Agenda item

CWESTIWN GAN CYNGHORYDD GARETH JOHN I'R CYNGHORYDD JANE TREMLETT, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD

“A ellid rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cyngor ynghylch y cynnydd a wnaed, y camau a gymerwyd a’r cytundebau a luniwyd â Bwrdd Iechyd Hywel Dda i sefydlu gwasanaeth gofal cymunedol gwirioneddol integredig ar draws yr ardal? Hefyd, a ellid rhoi gwybod i’r Cyngor beth yw’r amserlen ddisgwyliedig o ran ei sefydlu?”

Cofnodion:

Allai'r Cyngor gael diweddariad ynghylch y cynnydd sy'n cael ei wneud, y camau sy'n cael eu cymryd, a'r cytundebau gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda o ran sefydlu gwasanaeth gofal cymunedol gwir integredig ledled yr ardal? Allai'r Cyngor hefyd gael gwybod beth yw'r amserlen a ragwelir ar gyfer ei sefydlu?”

 

Ymateb y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd

Diolch ichi am y cwestiwn. Fel y gwyddoch, ers peth amser mae strwythur integredig wedi bod gennym sydd wedi'i seilio ar y tair ardal ar gyfer pobl h?n. Rydym yn rhannu pennaeth gwasanaeth ar gyfer pobl h?n â'r Bwrdd Iechyd a phennaeth comisiynu â Sir Benfro. Dros y 6 mis diwethaf araf fu'r cynnydd, er ein bod wedi cynnal perthynas waith gadarnhaol gyda Ceredigion, Sir Benfro a'r Bwrdd Iechyd. Gallaf adrodd cynnydd yn y meysydd canlynol:

 

- Bellach mae consensws ar draws y rhanbarth y dylai iechyd y gymuned a gofal cymdeithasol gael eu trefnu gan 7 ardal ar draws y rhanbarth.

 

- Datblygwyd cais trawsnewid gan y bartneriaeth ranbarthol, sydd wedi cael ei groesawu gan Lywodraeth Cymru, er ein bod yn dal i aros iddynt gytuno'n ffurfiol.

 

- Mae Prif Weithredwyr y 4 sefydliad rhanbarthol wedi cytuno ar ddull eang o ddiwygio a chryfhau'r bartneriaeth ranbarthol, a gobeithiwn y bydd cytundeb ffurfiol ar gyfer trefniadau cryfhau newydd wedi eu cymeradwyo erbyn diwedd mis Mawrth.

 

Fodd bynnag, mae'r cynnydd wedi bod yn hynod o araf o ran cytuno ar fanylion y strwythurau y bydd angen eu rhoi ar waith er mwyn gweithredu'r cynnig integredig o ofal sylfaenol a gofal cymdeithasol. Yn arbennig, nid oes hyd yn hyn ddealltwriaeth gyffredin yngl?n â'r berthynas rhwng ardaloedd lleol a chlystyrau meddygon teulu, na pha wasanaethau penodol fyddai'n cael eu darparu ar lefelau lleol, sirol a rhanbarthol. Yn wir, yn y flwyddyn ddiwethaf mae rhai gwasanaethau iechyd megis therapïau wedi eu canoli yn y rhanbarth.

 

Fel Cyngor rydym yn glir ein bod am wneud cynnydd cyflym ac rydym yn dal yn optimistaidd y bydd ein perthynas weithio dda yn rhoi bod i gynigion ymarferol ac amserlen glir i'w gweithredu dros y flwyddyn nesaf.

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Gareth John:

 

“Diolch i chi am yr ymateb ac roedd nifer o elfennau cadarnhaol ynddo. Dywedodd y Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrth Aelodau'r Cynulliad ddoe fod llawer o waith i'w wneud o hyd, hyd yn oed â'r Gronfa Drawsnewid, i bontio, cysylltu, symleiddio ac ail-lunio sut y mae pobl yn cael mynediad at ofal iechyd. Hefyd, soniodd am rôl hanfodol y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn hyn o beth, gan taw nhw yw'r cyfrwng y gall arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol ei ddefnyddio i gydweithio ag eraill i gynllunio a darparu gwasanaethau ac i ddiwallu anghenion eu poblogaethau lleol. Aeth ymlaen i ychwanegu ei fod wedi dechrau gweld newid a chysylltiadau gwell ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, a mwy o synnwyr o rannu'r un uchelgais. O gofio'r gwahaniaethau diwylliannol a sefydliadol enfawr rhwng y GIG a Llywodraeth Leol, hanes Hywel Dda o ran bod mewn partneriaethau hyd yn hyn a bod ei gapasiti strategol yn canolbwyntio'n llwyr ar gadw gwasanaethau acíwt i fynd, cydbwyso ei gyllideb, a dod o hyd i gae rhywle rhwng Sanclêr ac Arberth, fyddech chi'n gallu cadarnhau optimistiaeth y Gweinidog y bydd ein bwrdd partneriaeth ranbarthol, yn ei ffurf bresennol, yn gallu cyflawni'r nod?

 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:-

Gan wybod faint o waith sydd wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf, rwy'n credu fy mod yn mynd i ofyn i'r Cyfarwyddwr roi newyddion da i chi.

 

Ymateb gan y Cyfarwyddwr Cymunedau:

Mae'n rhaid i ni fod yn optimistaidd bob amser sbo. Mae gwneud i hyn weithio yn anodd iawn ac mae'n rhywbeth mae'r DU gyfan wedi ceisio gweithio arno. Felly, rwy'n credu y byddwn i'n optimistaidd, ond byddwn i'n rhoi'r gair gochelgar o'i flaen. Felly byddwn i'n ochelgar ac yn optimistaidd ar yr un pryd. Ffurfiwyd y Byrddau Partneriaeth at un diben. Bellach maent wedi eu defnyddio fel cyfrwng ar gyfer newid llawer mwy. Fel y mae'r Aelod Arweiniol wedi dweud, rydym yn gweithio gyda'n partneriaid iechyd ac awdurdodau cyfagos i gymryd camau breision tuag at ddiwygio hynny, gwneud y trefniadau llywodraethu'n addas at y diben, darparu cyllidebau cyfun o tua  £100m, ac integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn. Diwygio enfawr lle mae'n rhaid cael cydbwysedd rhwng arweinyddiaeth weithredol ddeinamig a goruchwyliaeth wleidyddol. A dyna'r her sef cael y trefniadau llywodraethu yn iawn a diwygio'r byrddau partneriaeth i fod yn addas i'r diben o ran cyflawni. Felly, optimistaidd ie, ond gochelgar hefyd, oherwydd fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn gwneud hyn am amser hir iawn. Mae'r berthynas rhyngom yn dda ac mae parodrwydd i gydweithio. Ond fel y mae pethau, byddai dweud ein bod yno, yn or-ddweud sylweddol.