Agenda item

PLANT YN GYNTAF

Cofnodion:

Yn ychwanegol at yr adroddiad, cafodd aelodau'r Pwyllgor gyflwyniad ar y dull Rhoi Plant yn Gyntaf a bu iddynt wylio ffilm fer ar brofiadau plant yn wardiau Glanymôr a Thy-isha yn Sir Gaerfyrddin. Roedd y dull yn ceisio ysgogi newid ar lefel leol, yn seiliedig ar anghenion man penodol, a oedd wedi'u nodi drwy wrando ar blant a phobl ifanc a'r gymuned leol. Bydd y dull Rhoi Plant yn Gyntaf yn cyfrannu at liniaru effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, gan ymchwilio i ffyrdd mwy newydd ac effeithiol o drechu tlodi.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol:

 

Nododd yr Aelodau nad oedd y gr?p llywio yn cynnwys cynrychiolaeth gan Heddlu Dyfed-Powys a grwpiau eraill a gâi eu hystyried yn allweddol i'r dull, a oedd hefyd yn rhannu'r un blaenoriaethau â'r Parthau Plant. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at droseddu ac ofn troseddu. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth mai newydd gychwyn oedd y Parthau Plant, ac wrth iddynt ddatblygu roedd yn debygol y byddai aelodaeth y gr?p llywio yn ehangu ac yn cynnwys Heddlu Dyfed-Powys.

 

Nodwyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi neilltuo unrhyw gyllid i'r dull hwn, gan fod hon yn cael ei hystyried yn ffordd wahanol o weithio ac nid yn waith newydd o reidrwydd. Cafodd swm bach ei neilltuo ar gyfer 2018/19 a oedd wedi ariannu amser swyddog am 2 ddiwrnod yr wythnos.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch yr ymrwymiad oedd yn cael ei geisio mewn perthynas â Rhoi Plant yn Gyntaf. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod yr adroddiad wedi'i gyflwyno er mwyn rhannu gwybodaeth â'r Aelodau. Yn y tymor hir byddai aelodau lleol yn rhan allweddol o'r dull. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant mai dull strategol o weithio oedd Rhoi Plant yn Gyntaf ac nid prosiect dan arweiniad y Gwasanaethau Plant yn unig. Er mwyn i'r dull hwn fod yn llwyddiannus a chael effaith ar gymunedau penodol, roedd angen ymrwymiad strategol hir dymor gan holl adrannau'r Awdurdod Lleol, yn ogystal ag ymrwymiad gan sefydliadau allanol i gydweithio.

 

Nodwyd bod y plant yn y ffilm fer wedi rhannu profiadau negyddol o fyw yn yr ardal, a gofynnodd yr aelodau am ragor wybodaeth ynghylch y gwasanaethau oedd ar gael yn yr ardal. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth fod Canolfan Deulu Sant Paul, Canolfan Blant Integredig y Morfa, a gwasanaethau cymorth eraill ar gael yn yr ardal. Roedd y rhan fwyaf o ward Ty-isha yn yr ardal roedd Dechrau'n Deg yn ei chwmpasu. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth y byddai'r dull Rhoi Plant yn Gyntaf yn tynnu ynghyd y gwasanaethau oedd ar gael eisoes ac yn adrefnu'r ddarpariaeth yn unol â dymuniadau plant lleol. Nodwyd mai byrdwn y dull hwn oedd chwilio am atebion o fewn y gymuned a gweithio tuag at roi'r rheiny ar waith; 'doing with, not doing to' yn Saesneg.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at y Pentref Llesiant, sy'n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, a gofynasant a fyddai cyllid ar gael ar gyfer cyfleoedd hyfforddi a datblygu i bobl leol, a hefyd ar gyfer datblygu'r ardal leol. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod trafodaethau cychwynnol yn digwydd rhwng yr Adran Adfywio a phenaethiaid ysgolion, ond bod yna weledigaeth ar y cyd i roi i bobl leol y sgiliau angenrheidiol i fanteisio ar y cyfleoedd oedd ar gael.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Plant yn Gyntaf.

 

 

Dogfennau ategol: