Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad diweddaru ynghylch y Rhaglen Fuddsoddi o ran Priffyrdd, Troedffyrdd a Diogelwch Ffyrdd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau mewn perthynas â diogelwch ffyrdd a seilwaith cysylltiedig.
Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth i'r Aelodau am yr agweddau canlynol:-
· Cynllun Trafnidiaeth Lleol
· Llwybrau Diogel mewn Cymunedau
· Y Ddeddf Teithio Llesol a Rhwymedigaethau'r Awdurdod Lleol
· Rhaglen Gwella Diogelwch Ffyrdd a Gwella Troedffyrdd
· Grant Diogelwch Ffyrdd (Cyfalaf a Refeniw)
· Rhaglen Rheoli Traffig ac Atal Damweiniau
Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o'r cyllid ar gyfer cynlluniau yn ymwneud â diogelwch ffyrdd a chynlluniau seilwaith eraill yn 2018/19 a'r rhaglen wedi'i blaenoriaethu ar gyfer diogelwch ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan. Gofynnwyd a allai Aelodau gael map oedd yn dangos ble roedd y Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan. Bu i Reolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd gydnabod nad oedd llawer o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar hyn o bryd, ac o ran y cais y bwriad oedd cynyddu'r ddarpariaeth fel ei bod ar gael ar 25 o safleoedd eraill. Pan fyddai'r cais hwn wedi llwyddo, byddai map yn dangos yr holl bwyntiau gwefru cerbydau trydan yn cael ei rannu gydag aelodau'r Pwyllgor.
Mewn ymateb i ymholiad pellach ynghylch mewnbwn gan Gynghorau Tref a Chymuned, esboniodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd er bod y cais am 2018/19 wedi cael ei gyflwyno eisoes, byddai mewnbwn gan y Cynghorau Tref a Chymuned yn cael ei groesawu.
Mynegwyd pryderon ynghylch y diffyg pwyntiau gwefru mewn ardaloedd gwledig. Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd y byddai'r gyfres nesaf o geisiadau yn cynnwys ehangu'r ddarpariaeth wefru i ardaloedd gwledig.
· Gofynnwyd a oedd y defnydd cynyddol o sgwteri symudedd wedi'u hystyried, ac esboniodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod yn rhaid cynllunio, dylunio, cymeradwyo, adeiladu a chynnal a chadw llwybrau teithio llesol yng Nghymru yn unol â Chanllawiau Dylunio Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Byddai dylunio'r rhwydweithiau teithio gan ddefnyddio'r model dylunio yn sicrhau hygyrchedd i bawb ac roeddent yn cynnwys cynnal a chadw hygyrchedd i draciau ar gyfer pob defnyddiwr dilys, yn cynnwys pob math o feiciau, cerddwyr a defnyddwyr mewn cadair olwyn/sgwter symudedd.
· Cyfeiriwyd at yr adran yn ymwneud â Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. Dywedwyd bod y ffordd tu allan i Ysgol Model, Caerfyrddin yn enghraifft ragorol o lwybr diogel i'r ysgol, oherwydd y mesurau arafu traffig oedd ar waith yno, a oedd yn cynnwys terfyn cyflymder traffig o 20mya. Fodd bynnag, er gwaethaf y mesurau arafu traffig oedd ar waith, dywedwyd bod llawer o'r traffig yn mynd yn gynt na'r cyfyngiad o 20mya. Esboniodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd y rhagwelid mewn mannau lle roedd cyfyngiadau traffig is wedi eu cyflwyno, y byddai'r mesurau oedd ar waith yn mabwysiadu tacteg hunanorfodi. Fodd bynnag, pe bai hyn yn aflwyddiannus, byddai achos yn cael ei roi gerbron y Gweithgor Cyfyngiadau Cyflymder.
· Pwysleisiwyd nad oedd Terfyn Cyflymder Cenedlaethol o 60mya yn dderbyniol drwy bentrefi bychain gwledig, felly gofynnwyd a fyddai'n bosibl pennu terfyn cyflymder cyffredinol o 30mya drwy'r holl bentrefi bach gwledig? Eglurodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth mai'r Terfyn Cyflymder Cenedlaethol ar gyfer ffyrdd â goleuadau stryd oedd 30mya.
Fodd bynnag, roedd y drefn bresennol o ran terfyn cyflymder yn galluogi awdurdodau traffig i bennu terfyn cyflymder lleol mewn sefyllfaoedd lle roedd anghenion ac amodau lleol yn awgrymu terfyn cyflymder a oedd yn wahanol i'r terfyn cyflymder cenedlaethol. Yn ogystal, dylai terfynau cyflymder gael eu harwain gan dystiolaeth a bod yn hunanesboniadol, a byddent yn bennaf yn ceisio atgyfnerthu asesiad pobl o'r hyn sy'n gyflymder diogel i deithio arno.
· Mewn ymateb i ymholiad a wnaed mewn perthynas â Map Rhwydwaith Integredig (INM) a gyflwynwyd yn 2017 ac a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru, esboniodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod yr INM wedi ei bennu mewn perthynas â nifer yr ardaloedd adeiledig oedd â phoblogaeth fwy na 2 fil, roedd cynlluniau mewn ardaloedd lled-wledig ledled y sir, ac roedd manylion wedi eu darparu yn yr adroddiad. At hynny, er taw cynlluniau gan Lywodraeth Cymru oeddent a oedd yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar ardaloedd trefol, roedd cyfarfodydd wedi digwydd i bwysleisio y gallai llawer i ardal wledig yng Nghymru elwa ar gynlluniau o'r fath.
· Cyfeiriwyd at Addysg a Hyfforddiant Diogelwch Ffyrdd - Hyfforddiant Seiclo Safonau Cenedlaethol. Gofynnwyd a oedd unrhyw dystiolaeth ar gael a fyddai'n dangos bod y gwaith hyfforddi gyda'r plant wedi cynyddu'r nifer oedd yn seiclo i'r ysgol. Esboniodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd er ei bod yn anodd mesur hyn, un o brif elfennau llwybrau diogel i gymunedau oedd addysgu plant blwyddyn 6 ac oedolion mewn ymdrech i'w hannog i ddewis seiclo fel dull teithio llesol i'w hysgol uwchradd.
· Mynegwyd pryder ynghylch y cynnydd mewn traffig ysgol a'r helynt roedd hyn yn ei achosi ar yr adegau pan gâi plant eu gollwng a'u casglu. Mewn ymgais i leihau problemau traffig, gofynnwyd a oedd yn bosibl trefnu bod ysgolion yn cychwyn ac yn gorffen ar amserau gwahanol? Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd er bod hyn wedi ei dreialu'n llwyddiannus yn Lloegr, roedd yn anodd yn gorfforaethol o ran y gwasanaethau trafnidiaeth ysgolion a rennir. Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd y byddai'n trafod yr opsiwn hwn yn fewnol ymhellach. Dywedodd Aelod o'r Pwyllgor fod awdurdod gan Lywodraethwyr Ysgol i newid amserau cychwyn a gorffen ysgolion.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y Rhaglen Fuddsoddi o ran Priffyrdd, Troedffyrdd a Diogelwch Ffyrdd.
Dogfennau ategol: