Agenda item

CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI 2019/20 - 2020/21 A LEFELAU RHENTI TAI 2021/22 - REFENIW A CHYFALAF

Cofnodion:

(SYLWER: Roedd y Cynghorwyr J. Edmunds a H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Hysbyswyd y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror 2019 (gweler Cofnod 8), wedi ystyried Cyllideb Cyfrif Refeniw Tai 2019/20 tan 2021/22 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2019/20 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, ar y Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai 2019/2022. Roedd yn adleisio cynlluniau yn y Cynllun Busnes 30 blynedd sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer cyrraedd Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+) a'n Strategaeth Tai Fforddiadwy.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y buddsoddiad cyfalaf o £231m yn y cynllun busnes presennol wedi sicrhau bod tenantiaid yn elwa ar Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wrth gamu ymlaen roedd y gyllideb wedi cael ei llunio mewn modd oedd yn gofalu bod y cyllid priodol yn cael ei ddyrannu er mwyn cynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy yn achos holl eiddo'r Cyngor i'r dyfodol. Adroddodd mai'r disgwyl dros y 3 blynedd nesaf oedd y byddai swm o £45m yn cael ei wario ar gynnal a gwella'r stoc dai a thrwy hynny barhau â'r daith fel y manylwyd yng Nghynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy.

 

Hefyd roedd y gyllideb yn darparu cyllid o ryw £44m dros y 3 blynedd nesaf i gefnogi Rhaglen Tai Fforddiadwy y Cyngor, a fyddai'n arwain at gynnydd yng nghyflenwad y tai fforddiadwy ar hyd a lled y sir drwy wahanol atebion gan gynnwys ein rhaglen adeiladu tai newydd a'r cynllun prynu'n ôl. Byddai'r rhaglen adeiladu tai newydd yn cael ei chynnal drwy'r rhaglen gyfalaf a thrwy'r cwmni tai newydd – Cartrefi Croeso. 

 

Atgoffwyd y Cyngor gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol iddi fod yn ofynnol i'r Awdurdod, ers 2015, fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, lle roedd yn ofynnol i gynnydd arfaethedig mewn rhent gael ei ragnodi gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o'r rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol. Er i'r polisi hwnnw ddod i ben yn 2018/19, roedd Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu polisi interim am flwyddyn ar gyfer 2019/20, a oedd yn caniatáu i'r awdurdodau lleol o fewn eu band rhent targed i gynyddu'r rhent gan y CPI yn unig, gyda'r disgwyliad y byddai Llywodraeth Cymru yn datblygu polisi newydd i'w weithredu yn 2020/21. 

 

Fodd bynnag, ar 30 Ionawr 2019, ar ôl i'r polisi interim cychwynnol gael ei ystyried gan yr holl Awdurdodau Tai Lleol, roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i'r Awdurdodau Lleol am ddiwygiad i'r polisi hwnnw a oedd yn rhoi hyblygrwydd i Awdurdodau Lleol â rhent cyfartalog o fewn y Band Rhent Targed gynyddu rhent ‘hyd at £2 yr wythnos’, yn amodol ar sicrhau nad oedd y cynnydd cyfan mewn rhent ar gyfer eu hanghenion cyffredinol a'u stoc tai gwarchod yn fwy na 2.4% ac na fyddai unrhyw denant unigol yn derbyn cynnydd mewn rhent oedd yn fwy na'r codiad polisi y cytunwyd arno o 2.4% ynghyd â'r cynnydd o £2.00. Roedd y diwygiad hwnnw wedi galluogi'r Bwrdd Gweithredol i ystyried cynnydd yn y rhent a oedd yn caniatáu i'r Awdurdod gyflawni ei ymrwymiad blaenorol i denantiaid, drwy weithredu'r polisi cysoni gwreiddiol a sefydlu lefel rhent decach i bob tenant. O ganlyniad, roedd y Bwrdd Gweithredol wedi cynnig bod y rhent yn cael ei osod ar lefel isel a theg, a oedd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ac a oedd yn cynnal polisi cysoni'r Cyngor h.y.:-

-        Bod cynnydd o 1.92% yn cael ei wneud i renti eiddo sydd ar y targed

-        Bod y rhenti hynny sy'n uwch na'r targed yn cael eu rhewi hyd nes eu bod yn unol â'r rhent targed.

-        Gwneir cynnydd o 1.92% i'r rhenti hynny sydd yn is na'r rhent targed a chânt eu cynyddu £1 yr wythnos ar y mwyaf.

Byddai hynny'n creu cynnydd o 2.4% neu £2.05 i'r rhent tai cyfartalog ac yn cefnogi cynllun busnes cynaliadwy.

Wrth gynnig argymhellion y Bwrdd Gweithredol, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y cynnig diwygiedig wedi'i ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu - Cymuned yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror, 2019. Cafodd y cynnig ei eilio a:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

-        “Cynyddu'r rhent tai cyfartalog yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol  Llywodraeth Cymru (diwygiwyd ar 30 Ionawr]

a)    Bod cynnydd o 1.92% yn cael ei wneud i renti eiddo sydd ar y targed

b)    Bod y rhenti hynny sy'n uwch na'r targed yn cael eu rhewi hyd nes eu bod yn unol â'r targed

c)    Bod cynnydd o 1.92% yn cael ei wneud i'r rhenti hynny sydd yn is na'r rhent targed a'u bod yn cael eu cynyddu £1 yr wythnos ar y mwyaf

 

A thrwy hynny gynhyrchu cynnydd o 2.4% neu £2.05 mewn rhent tai cyfartalog a bydd yn darparu'r un gwerth casglu rhent cyffredinol i'r Cyfrif Tai;

 

-        Cadw rhent garejis yn £9.00 yr wythnos a sylfeini garejis yn £2.25 yr wythnos;

 

-        Rhoi'r polisi taliadau am wasanaethau ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid sy'n cael budd o wasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny;

 

-        Cynyddu'r taliadau am ddefnyddio ein gwaith trin carthffosiaeth yn unol â'r cynnydd mewn rhenti;

 

-        Cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20 (cyllidebau amhendant yw rhai 2020/21 a 2021/22), fel y nodwyd yn Atodiad B;

 

-        Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllido perthnasol ar gyfer 2019/20, a'r gwariant mynegiannol a bennwyd ar gyfer 2020/21 hyd 2021/22, fel y'u nodwyd yn Atodiad A”

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau