Agenda item

GWASANAETHAU A CHYMORTH I BLANT A PHOBL IFANC SYDD Â PHROBLEMAU IECHYD MEDDWL

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorwyr K.V. Broom a S.L Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach]

 

Yn unol â chofnod 5 o'i gyfarfod ar 5 Mawrth 2018, ystyriodd y Pwyllgor, ynghyd â'r Pwyllgor Craffu Addysg a Gwasanaethau Plant (a wahoddwyd i fod yn bresennol yn ystod eitem 4 o'r cofnodion) adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg ar y gwasanaethau presennol sydd ar gael i bobl ifanc sydd â phroblemau emosiynol ac iechyd meddwl. 

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu cynlluniau i wella'r ffordd y caiff gwasanaethau a chymorth eu cydgysylltu drwy fforwm amlasiantaeth.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch y capasiti i ymdrin â'r materion uchod.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai cydweithio â gwasanaethau arbenigol a'r UCD yn ychwanegu capasiti i gefnogi ysgolion prif ffrwd. Roedd ffyrdd mwy effeithlon o weithio gyda gwasanaethau arbenigol wedi cael eu hystyried yn ogystal â gwaith prosiect cydnerthu ar y cyd â'r adran hamdden.

 

·         Mynegwyd pryder ynghylch y disgwyliadau i athrawon fod yn weithwyr cymdeithasol ac yn eiriolwyr.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod therapi ac addysg yn wahanol a bod athrawon yn cael eu hannog i adeiladu ar sgiliau presennol megis cyfathrebu a rhyngweithio â phlant. Roedd cefnogi llesiant athrawon yn un o amcanion Llywodraeth Cymru.

 

·         Dywedwyd bod tlodi yn broblem fawr hefyd ac y gall hyn gael effaith fawr ar iechyd meddwl. Roedd y gwaith o gyflwyno Credyd Cynhwysol wedi ychwanegu at hyn yn ddiweddar.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd pob teulu'n ymwybodol o'r cymorth oedd ar gael a bod archwiliad yn cael ei gynnal er mwyn llunio cyfeiriadur cynhwysfawr o wasanaethau a chymorth.

 

·         Gofynnwyd i swyddogion am yr amserlenni rhwng atgyfeirio ac asesu ac a allai ysgol atgyfeirio plentyn yn uniongyrchol at y Gwasanaethau Plant.

 

Dywedwyd bod y Tîm Atgyfeirio Canolog yn cynnal ymarfer brysbennu a bod achosion brys yn cael sylw o fewn dyddiau. Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu y byddai'n gofyn am ragor o eglurhad ynghylch atgyfeiriadau ac amserlenni.

 

·         Mynegwyd pryder bod llawer o ysgolion yn nodi nad oedd dim achosion o fwlio oherwydd y diffiniad cyfredol o fwlio a dywedwyd y dylid diwygio diffiniad y sir.

 

Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â'r Awdurdod ynghylch y diffiniad o fwlio fel rhan o'i Pholisi Gwrth-fwlio Diwygiedig a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod gan bob ysgol bolisi sy'n berthnasol iddi a bod y polisi hefyd yn cael ei arolygu. Dywedodd y byddai'n herio'r syniad nad oedd bwlio'n digwydd mewn ysgolion a dywedodd ei fod yn croesawu adolygiad Llywodraeth Cymru.  Hefyd dywedwyd bod cyfeiriadur gwasanaethau yn cael ei gynnwys yn y Strategaeth Llesiant ac y gellid ehangu'r cyfeiriadur.

 

·         Mynegwyd pryder ynghylch y cynnydd mewn camddefnyddio sylweddau a'r gostyngiad yn oedran y plant sy'n camddefnyddio sylweddau.  Dywedwyd hefyd yr ymdrinnir â'r plant gan ddefnyddio'r un gweithdrefnau ag a ddefnyddir ar gyfer oedolion, ac nad oedd hyn yn briodol. 

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod camddefnyddio sylweddau yn fater bugeiliol mewn ysgolion a bod angen mynd i'r afael â materion cymdeithasol.  Dywedwyd bod UCD yn ymdrin â materion camddefnyddio sylweddau ac alcohol a bod mesurau atal yn cael eu cyflawni drwy addysgu dysgwyr ynghylch peryglon camddefnyddio sylweddau ac alcohol a'u helpu i ddod o hyd i ffyrdd gwahanol o ymdopi.

 

·         Gofynnwyd i swyddogion beth oedd wedi'i ddysgu gan yr Alban a'r gwelliannau a oedd wedi'u gwneud.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod gwersi wedi'u dysgu gan yr Alban a Lloegr a bod gr?p cynghori Cymru gyfan wedi'i sefydlu bellach a oedd yn ystyried y 6 blaenoriaeth/amcan a nodwyd yn y Strategaeth Genedlaethol, Beth am Siarad â Fi 2.  Roedd tri fforwm rhanbarthol wedi'u sefydlu i gefnogi'r gwaith o weithredu'r amcanion.  Roedd cynhadledd ddiweddar yng Nghaerdydd hefyd yn gyfle i ddysgu gan gydweithwyr o'r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

 

·         Gofynnwyd pam na allai rhaglen gwrth-fwlio KiVa sy'n cael ei threialu yn Sir Benfro gael ei chyflwyno yn Sir Gaerfyrddin.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i weithredu'r prosiect mewn ysgolion, ond bod goblygiadau o ran ei chyflwyno.

 

·         Dywedwyd nad oedd bwlio'n digwydd rhwng plant yn unig ac y gallai ddigwydd rhwng yr athro/athrawes a'r plentyn. Dywedwyd bod angen dadansoddi gwybodaeth er mwyn cael gwybod faint o fwlio sy'n digwydd.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd yn ymwneud â'r plentyn yn unig a bod ymagwedd adferol yn cael ei chynnal gyda rhieni, athrawon, y gwasanaeth ac ati.

 

·         Dywedwyd ei bod yn dda gweld bod y bylchau o ran darparu cymorth i bobl ifanc ag awtistiaeth wedi'u nodi, ond ni fyddai £13 miliwn yn ddigonol i roi sylw i'r broblem. Nodwyd mai dim ond ers mis y mae'r gwasanaeth wedi bod yn weithredol a byddai'n ddiddorol gweld y canlyniadau maes o law.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau