Agenda item

DIWEDDARIAD AR Y GWASANAETH CERDD: MAI/MEHEFIN 2019

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant drosolwg o'r adroddiad a thynnodd sylw'r aelodau at gyflawniadau diweddar a pharhaus y Gwasanaeth Cerdd.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Mewn ateb i gwestiwn ynghylch y diffyg y nodwyd yn yr adroddiad ei fod wedi gostwng dros y blynyddoedd blaenorol, dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant mai £147,000 oedd y diffyg yn y flwyddyn flaenorol ac y gellid ystyried ei fod yn gysylltiedig ag elfen cyllid craidd y gwasanaeth.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth mewn perthynas ag integreiddio'r Gwasanaeth Cerdd yn y cwricwlwm newydd a'i effaith ar y ddarpariaeth yn y dyfodol. Dywedodd Cydgysylltydd y Gwasanaeth Cerdd fod cyfarwyddyd eisoes wedi'i gyhoeddi a bod llawer o'r meysydd a gwmpesir gan y Celfyddydau Mynegiannol eisoes ar waith, ond nid oedd yn glir a fyddai Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfarwyddyd pellach. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod rhai meysydd yn y Celfyddydau Mynegiannol sy'n gofyn am sgiliau trawsbynciol. Mae sawl awdurdod lleol wedi gosod Cerddoriaeth o fewn y Celfyddydau Mynegiannol, a hynny o bosibl er mwyn denu mwy o gyllid grant, ac mae eraill wedi cynnwys Cerddoriaeth yn y Dyniaethau. Nodwyd bod potensial a risg ynghlwm wrth bob un o'r modelau hyn, ond os ceir cyfarwyddyd pellach gan Lywodraeth Cymru, gallai'r sefyllfa fod yn wahanol iawn mewn chwech i naw mis. Nodwyd hefyd fod Llywodraeth Cymru yn dal cyllid yn ôl i ddefnyddio gwasanaeth ymgynghori i wella'r ddarpariaeth ledled Cymru, gyda maes gorchwyl i wella mynediad ac i edrych ar yr arferion gorau presennol. Gallai hyn lywio dyfodol y gwasanaeth ymhellach.

 

Er eu bod yn cydnabod cyfyngiadau'r gyllideb, gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch y costau a drosglwyddir i ddisgyblion a'r cyngor a roddir i ysgolion mewn perthynas â chostau. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod ysgolion yn codi ffioedd amrywiol ar ddisgyblion e.e. £30 y tymor, a oedd yn cynnwys ensembles a gwersi. Ni chodir tâl ar ddisgyblion sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim na disgyblion sy'n astudio TGAU neu Safon Uwch Cerddoriaeth. Fodd bynnag, nid yw rhai ysgolion yn trosglwyddo'r ffioedd i ddisgyblion. Cydnabu Cydgysylltydd y Gwasanaeth Cerdd y gallai ysgolion gael gwersi cerddoriaeth ar gyfradd is o ffynonellau allanol, ond na fyddai'n cynnwys ensemble, cerddorfa a chyrsiau preswyl. Drwy godi tâl am wersi cerddoriaeth mae ysgolion a'r gwasanaeth wedi gweld gwelliant mewn presenoldeb, ymarfer a datblygiad. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y penderfyniad i godi tâl neu beidio yn fater i bob Corff Llywodraethu; gallant gael eu cynghori gan y Gwasanaeth Cerdd ond pob ysgol unigol sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniad. Dywedwyd bod £86,289 ar gael gan Lywodraeth Cymru i gefnogi a gwella'r ddarpariaeth cerddoriaeth o fewn unrhyw un o naw maes posibl, a bod Cymorth Prydau Ysgol am Ddim yn un maes. Cydnabu'r Cyfarwyddwr y gallai ysgolion elwa ar gyfarwyddyd cliriach mewn perthynas â ffioedd a'r modd y cânt eu codi.

 

Gofynnodd yr Aelodau a fyddai modd gwneud unrhyw beth arall i annog cyfranogiad. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod rhaglenni eisoes ar gael i annog cyfranogiad ehangach, gan gynnwys cynllun peilot Music for All, a'r Daith Gwasanaeth Cerdd Peripatetig. Roedd y gwasanaeth hefyd wedi ymgysylltu â Heol Goffa o ran rhaglenni Therapi Cerdd. Roedd yr Aelodau'n cydnabod bod cerddoriaeth yn cyfoethogi meysydd addysg eraill ac yn cefnogi llesiant disgyblion o bob oed.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a oedd y Gwasanaeth Cerdd wedi gweithio gyda'r Tîm TIC i nodi arbedion effeithlonrwydd, dywedodd Cydgysylltydd y Gwasanaeth Cerdd nad oeddent wedi dechrau adolygiad eto, er bod rhywfaint o waith wedi cael ei wneud i ddatblygu Parent Pay i leihau gwaith prosesu.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant i'r Gwasanaeth Cerdd am y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan nodi'r llwyddiant sylweddol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a gynhaliwyd yn ddiweddar. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ei fod yn barod i dderbyn unrhyw orwariant er mwyn cefnogi gwaith y Gwasanaeth Cerdd. Nododd aelodau'r Pwyllgor eu bod yn cytuno y dylai'r gwasanaeth barhau, er eu bod yn cydnabod y gorwariant.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

5.1      bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn

5.2      bod y Bwrdd Gweithredol yn cefnogi'r gwasanaeth yn ddigonol yn ariannol, er mwyn parhau i gynnal safon bresennol y gwasanaeth

5.3       y dylid ystyried rhoi cyfarwyddyd cliriach i gyrff llywodraethu mewn perthynas â chodi tâl am ddefnyddio'r Gwasanaeth Cerdd, yn enwedig mewn perthynas â disgyblion sy'n cael Prydau Ysgol am Ddim

5.4       y dylai'r Gwasanaeth Cerdd gael ei gefnogi gan y tîm TIC i nodi arbedion effeithlonrwydd

 

Dogfennau ategol: