb ar y lefel ddisgwyliedig, efallai y byddai’r gofal a’r gefnogaeth a ddarperir neu arweiniad y pennaeth yn cael eu cwestiynu, a allai arwain at radd is yn yr adroddiad arolygu terfynol. Atgoffodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant y Pwyllgor nad oedd y Proffil Deilliannau Arolygu ar gyfer 2014-15 ond yn cyfeirio at yr 20 ysgol a arolygwyd, a rhybuddiodd yr aelodau rhag dod i ormod o gasgliadau ar sail nifer mor fach o ysgolion. Ychwanegodd fod yr Awdurdod wedi cael ei feirniadu yn y gorffennol oherwydd bod gormod o ysgolion yng ngwahanol gategorïau monitro ESTYN, ond bod hyn wedi gwella’n fawr yn y blynyddoedd diwethaf. Dywedodd fod yr adran yn fedrus iawn erbyn hyn yn tynnu ysgolion allan o gategorïau monitro ESTYN, os oedd angen gwneud hynny.  

 

Wrth ymateb i gwestiwn ar berfformiad y Sir o’i chymharu â phartneriaid eraill yn ERW, nododd y Prif Swyddog Addysg fod Sir Gaerfyrddin yn 3ydd neu 4ydd, y tu ôl i Bowys a Cheredigion, yn y rhan fwyaf o gategorïau. Nododd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant ei bod yn bwysig ystyried nifer y disgyblion yn ysgolion y Sir o gymharu â rhai o’i chymdogion, a bod gan Geredigion a Phowys lai o ddysgwyr oedd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.

 

Gwnaed cyfeiriad at y bwlch parhaus rhwng y disgyblion hynny oedd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim a’r rhai nad oeddent. Cydnabu’r Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod hwn yn un o brif heriau’r Sir a’i fod yn welliant allweddol ar gyfer 2016/17. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau