Agenda item

ADRODDIAD AR GAMAU GWEITHREDU'R PWYLLGOR CRAFFU - DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad yn cynnwys manylion am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r camau, ceisiadau, neu atgyfeiriadau a gododd o gyfarfodydd ers 18 Mai 2018.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

  • Gweithred 009-18/19

 

Yn ogystal â'r wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd yn yr adroddiad, darparodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel ddiweddariad llafar pellach i roi sicrwydd fod y Pwyllgor wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a roddodd rybudd i'r cwmni dan sylw a bod y cosbau priodol wedi'u nodi.  Yn ogystal, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynyddu nifer yr ymweliadau safle o ran rheoli ac roedd yn fodlon â'r camau a gymerwyd. Yn sgil y cynnydd a wnaed, dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod yr adran yn hyderus na fyddai digwyddiad arall tebyg i'r pla o glêr a gafwyd y llynedd.


Mewn ymateb i ymholiad ynghylch ymweliadau safle, cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymweld yn rheolaidd â safle'r cwmni ar sail ad-hoc.  Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd y byddai'r ymweliadau safle ychwanegol a gynlluniwyd, ynghyd â chyflwyno mesurau ychwanegol i reoli plâu, yn osgoi unrhyw achosion posibl o bla.

 

  • Gweithred 011-18/19

 

O ran cyfraniadau Adran 106, gofynnwyd sut y penderfynir ar lefel y cyfraniad a geisir a phwy sy'n penderfynu sut y caiff y cyfraniadau eu gwario.  Eglurodd y Pennaeth Cynllunio, o ran lefel y cyfraniad a geisir, fod fformiwla wahanol ar gyfer y gwahanol fathau o angen a nodir. Er enghraifft, roedd y dull o gyfrifo cyfraniadau mewn perthynas â mannau agored yn wahanol i'r modd y cyfrifir cyfraniadau ar gyfer tai fforddiadwy neu anghenion addysg.

 

Eglurodd y Pennaeth Cynllunio y pwysigrwydd i Aelodau Lleol gymryd rhan yn gynnar yn y broses pan oedd lefel y cyfraniadau yn cael eu trafod naill ai yn ystod y cam cyn ymgeisio neu ar ôl  i gais cynllunio ddod i law.  Dylai'r Aelod Lleol, ar yr adeg honno gyflwyno unrhyw anghenion y mae'n ymwybodol ohonynt a thrafod hyn â'r adran berthnasol e.e. Addysg os oedd yr angen yn ymwneud ag ysgolion yn ogystal â thrafod gyda'r Swyddog Achos Cynllunio.  Hefyd, rhaid i unrhyw anghenion a nodwyd gael eu hategu gan dystiolaeth i brofi'r angen hwnnw.  Mae'r penderfyniad yn ystod y cam cais cynllunio yn pennu'r swm a'r math o angen y dylid ei fodloni.  Nodir y manylion hyn yn Adran 106.  Ar ôl i'r Is-adran Gynllunio gasglu'r arian hwnnw, gellid cyflwyno ceisiadau ar gyfer defnyddio'r gwahanol gronfeydd arian. Yna, ymgynghorir â'r Aelod Lleol ar ôl derbyn datganiad o ddiddordeb. Bydd y penderfyniad terfynol o ran a fu'r datganiad o ddiddordeb yn llwyddiannus yng ngofal y Pennaeth Cynllunio.

 

Nododd y Pennaeth Cynllunio, o ganlyniad i Drosglwyddo Asedau, fod angen ailedrych ar y fethodoleg ar gyfer nodi anghenion mannau agored. Byddai hyn yn cael ei wneud fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol newydd ac, yn y cyfamser, byddai angen nodi ffordd ymlaen dros dro. Roedd swyddogion ar hyn o bryd yn ystyried sut i fynd i'r afael â'r sefyllfa dros dro.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ddadansoddiad o'r cyfraniadau Adran 106 fesul ward.  Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio fod adroddiad yn cael ei lunio fesul ward ddwywaith y flwyddyn ar gyfer Pwyllgor Craffu - Cymunedau a byddai copi'n cael ei ddarparu er gwybodaeth ar yr un pryd i'r Pwyllgor Craffu -Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd. At hynny, y bwriad oedd cyd-gynnal trafodaethau Adran 106 gyda datblygiad y Cynllun Datblygu Lleol.  Byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy bresenoldeb y Tîm Blaengynllunio yn y cyfarfodydd Gr?p a oedd i'w cynnal dros fisoedd yr haf eleni.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach ynghylch proses Adran 106 a therminoleg gysylltiedig, eglurodd y Pennaeth Cynllunio, er nad oedd y broses wedi newid a bod y diffiniadau yn aros yr un peth, roedd rhai gwelliannau i'r broses weinyddu a'r broses fonitro wedi cael eu cynllunio. Anogwyd yr Aelodau i roi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch y broses yn uniongyrchol i'r Pennaeth Cynllunio.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

Dogfennau ategol: