Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y cwynion a'r ganmoliaeth ynghylch Gofal Cymdeithasol i Oedolion, a oedd wedi dod i law ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19. Roedd yr adroddiad yn crynhoi nifer y cwynion a'r ganmoliaeth oedd wedi dod i law ac yn cynnwys gwybodaeth am y math o g?ynion a'r maes gwasanaeth sy'n ymwneud â chwynion a chanmoliaeth.
Cynghorwyd y Pwyllgor i nodi nifer y sylwadau canmoliaethus a ddaeth i law a soniwyd am Mark Bryan a oedd wedi'i ganmol am wasanaeth rhagorol i gynorthwyo achwynwyr yn ystod y broses gwyno.
Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac roedd y prif faterion fel a ganlyn:
· Gofynnwyd a oedd cwynion ynghylch cwmnïau preifat wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ac a oedd modd darparu tystiolaeth o batrymau cwynion.
Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod y wybodaeth yn cael ei chasglu ar gyfer yr holl wasanaethau Gofal Cymdeithasol gan gynnwys gwasanaethau a ddarperir gan gwmnïau preifat. Roedd yn bosibl gweld tueddiadau a phatrymau ymysg y cwynion ac roedd y rheiny'n cael eu rheoli'n aml drwy fonitro contractau a phroses ymyrraeth gan y tîm Comisiynu a Chontractau. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod cwynion hefyd yn cael eu monitro drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau eraill megis siarad â defnyddwyr gwasanaeth, darparwyr gofal, arolygon a fforymau.
· Gofynnwyd am eglurdeb ynghylch at beth yr oedd y 60 o g?ynion ychwanegol yn cyfeirio, fel y manylir arnynt yn y crynodeb o'r cwynion.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y rhain yn cynnwys materion a godwyd a'u bod yn cae; eu hailgyfeirio i feysydd mwy priodol a'u bod hefyd yn cynnwys achosion o gyngor. Dywedwyd y byddai "ymholiadau" yn derm mwy priodol i'w ddefnyddio yn hytrach na chwynion.
· Codwyd cwyn ynghylch yr amser aros am alwad ar gyfer Llesiant Delta.
Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod data perfformiad yn dangos bod gan Lesiant Delta gyfradd ymateb uchel o ran canrannau ond y byddai'n anfon y g?yn yn ôl i Lesiant Delta.
· Gofynnwyd am eglurdeb ynghylch y diffiniad o g?yn.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig mai mynegiant o anfodlonrwydd yw cwyn a bod staff yn cael eu hannog i gofnodi'r holl fynegiannau o anfodlonrwydd.
· Cyfeiriwyd at nifer isel y cwynion a ddaeth i law o gymharu â nifer fawr defnyddwyr y gwasanaeth a'r ffaith ei fod yn bosibl bod hyn yn digwydd oherwydd amharodrwydd i gyflwyno cwynion oherwydd yr effaith bosibl ar y gofal.
Cytunodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod y niferoedd yn isel ac er bod gwybodaeth yn cael ei chasglu drwy ymatebion i arolygon roedd cyfle i wella'r arolwg ar gyfer casglu cwynion.
· Mynegwyd pryderon ynghylch gofalwyr yn colli ymweliadau a'i fod yn bosibl nad oedd yr Awdurdod yn ymwybodol o ymweliadau a gollwyd.
Rhoddodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig sicrwydd i'r Pwyllgor fod goddefiannau a systemau ar waith i fonitro a rheoli ymweliadau a gollwyd, ond maent yn dibynnu ar yr holl bartïon i roi gwybod i'r Awdurdod.
· Gofynnwyd a oedd y Swyddogion Annibynnol sy'n ymchwilio i g?ynion Cam 2 yn annibynnol ar yr Awdurdod.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod Swyddogion Ymchwilio Cam 2 yn annibynnol ar yr Awdurdod.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: