Agenda item

BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE - Y CYNNYDD YN SGIL YR ADRODDIADAU.

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar gynnydd yr adolygiadau mewnol ac allanol, a oedd yn manylu ar dri argymhelliad.  O ran Argymhelliad 1 (Penodi Cyfarwyddwr Rhaglen) nodwyd y byddai'n rhaid i'r dyddiad cau a fwriadwyd sef Mai 2019 fod yn fwy hyblyg. Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor fod cynigion manwl ynghylch gweithredu'r tri argymhelliad, a oedd wedi'u datblygu gan ymgynghori â'r pedwar Awdurdod Lleol, wedi eu nodi yn yr adroddiad atodedig. Gwnaed awgrymiadau pellach fod Cyfarwyddwr y Rhaglen yn atebol i'r Cyd-bwyllgor a bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn cael ei lleoli yn Llanelli, gyda Chyngor Sir Caerfyrddin yn gweithredu fel yr Awdurdod Cyflogi. Argymhellwyd mabwysiadu rhannu'r rolau statudol fel a ganlyn:

 

·         Corff Atebol a Swyddog Adran 151 – Cyngor Sir Caerfyrddin

·         Swyddog Monitro – Cyngor Dinas Abertawe a Chyngor Abertawe

·         Craffu – Cyngor Castell-nedd Port Talbot

·         Archwilio - Bod Cyngor Sir Penfro yn arwain ar y swyddogaeth archwilio ar ran y Cyd-bwyllgor, a bod y Swyddog Archwilio Arweiniol yn adrodd yn uniongyrchol i'r Swyddog Adran 151 i sicrhau bod dyletswyddau Adran 151 yn gallu cael eu cyflawni'n gyfreithiol a bod gwaith y rhaglen yn cael eu halinio'n briodol i'r risgiau

 

Gwnaed awgrym pellach fod unrhyw gostau gorbenion posibl, yn enwedig yr amser swyddogion mewn perthynas â'r uchod (Swyddogion Statudol, Gwasanaethau Democrataidd, Craffu ac Archwilio) yn cael eu rhoi fel cyfraniad mewn da at y costau rhedeg cyffredinol. Ni chytunodd yr un Awdurdod Lleol i unrhyw gyfraniadau arian parod ychwanegol at y symiau roeddid wedi cytuno arnynt yn flaenorol (£50K fesul Awdurdod y flwyddyn).

 

Cytunwyd ar y cyfraniad mewn da mewn egwyddor, er na nodwyd ffigurau. Byddid hefyd yn ymchwilio i gworwm tri aelod a dirprwyon dynodedig ar gyfer Aelodau'r Cyd-bwyllgor.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor mai dim ond Aelodau Awdurdodau Lleol roeddid wedi ymgynghori â hwy ar y cynnig, a hynny oherwydd prinder amser a chwmpas cyfyngedig yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i ymholiad, awgrymodd y Cadeirydd y gellid gwahodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gymryd rhan yn y broses o ddiwygio'r Cytundeb ar y Cyd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad a:

4.1.    Cytuno ar broffil swydd ar gyfer Cyfarwyddwr y Rhaglen fel y nodir yn yr atodiad i'r adroddiad, ond argymell i Gyngor Sir Caerfyrddin fel y cyflogwr arfaethedig y dylid darparu ar gyfer cynyddu'r cyflog os ceir penodiad rhagorol, a hefyd gofyn i Gyngor Sir Caerfyrddin ailystyried lefel y Gymraeg ysgrifenedig a llafar sydd ei hangen, gyda golwg ar ddenu ystod ehangach o ymgeiswyr;

4.2.    Mabwysiadu rhannu'r swyddogaethau statudol canlynol, gyda'r swyddi cysylltiedig yn cael eu hariannu gan yr Awdurdod Lleol cyfrifol gan adolygu trefniadau ailgodi

a.    Corff Atebol, Awdurdod Cyflogi a Swyddog Adran 151 – Cyngor Sir Caerfyrddin;

b.    Swyddog Monitro a Gwasanaethau Democrataidd – Cyngor Abertawe;

c.    Craffu – Cyngor Castell-nedd Port Talbot;

d.    Archwilio – Cyngor Sir Penfro (Swyddog yr Awdurdod Arweiniol yn adrodd yn uniongyrchol i'r Swyddog Adran 151 er mwyn sicrhau bod dyletswyddau Adran 151 yn gallu cael eu cyflawni'n gyfreithiol a bod y rhaglen waith yn cael eu halinio'n briodol i'r risgiau)

4.3.    Ehangu'r Bwrdd Strategaeth Economaidd a chychwyn ar y broses o fynegi diddordeb yn fuan;

4.4.    Diweddaru'r Cytundeb ar y Cyd fel ei fod yn adlewyrchu'r trefniadau newydd, gan gynnwys y cworwm tri Aelod a dirprwyo ffurfiol.

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau