Agenda item

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD CHWARTER 3 – 1 EBRILL I 31 RHAGFYR 2018

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 3 - 1 Ebrill i 31 Rhagfyr 2018, a oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau a'r mesurau yn Strategaeth Gorfforaethol Newydd 2018/19 o ran cyflawni'r Amcanion Llesiant o fewn ei faes gorchwyl.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

  • Cyfeiriwyd at y ffaith bod y modd y cafodd yr adroddiad ei gyflwyno yn annerbyniol, cyfeiriwyd at destun oedd ar goll a fformat y data.  Roedd yr Uwch-swyddog Rheoli Perfformiad yn cydnabod y cafwyd anawsterau o ran fformatio'r adroddiad a gafwyd o'r System Monitro Perfformiad a Gwella (PIMS) a sicrhaodd y Pwyllgor y byddai gwelliannau'n cael eu gwneud i adroddiadau yn y dyfodol.

 

  • Cyfeiriwyd at y mesur sy'n ymwneud â'r nifer cyfartalog o ddiwrnodau gwaith a gymerir i glirio achosion o dipio anghyfreithlon. Codwyd cwestiwn yngl?n â'r statws perfformiad nad oedd wedi cyrraedd y targed ac os oedd hyn o ganlyniad i gyflwyno'r rheolau newydd.  Yn ôl y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff, er y bu ychydig o gynnydd mewn tipio anghyfreithlon, ar y cyfan nodwyd nad oedd y targed wedi'i gyrraedd yn bennaf oherwydd y newidiadau yn y dulliau categoreiddio a chofnodi.

 

Mewn ymateb i sylwadau a godwyd mewn perthynas â'r cynnydd mewn tipio anghyfreithlon a'r cyfrifoldeb o dipio anghyfreithlon ar dir preifat, pwysleisiodd y Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff pe bai tipio anghyfreithlon yn digwydd ar dir preifat, cyfrifoldeb y tirfeddiannwr fyddai i waredu unrhyw eitemau a gafodd eu tipio.  Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn gweithio gydag asiantaethau partner pan fo'n briodol gan gynnwys yr Heddlu, Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau eraill ar sail amlasiantaethol i helpu i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon ar dir preifat. 

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai'n cysylltu â'r grwpiau gorfodi mewnol i ymchwilio i ffyrdd posibl o roi cymorth ar gyfer achosion o dipio anghyfreithlon ar dir preifat.

 

Codwyd nifer o faterion yn ymwneud â'r newidiadau diweddar i'r canolfannau ailgylchu. Ategodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff  i'r Pwyllgor y rhesymau pam yr oedd angen y newidiadau ac esboniodd fod gwefan y Cyngor yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:-

 

­   Oriau agor newydd y canolfannau ailgylchu

­   Yr hyn sy'n ofynnol o ran prawf preswylio

­   Pam y mae cynllun hawlen yn cael ei gyflwyno

­   Sut y mae'r cynllun hawlen yn gweithio

­   Gwybodaeth am wneud cais am hawlen

­   Pa fath o gerbydau sydd angen hawlen.

­   Pa gerbydau sydd wedi cael eu gwahardd

 

 

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff nad oedd y daflen a roddai ganllawiau ar y math o gerbydau sy'n cael mynediad i ganolfannau ailgylchu a ddarparwyd i Aelodau'r Pwyllgor ym mis Chwefror wedi newid, gan fod nodau cyffredinol y cyfyngiadau'r un fath. Fodd bynnag, roedd newidiadau wedi'u gwneud yn y modd y cafodd ei gyflwyno i ddarparu rhagor o eglurder ar y mathau/grwpiau o gerbydau a byddai'n anfon y fersiwn derfynol at Aelodau'r Pwyllgor.

 

  • Cyfeiriwyd at ddiffyg targed ar gyfer y cam gweithredu yn ymwneud â lleihau'r defnydd o ynni/allyriadau carbon ym mhortffolio adeiladau annomestig presennol y Cyngor (mae cam gweithredu 13251 yn cyfeirio at hyn).  Nodwyd bod angen gosod targed clir ar gyfer y cam gweithredu hwn er mwyn i'r Cyngor ymdrechu i weithio tuag at ganlyniad sy'n seiliedig ar ganlyniadau. Nodwyd ymhellach, ar hyn o bryd, heb darged penodol, mai ' busnes fel arfer ' oedd y cam gweithredu ac er ei bod yn braf nodi bod mesurau'n cael eu gweithredu i leihau'r defnydd o ynni, gofynnwyd sut yr oedd llwyddiant yn cael ei fesur?  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai'r sylwadau a fynegwyd yn cael eu trosglwyddo i'r adran berthnasol ac efallai y byddai modd cynnwys y mesur hwn yn y Cynllun Gweithredu Di-garbon Net.

 

  • Cyfeiriwyd at yr adolygiad o'r cyfraddau presennol ar gyfer ailgylchu gwastraff y cartref er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl o wastraff yn cael ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi ac er mwyn cynyddu ailgylchu.  Gofynnwyd a oedd y rhaglen o ddrws i ddrws wedi'i chwblhau ac, os felly, pa aelwydydd oedd yn rhan o'r rhaglen?  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod y rhaglen o ddrws i ddrws bellach wedi'i chwblhau ac y byddai'n anfon rhestr o'r aelwydydd yr ymwelwyd â hwy fel rhan o'r rhaglen at yr Aelodau.

 

  • O ran buddsoddi yn Llwybr Beicio Dyffryn Tywi (mae cam gweithredu 13264 yn cyfeirio at hyn), cydnabuwyd er ei bod yn braf gweld y datblygiad yn mynd rhagddo, gofynnwyd pam mae angen buddsoddiad ariannol mawr i ddatblygu llwybrau beicio a oedd eisoes yn bodoli.  Esboniodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod ceisiadau am gyllid a gyflwynwyd  i Lywodraeth Cymru ar gyfer Teithio Llesol yn cael eu blaenoriaethu gan Deithio Llesol ar ôl hynny.

 

  • Yn dilyn cais am ddiweddariad ar y camau gweithredu sy'n ymwneud â gwella integreiddio'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys gwasanaethau rheilffordd yn Sir Gaerfyrddin (mae cam gweithredu 13269 yn cyfeirio at hyn), rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd esboniad ar lafar o sefyllfa'r cyllid, a oedd wedi bod yn gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn dros yr 8 mlynedd diwethaf yn anffodus.  Roedd astudiaethau'n parhau mewn cysylltiad â gwella'r gwasanaeth rheilffordd o'r Dwyrain i'r Gorllewin ac fel y nodwyd yn y camau gweithredu, roedd y gwaith eisoes wedi dechrau ar y gwelliannau, fodd bynnag, cydnabuwyd bod llawer iawn o waith eto i'w wneud. 

 

  • Cyfeiriwyd at y camau a oedd yn cael eu cymryd i wella'r seilwaith ar gyfer defnyddio cerbydau trydan (mae cam gweithredu 13270 yn cyfeirio at hyn).  Nodwyd nad oes gan Gyngor Sir Caerfyrddin bolisi o ran gwefru ceir trydan ar hyn o bryd ac y gallai'r Cyngor fod yn gwneud mwy o ran sicrhau bod datblygiadau masnachol preifat yn darparu cyfleusterau ar gyfer gwefru ceir trydan. Esboniodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd, er mwyn sicrhau bod pob datblygiad newydd yn cynnwys y seilwaith sy'n ofynnol ar gyfer y nifer cynyddol o gerbydau trydan, ac i gynorthwyo gyda dyheadau Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer defnyddio cerbydau trydan yn y dyfodol, bydd disgwyl i bob datblygiad yn y dyfodol ddarparu pwyntiau gwefru mewn canran o'r ddarpariaeth barcio. Byddai hyn yn cael ei alluogi drwy gyfrwng Canllaw Dylunio Priffyrdd y Cyngor sy'n nodi y bydd y Cyngor yn disgwyl i bwyntiau gwefru trydan gael eu darparu ar gyfradd o 3% o blith y ddarpariaeth barcio gyffredinol ym mhob datblygiad masnachol a bod manylion am sut y byddai datblygwyr yn darparu ac yn rheoli hyn yn cael eu cynnwys mewn Asesiad Trafnidiaeth ategol.

 

  • Gofynnwyd am ddiweddariad o ran cynnydd mewn perthynas â'r prosiect LED - Buddsoddi i Arbed a'r Cynghorau Tref a Chymuned.  Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod y Bwrdd Gweithredol wedi cymeradwyo'r rhaglen Buddsoddi i Arbed gan ganiatáu i gam nesaf y prosiect ddechrau.  Byddai cynnig yn cael ei anfon at Gynghorau Tref a Chymuned yn fuan.

 

Yn ogystal, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd y byddai'r cynnig hefyd yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned sydd i'w gynnal ar 19 Mehefin 2019.  Byddai cyfle i'r rhai a fyddai'n bresennol i ofyn cwestiynau ynghylch y prosiect newid i oleuadau LED ac i gyfleu unrhyw bryderon ynghylch y cynnig.

 

Gofynnwyd a fyddai unrhyw gyfle i Gynghorau Tref a Chymuned gymryd cyfrifoldeb dros y goleuadau, yn enwedig ar ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu.  Eglurodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd wrth y Pwyllgor, o dan adran 38 o Ddeddf Priffyrdd 1980, y gallai awdurdod lleol lunio cytundeb cyfreithiol gyda datblygwr i fabwysiadu priffordd, ar yr amod bod y briffordd wedi cael ei hadeiladu i safon benodedig ac mewn modd sy'n bodloni'r awdurdod priffyrdd lleol. Fodd bynnag, yn ystod y broses drawsgludo yn aml nid yw rhai preswylwyr yn ystyried nad oes gorfodaeth ar yr awdurdod priffyrdd i ymrwymo i gytundeb adran 38.

Nododd y Cadeirydd ei fod wedi cael ymateb i lythyr y Pwyllgor a anfonwyd at yr Aelod Cynulliad mewn perthynas ag adolygu cytundeb adran 38 (Agenda 5 ar 10 Rhagfyr 2018 yn cyfeirio at hyn).  Roedd y llythyr yn cydnabod pryderon y Pwyllgor ac yn tynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tasglu a fyddai'n ceisio datrys y problemau parhaus o ran ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu.


 

  • Gan gyfeirio at weithred 13191, mynegwyd pryder ynghylch geiriad y cam gweithredu.  Teimlwyd y dylid pennu targed clir yn hytrach na nodi  'byddwn yn parhau i fonitro' er mwyn gweithio tuag at leihau'r lefelau NO2 presennol o fewn yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer a nodwyd.  Roedd y Pennaeth Cartrefi Chymunedau Mwy Diogel yn cydnabod nad oedd targed penodol ar gael ac y byddai'n cysylltu â'r tîm ar y mater hwn.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd y byddai'r Cyngor yn cael anawsterau i wella ansawdd aer mewn mannau penodol oherwydd y cynnydd yn nifer y ceir a'r cartrefi.  Adleisiodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd y sylwadau a chytunodd y byddai'r cynnydd yn nifer y cerbydau ar y ffyrdd yn peri anawsterau o ran cael effaith gadarnhaol ar ansawdd yr aer.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau