Agenda item

CARTREFI CROESO CYFYNGEDIG - GOFYNIAD CYLLIDO

Cofnodion:

(NODER:

1.     Roedd y Cynghorydd J.K. Lloyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi,

2.     Gadawodd Cyfarwyddwr Cymunedau a Chadeirydd Adfywio a Pholisi y cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried)

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror 2019 (gweler cofnod 11), wedi ystyried cynigion ar gyfer darparu cyfleuster cyllido cyfunol priodol er mwyn caniatáu i Cartrefi Croeso ddechrau datblygu dau gynllun a bodloni'r trefniadau cyllido parhaus o ran costau gweithredu a chostau datblygu cynlluniau yn y dyfodol, yn ogystal â darparu ychydig wrth gefn i ddechrau cynlluniau yn y dyfodol sy'n cael eu nodi'n gynlluniau hyfyw

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

“Cytuno ar gyfleuster cyllido fel a ganlyn:-

1.     Cyfleuster cyllido - uchafswm o £6m;

2.     Hyd y trefniant - 5 mlynedd. Roedd hyn yn seiliedig ar ddefnyddio'r benthyciad ar gyfer datblygiad y cynllun a'i ad-dalu o fewn amserlenni'r cynllun busnes;

3.     Llog o 1.6% yn uwch na'r gyfradd a bennwyd gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus gan adlewyrchu'r diogelwch rhannol a fyddai ar gael i'r Cyngor o'r tir/gwaith cyn ei werthu;

4.     Cyfleuster cyllido i'w weithredu fel trefniant gorddrafft - arian i'w ddefnyddio pan fo angen yn unig a bydd y balans yn gostwng wrth i arian ddod i law;

5.     Mae cymeradwyo rhyddhau cyllid (hyd at y terfyn) i'w ddirprwyo i'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, gan ymgynghori â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, a bydd y cyfleuster i'w weinyddu fel a ganlyn:-

(a)   Rhyddhau'r cyllid adeiladu dim ond ar ôl i'r tendrau gael eu dychwelyd, ar ôl cadarnhau ac asesu bod y cynllun yn dal i fod yn un hyfyw, ac ar ôl rhoi'r trefniadau contractiol ar waith;

(b)   Rhoi Cytundeb Datblygu ar waith ar gyfer gwerthu'r tai cymdeithasol i'r Awdurdod;

(c)   Costau gweithredu: trefniadau benthyciad o oddeutu £280k y flwyddyn hyd nes y bydd y cwmni'n hyfyw heb yr elfen honno o gymorth;

(d)   Costau Datblygu Prosiectau. Bydd yr uchafswm gwreiddiol a ddyrannwyd o £750k yn ddigon, ac at ddiben monitro a rheoli costau datblygu prosiectau bydd adroddiadau chwarterol manwl yn cael eu cyflwyno i'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol gan ymgynghori â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau;

(e)   Adeiladu'r cynllun yn y dyfodol. Cymeradwyo cyllid mewn egwyddor (heb fod yn fwy nag uchafswm y cyfleuster) ar ôl cwblhau arfarniadau datblygu safle-benodol a rhyddhau cyllid adeiladu dim ond ar ôl i'r tendrau gael eu dychwelyd, ar ôl cadarnhau ac asesu bod y cynllun yn dal i fod yn un hyfyw, ac ar ôl i'r trefniadau contractiol gael eu rhoi ar waith;

(f)    Bydd yr elfennau terfynol ynghylch y cytundeb benthyciad manwl yn cael eu dirprwyo i'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol gan ymgynghori â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau

6.     Mae'r Cwmni i gyflwyno ei gynllun busnes tair blynedd i'r rhanddeiliad erbyn 31 Mawrth yn flynyddol er mwyn monitro cynnydd a hyfywedd y trefniadau cyllido”.

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau