Cofnodion:
Gadawodd yr Is-bwyllgor Neuadd y Sir, Caerfyrddin, am 10.05 a.m. ac ailymgynnull am 10:30 a.m. yng Ngerddi Aberglasne, Llangathen er mwyn gweld yr eiddo a chael cyfle i archwilio'r cyfleusterau. Ar ôl i'r ymweliad â'r safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 11:40 a.m. i ystyried y cais.
Rhoddodd y Cyfreithiwr wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod. Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Ymddiriedolaeth Adfer Aberglasne am drwydded safle mewn perthynas â'r safle uchod i ganiatáu'r canlynol:
· Cyflenwi Alcohol, Cerddoriaeth Fyw, a Cherddoriaeth a Recordiwyd o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 10:00 a 00:00.
· Lluniaeth hwyrnos o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 23:00 a 00:00.
· Oriau agor safonol o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 10:00 a 18:00.
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
· Atodiad A – copi o'r cais.
· Atodiad B - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu.
· Atodiad C - sylwadau Heddlu Dyfed-Powys.
· Atodiad D – sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd.
· Atodiad E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.
 chytundeb yr holl bartïon, dosbarthwyd copïau o ddogfennau ychwanegol i'r Is-bwyllgor a oedd yn cynnwys newidiadau a gynigiwyd gan yr Awdurdodau Cyfrifol i'r amod a argymhellwyd (rhif 5 a nodir ar dudalen D2) a chynllun yn nodi lleoliad eiddo'r gwrthwynebwyr mewn perthynas â'r safle yn y cais.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad B i'r adroddiad ac yn yr Amodau Trwydded Arfaethedig Drafft y cyfeirir atynt uchod.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd at ei sylwadau fel y manylwyd arnynt yn Atodiad D i'r adroddiad ac yn yr Amodau Trwydded Arfaethedig Drafft y cyfeirir atynt uchod. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi ymgeisydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ynghylch y sylwadau a wnaed.
Wedyn, cyflwynwyd sylwadau i'r Is-bwyllgor gan Mr Davies a Miss Davies a oedd yn mynegi pryderon ac yn gwrthwynebu caniatáu'r drwydded safle am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Atodiad E.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd. Wedyn bu i'r ymgeiswyr ymateb i'r pryderon a'r materion a godwyd.
Ar hynny
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y dystiolaeth a oedd wedi ei rhoi gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais yn cael ei ganiatáu, a hynny'n unol â'r amodau trwydded diwygiedig yr oedd yr awdurdodau cyfrifol wedi eu cynnig ac yr oedd yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt.
Y RHESYMAU:
Roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y sylwadau ysgrifenedig a wnaed, yn ogystal â'r dystiolaeth a gyflwynwyd. Roedd hefyd wedi rhoi ystyriaeth i'r paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r Cyfarwyddyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref, a'r rheiny a oedd wedi'u cyfeirio at ei sylw gan y partïon eraill.
Wrth benderfynu ar y cais, roedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor:
1. Ar hyn o bryd, roedd gan Erddi Aberglasne drwydded safle.
2. Nid oedd hanes o gwynion yn cael eu cyflwyno i'r awdurdodau cyfrifol ynghylch y safle.
3. Nid oedd unrhyw un o'r awdurdodau cyfrifol yn gwrthwynebu caniatáu'r cais.
4. Roedd yr ymgeisydd wedi derbyn yr amodau trwydded ychwanegol yr oedd yr Heddlu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd wedi eu cynnig.
5. Roedd y rhai oedd yn ymweld â'r gerddi wedi cael effaith niweidiol ar Mr Davies a Miss Davies o ran gyrru i'w safle a methu â chau gatiau fferm a hefyd o ran s?n o ddigwyddiadau ar y safle.
Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr Awdurdodau Cyfrifol.
Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.
Ni allai'r Is-bwyllgor roi ystyriaeth briodol i faterion o ran angen a'r alcohol sydd ar gael ar safleoedd cyfagos eraill.
Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r sylwadau a gyflwynwyd gan Mr Davies a Miss Davies ac, yn benodol, a oedd y materion yr oeddent yn cwyno amdanynt yn gyfystyr â niwsans cyhoeddus ac, os felly, a fyddai caniatáu trwydded yn tanseilio'r amcan trwyddedu o ran atal niwsans cyhoeddus.
Yn dilyn ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd ger ei fron, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y materion y cwynwyd amdanynt yn gyfystyr â niwsans cyhoeddus o bosib, ond roeddent hefyd yn fodlon bod yr amodau trwydded arfaethedig yn ddigonol i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Yn unol â hynny, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon y dylai ganiatáu'r cais, yn unol â'r amodau trwydded a gynigiwyd gan yr awdurdodau cyfrifol ac a dderbyniwyd gan yr ymgeiswyr a bod y camau gweithredu hyn yn briodol er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ac yn gymesur â'r materion a godwyd gan y partïon.
Argymhellodd yr Is-bwyllgor i Ymddiriedolwyr y Gerddi, er mwyn sicrhau cysylltiadau da â'r gymuned leol (ac yn benodol Mr Davies a Miss Davies) eu bod, yn ogystal ag amodau'r drwydded, hefyd yn cymryd pob cam rhesymol i leihau effaith eu gweithgareddau.
Dogfennau ategol: