Agenda item

CWESTIWN GAN CYNGHORYDD EDWARD THOMAS I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu yn ddiweddar gan y Gymdeithas Cludo Nwyddau am oedi o ran gweithredu ei Strategaeth Drafnidiaeth, yn benodol ffordd liniaru’r M4 yng Nghasnewydd.

 

A ydych chi’n credu bod y methiant hwn i wella’r cysylltiadau o’r dwyrain i’r gorllewin yn cael effaith andwyol ar economi Sir Gaerfyrddin.  Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth Mark Drakeford, y Prif Weinidog, am hyn?”

 

Cofnodion:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu'n ddiweddar gan y Gymdeithas Cludo Nwyddau am yr oedi o ran rhoi ei Strategaeth Drafnidiaeth ar waith, yn enwedig ffordd liniaru'r M4 yng Nghasnewydd. A ydych yn credu bod y methiant hwn i wella'r cysylltiadau o'r Dwyrain i'r Gorllewin yn cael effaith andwyol ar economi Sir Gaerfyrddin? Beth ddywedech chi wrth Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, am hyn?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:

 

Ydw, rwyf yn credu bod y methiant hwn i wella'r cysylltiadau o'r Dwyrain i'r Gorllewin yn cael effaith andwyol ar yr economi yma yn Sir Gaerfyrddin, a byddwn yn annog Prif Weinidog Cymru i unioni'r mater cyn gynted â phosibl. Daeth ymchwiliad cyhoeddus annibynnol, a drefnwyd gan yr Ysgrifennydd dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, i'r ffordd liniaru arfaethedig i ben haf diwethaf, ac rwyf ar ddeall bod adroddiad yr Arolygydd bellach gydag uwch-weision sifil. Maent ar hyn o bryd yn paratoi'r cyngor a roddir i'r gweinidogion. Gobeithio, cyn bo hir bydd Llywodraeth Cymru yn nodi amserlen glir ar gyfer beth sy'n digwydd nesaf, ond mae hynny'n gwbl ddibynnol ar argymhelliad yr adroddiad ynghylch p'un a ddylai cynllun fynd rhagddo ai peidio. Os gwneir y penderfyniad i fwrw ymlaen gyda'r prosiect, rwyf wedi cael fy hysbysu y gallai'r gwaith adeiladu ddechrau yn yr hydref ond byddai dal yn cymryd pum mlynedd i'w gwblhau. Fodd bynnag, mae AC Llafur Lee Waters wedi rhagweld y gallai penderfyniad i fwrw ymlaen fod yn agored i her gyfreithiol, felly gallai'r anawsterau barhau.

 

Bydd unrhyw un sydd wedi gyrru ar hyd yr M4 yn ymwybodol o'r angen dybryd i leihau'r tagfeydd presennol. Mae'n wael iawn i'r gogledd o Gasnewydd, lle mae'r ffordd yn culhau i ddwy lôn yn unig wrth dwneli Brynglas. Ac mae bron pawb yn cytuno y bydd ffordd liniaru newydd yr M4 yn rhoi hwb i'r economi drwy wella mynediad i bobl a nwyddau i Dde a Gorllewin Cymru. Roedd yr Economegydd Stephen Bussell, o Ove Arup and Partners Ltd, wedi dweud wrth yr ymchwiliad y byddai effaith ehangach y cynllun ar Gymru a'r DU werth dros £2 biliwn. Awgrymodd y byddai'r gwelliannau o ran trafnidiaeth, effeithlonrwydd economaidd, diogelwch ac allyriadau carbon yn fwy na gwneud iawn am gost y buddsoddiad. Byddai amserau teithio yn llai, gan roi bod i fuddion penodol i gwmnïau logisteg a 'gweithrediadau dim ond mewn pryd' sydd ar hyn o bryd yn wynebu tarfu rheolaidd a'r costau sydd ynghlwm wrth hynny. Ond mae hyn i gyd wedi bod yn hysbys am y rhan orau o 30 mlynedd. Mae Llywodraeth Cymru eisiau adeiladu darn o draffordd newydd 14 milltir (23km) chwe lôn i'r de o Gasnewydd, a fyddai'n cynnwys pont ar draws afon Wysg, yn ogystal ag ailfodelu sylweddol ar gyffyrdd 23 a 29 o'r M4. 

 

Ym mis Gorffennaf 2014 rhoddodd Edwina Hart, sef Gweinidog yr Economi ar y pryd, sêl bendith i'r cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gytuno ar sut i'w ariannu. Trafodwyd tri llwybr posibl - a'r llwybr du gafodd gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Yn dilyn hynny, cynigiwyd pedwerydd llwybr rhatach gan yr arbenigwr trafnidiaeth yr Athro Stuart Cole, Athro Emeritws Trafnidiaeth yng Nghanolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru yn Ysgol Fusnes Prifysgol Morgannwg. Gelwid y llwybr hwn yn llwybr glas a byddai'r gwaith yn cynnwys uwchraddio Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol yr A48 yng Nghasnewydd a hen ffordd y gwaith dur hefyd. Dyma'r llwybr yr ydym ni ym Mhlaid Cymru yn ei ffafrio. Yn ogystal â bod yn rhatach, gellid osgoi effaith amgylcheddol enfawr y llwybr du. Mae fy nghyd-aelodau o Blaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi dadlau ers tro byd y dylai'r arian fyddai'n cael ei arbed wrth ddewis y Llwybr Glas gael ei ailfuddsoddi wedyn mewn mathau eraill o drafnidiaeth, yn enwedig gwella rhwydwaith rheilffyrdd De a Gorllewin Cymru.

 

Drwy gyd-ddigwyddiad, ysgrifennais at Ken Skates yr wythnos diwethaf i roi fy nghefnogaeth i'r bwriad i ddatblygu gorsaf parcffordd newydd i wasanaethu ardal drefol Bae Abertawe a Gorllewin Cymru. Dywedais wrtho pa mor bwysig y gallai'r cynigion fod o ran gwella cysylltiadau trafnidiaeth i Orllewin Cymru a'r tu hwnt. Gallai fod yn gyfle i fynd i'r afael â'r rhwystrau diamheuol i dwf economaidd sy'n bodoli yma yng Ngorllewin Cymru. Mae angen inni allu datblygu sectorau gwerth uwch a chyfleoedd cyflogaeth gwerth uwch i gyfateb â nhw. Rydym am gynyddu nifer y busnesau yn y sectorau hyn i ehangu'r sylfaen economaidd gan wella lefel Gwerth Ychwanegol Gros y rhanbarth o gymharu â chyfartaledd y DU. Mae'r rhain yn ddyheadau mae'r pedwar awdurdod lleol sy'n rhan o ranbarth Bae Abertawe yn eu rhannu. Gall seilwaith rheilffyrdd gwell ar gyfer gorllewin Cymru gyfan fod o fudd i ni i gyd, gan gynnwys trigolion Llandeilo.

 

Felly fy neges syml i Mark Drakeford fyddai datrys y mater a hynny cyn gynted â phosibl. Awgryma'r dystiolaeth sylweddol sydd ar gael fod angen cysylltiadau trafnidiaeth gwell yn ddirfawr ar economi Gorllewin Cymru, a gallai unrhyw oedi pellach gael effaith drychinebus ar ein huchelgais o greu ffyniant o'r newydd i'n pobl yma yn Sir Gaerfyrddin.

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Edward Thomas:

 

Diolch i chi Emlyn am yr ateb cynhwysfawr hwn a'r manylion rydych wedi'u rhoi inni. Ond pan fyddwch yn siarad â Phrif Weinidog Cymru, a fyddech cystal â'i atgoffa nad oes penderfyniad wedi'i wneud hyd yn hyn ar y gwelliannau ffordd strategol ar gyfer Llandeilo a'r llygredd sy'n effeithio ar ganol y dref gan achosi problemau iechyd i blant a phobl h?n Llandeilo? Felly byddwn yn ddiolchgar pe gallech ei atgoffa o'r mater hwn, oherwydd nid wyf yn credu bod Ken Skates a'i Ddirprwy yn talu sylw i'r llythyron mae pobl Llandeilo yn ei ysgrifennu ato.

 

Ymateb gan y Cynghorydd EmlynDole, Arweinydd y Cyngor:

 

Iawn, fe wnaf i hynny