Agenda item

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2019/20 - 2023/24

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror, 2019 (gweler Cofnod 7), wedi ystyried y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd am y cyfnod rhwng 2019/20 a 2023/24, a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau gyflwyno i'r Cyngor, ar ran y Bwrdd Gweithredol, y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd a roddai ystyriaeth i'r ymgyngoriadau ynghylch y gyllideb. Roedd y rhaglen yn darparu ar gyfer gwariant amcangyfrifedig o bron £261m dros y 5 mlynedd a oedd yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd ariannu ac yn manteisio i'r eithaf ar ffynonellau allanol posibl, gyda chyfraniad y Cyngor tua £133m ynghyd â'r £128k o gyrff grant allanol. Pe cai ei mabwysiadu byddai'r rhaglen yn cynnwys cyfuniad o gynlluniau newydd a phresennol i ddatblygu'r economi leol, i greu swyddi ac i wella ansawdd bywyd ein dinasyddion.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, yn yr un modd â'r setliad refeniw, nad oedd y Cyngor wedi cael unrhyw ragamcanion oddi wrth Lywodraeth Cymru gyda golwg ar gyllid cyfalaf cyffredinol y tu hwnt i 2019/20. Yn unol â hynny, roedd y rhaglen yn seiliedig ar y cynsail y byddai benthyca â chymorth, a grant cyffredinol, y blynyddoedd i ddod ar yr un lefel ag y byddent yn 2019/20. Fodd bynnag, roedd grant cyfalaf ychwanegol at ddibenion cyffredinol wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod o dair blynedd o 2018/19 i 2020/21, a oedd yn dod i ryw £6.6m, a oedd wedi'i gynnwys bellach yn y rhaglen gyfalaf 5 mlynedd gyfredol.

 

Dywedodd fod llawer o'r buddsoddiadau wedi'u gwneud mewn cynlluniau megis rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif, Priffyrdd, Adfywio a Thai, a oedd yn cael eu hystyried yn rhai pwysig ar gyfer y sir. Roedd cyllid newydd wedi'i ddarparu yn yr Adran Cymunedau ar gyfer canolfan hamdden Dyffryn Aman am 2020/21 ac ar gyfer parhau i gefnogi Tai yn y Sector Preifat yn 2023/24 ar gyfer grant cyfleusterau i'r anabl. Byddai Adran yr Amgylchedd yn dal i gael cefnogaeth ar gyfer Gwella Priffyrdd, Cynnal a Chadw Pontydd a Chynlluniau Diogelwch Ffyrdd i mewn i 2023/24 ac ar gyfer Llwybr Dyffryn Tywi yn 2019/20. Yn ogystal, o ganlyniad i gyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru, byddai'r gwariant oedd wedi'i gyllidebu ar 'adnewyddu ffyrdd' am y tair blynedd nesaf yn cynyddu £1.5m ychwanegol y flwyddyn.

 

Roedd rhai newidiadau wedi cael eu gwneud i'r Rhaglen Moderneiddio Addysg ar gyfer blynyddoedd 2019/20 i 2023/24, ac roedd cyllidebau wedi'u hail-broffilio a rhai cynlluniau newydd wedi'u cyflwyno gan gynnwys Ysgol Gymraeg Cydweli, yr Hendy, Llandeilo a'r ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwy ffrwd yn Rhydaman.  Roedd hynny gan fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar ei bod yn cymeradwyo rhaglen Band B a oedd yn rhedeg tan 2024, a'r prif newid oedd cynnydd yn y gyfradd gyfrannu o 50% i 75% ar gyfer ysgolion, ac o 50% i 75% ar gyfer ysgolion arbennig, a thrwy hynny alluogi'r awdurdod i ddarparu mwy o ysgolion yn y rhaglen Band B £129.5m. Ar hyn o bryd roedd cyllideb yr Awdurdod wedi clustnodi cyllid ar gyfer £70m o'r rhaglen £129.5m.

 

Roedd cyllidebau'r adrannau Adfywio a'r Prif Weithredwr bellach yn cynnwys cynlluniau'r Fargen Ddinesig, gan gynnwys y Pentref Llesiant a'r Egin. Roedd Canolfan Hamdden arfaethedig Llanelli a'r adolygiad o Ardal Llanelli hefyd wedi'u nodi fel cydran allweddol o fewn datblygiad arfaethedig y Pentref Llesiant. Roedd yna hefyd gefnogaeth barhaus ar gyfer Cronfa Prosiectau'r Strategaeth Drawsnewid o fewn yr adran Adfywio ar gyfer 2023/24 a oedd â'r potensial o gael cyllid allanol fel arian cyfatebol i gyllideb y Cyngor.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y byddai'r swyddogion yn parhau i fonitro cynlluniau unigol a'r cyllid sydd ar gael. Tra byddai angen rheoli'r ddwy elfen hyn yn agos i sicrhau bod cynlluniau'n cael eu cyflawni'n llawn, roedd y rhaglen bresennol yn cael ei chyllido'n llawn am 5 mlynedd. Yna fe gynigiodd argymhellion y Bwrdd Gweithredol mewn perthynas â'r Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) a'r cyllid arfaethedig ar ei chyfer, yn unol â manylion yr adroddiad. Eiliwyd y Cynnig

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

“bod y cyllid a'r Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd, fel y'u nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad, gyda 2019/20 yn gyllideb bendant a chyllidebau 2020/21 i 2023/24 yn gyllidebau amhendant/dangosol yn cael eu cymeradwyo;

bod y rhaglen yn cael ei hadolygu, yn ôl yr arfer, oni lwyddir i gael yr hyn a ddisgwylir o ran y cyllid Allanol neu gyllid y Cyngor Sir;

bod y Strategaeth Gyfalaf, fel y manylir arni yn Atodiad C, yn cael ei chymeradwyo”.

 

HYD Y CYFARFOD

[SYLWER: Yn dilyn diwedd yr eitem hon am 1.00pm, tynnwyd sylw'r Cyngor at Reol 9 o'r Weithdrefn Gorfforaethol - 'Hyd Cyfarfod' - ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr. Felly

 

PEDNERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Rheol 9 o'r Weithdrefn Gorfforaethol ohirio'r cyfarfod tan 2.00 pm, i alluogi gweddill yr eitemau ar yr agenda i gael eu hystyried.

 

CYFARFOD WEDI'I AILYMGYNNULL

Bu i'r Cyngor ailymgynnull am 2.00pm, i ystyried gweddill yr eitemau ar yr agenda.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau