Agenda item

STRATEGAETH GORFFORAETHOL 2018-23

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Perfformiad a Gwybodaeth drosolwg o'r adroddiad a thynnodd sylw'r aelodau at y cynlluniau gweithredu a adolygwyd.

 

Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod y cyflwyniad:

 

Tynnodd yr Aelodau sylw at Adran C8, Amcan 3 y Mesur a oedd yn cyfeirio at y gweithdrefnau statudol sy'n gysylltiedig â ffedereiddio, a gofynnwyd a oedd yr adran wedi llwyddo i gyflawni'r mesur hwn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y mesur yn rhoi cyfle i ymdrin â'r heriau a wynebir yn y broses o ffedereiddio. Fel y nodwyd mewn cyfarfodydd blaenorol, mae'r diffyg o ran arweinwyr a darpar arweinwyr o ansawdd yn parhau i fod yn her ac mae ffedereiddio yn lleddfu hwn i ryw raddau. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod angen set ychwanegol o sgiliau i arwain ysgol drwy'r broses ffedereiddio. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod 13 o Ffederasiynau ar hyn o bryd, pum ffurfiol ac wyth anffurfiol; gan nodi bod gan ffederasiwn ffurfiol un corff llywodraethu sy'n fantais sylweddol. Mae Estyn wedi diwygio ei fframwaith arolygu o ystyried ysgolion ffederal. Mae Sir Gaerfyrddin wedi cefnogi'r gwaith hwn yn effeithiol drwy ddefnyddio 'cynlluniau peilot.' Mae'r fframwaith arolygu diwygiedig ar gyfer ysgolion ffederal ffurfiol yn adlewyrchu gofynion ac anghenion y lleoliadau hyn mewn ffordd well o lawer. Roedd ffederasiwn anffurfiol wedi cael ei arolygu gan Estyn ac o ganlyniad byddai rhai newidiadau yn cael eu gwneud i'r broses. Dywedodd hefyd fod ysgolion sydd â llai na 50 o ddisgyblion yn her ariannol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch dyfodol Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant na allai roi ateb manwl. Fodd bynnag, byddai'r ddarpariaeth yn cael ei hystyried yn ofalus dros y flwyddyn nesaf a byddai'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yn gweithio'n agos gydag Adran y Gwasanaethau Cymunedol i barhau â'r ddarpariaeth.

 

Gofynnod yr Aelodau am ragor o wybodaeth am ganlyniadau PISA, a dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant ei fod yn aros am ganlyniadau'r profion PISA diweddaraf. Nododd y bydd y cwricwlwm newydd yn symud tuag at asesiadau sy'n seiliedig ar broblemau a chanlyniadau, sef ffordd newydd o weithio sy'n fwy cydnaws ag asesiadau PISA. Roedd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant yn cydnabod nad oedd cwestiynau arddull PISA yn gyson â chwricwlwm presennol Cymru, ond mae rhai ysgolion wedi gwneud yn dda drwy adolygu'n uniongyrchol ar gyfer profion PISA. Roedd hefyd yn cytuno â safbwynt y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, y bydd symud y cwricwlwm newydd tuag at ddull datrys problemau a dysgu cymhwysol yn arwain at ganlyniadau gwell mewn profion yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i Adran E, Amcan 3 yr adroddiad, cododd yr Aelodau bryderon ynghylch y pwyslais ar y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a tharged Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi mynd drwy'r broses gorfforaethol a'i fod yn unol ag awdurdodau lleol tebyg. Dywedodd hefyd mai'r nod yw sicrhau bod disgyblion yn ddwyieithog a bod ganddynt ddwy iaith gyntaf erbyn diwedd eu cyfnod yn yr ysgol gynradd. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg er mai'r targed yw creu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, byddai'n annoeth peidio â chynnwys y gallu i ddarllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn rhan o'r targed hwnnw. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Strategaeth Gorfforaethol 2018-2023.

 

 

Dogfennau ategol: