Cofnodion:
(NODER:
1. Gan fod y Cynghorydd G.B. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes, nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitem gan y Pwyllgor;
2. roedd y Cynghorwyr A. Davies ac A.Vaughan Owen wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach).
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad arFersiwn Ddrafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo a Ffefrir ar Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 a luniwyd mewn ymateb i benderfyniad y Cyngor ar 10 Ionawr, 2018 i ddechrau ar y gwaith o baratoi cynllun diwygiedig a oedd yn cynrychioli carreg filltir bwysig i’r Cyngor o ran cyflawni ei gyfrifoldebau statudol i baratoi cynllun cyfredol ar gyfer y Sir (ac eithrio'r ardal sy'n dod o fewn awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog)
Nodwyd bod yr adroddiad yn cynnwys 344 o sylwadau a ddaeth i law mewn ymateb i'r ymarfer ymgynghori â'r cyhoedd a gynhaliwyd rhwng 12 Rhagfyr 2018 a 8 Chwefror 2019. Roedd y sylwadau hynny, ynghyd ag ymatebion ac argymhellion y swyddogion a chefndir y strategaeth a ffefrir, wedi’u cynnwys yn yr atodiadau canlynol i'r adroddiad:-
Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i gymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 7 Mai a byddai'r Cyngor yn ei ystyried ar gyfer ei fabwysiadu'n ffurfiol ar 15 Mai, 2019.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-
· Cadarnhaodd y Rheolwr Blaengynllunio, mewn ymateb i gwestiwn ar gynnwys darpar safleoedd yn y CDLl diwygiedig, y byddai'n rhaid unrhyw unigolyn neu sefydliad, gan gynnwys y Cyngor Sir, sy'n dymuno cynnwys darn o dir, ei gyflwyno i'r Cyngor cyn diwedd Awst, 2018. Roedd cyfanswm o 926 o safleoedd wedi'u cyflwyno erbyn y dyddiad hwnnw ac roedd tua 4,000 o ymatebion wedi'u derbyn yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Ar hyn o bryd, roedd yr adran yn dadansoddi pob un o'r 926 o safleoedd er mwyn asesu eu priodoldeb ac roedd disgwyl y byddai'r broses honno'n cael ei chwblhau erbyn diwedd haf 2019. Yn dilyn yr asesiad hwnnw, pe bai'n dod i'r amlwg bod safle yn anaddas, neu'n mynd yn groes i Strategaeth y Cynllun neu bolisi cenedlaethol, ni fyddai'n cael ei ystyried yn briodol i'w gynnwys yn y Cynllun Adneuo.
· Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr arfer o ran 'bancio tir ', dywedwyd wrth y Pwyllgor bod dros 10,000 o unedau heb eu cwblhau ar hyn o bryd yn Sir Gaerfyrddin, gyda chanran uchel o'r rhain heb ddynodi eu bwriad ar gyfer y safle. Fel rhan o'r broses yn ymwneud ag adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol presennol byddai'r safleoedd yn cael eu herio o ran eu cynnwys yn y dyfodol ac os bernir na fyddent yn debygol o gyflwyno'r safleoedd ar gyfer eu datblygu neu'u bod yn anaddas, ni fyddai safleoedd o'r fath yn cael eu cynnwys na'u dyrannu eto yn y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL BOD:
6.1 |
bod y sylwadau a ddaeth i law o ran y Fersiwn Ddrafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo a Ffefrir yn cael eu nodi a bod yr argymhellion yn cael eu cadarnhau |
6.2 |
bod y sylwadau ddaeth i law o ran yr Arfarniad Cynaliadwyedd/Adroddiad Cychwynnol yr Asesiad Amgylcheddol Strategol, Adroddiad Sgrinio'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ac Adroddiad Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu nodi a’r argymhellion yn cael eu cadarnhau |
6.3 |
Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion gyflawni'r canlynol:- · newid y Strategaeth a Ffefrir yng ngoleuni'r argymhellion sy'n deillio o'r prosesau uchod a'r dystiolaeth sy'n rhan o baratoi'r Fersiwn Adneuol o'r Cynllun Datblygu Lleol; · gwneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol ansylweddol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y Fersiwn Drafft y Strategaeth a Ffefrir. |
Dogfennau ategol: