Agenda item

CWESTIWN GAN MISS C. SYLVAN I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn cael eu teimlo yn Sir Gaerfyrddin a chawsom lifogydd y llynedd a achosodd ddigartrefedd, difrod a marwolaeth. Beth mae’s Cyngor yn ei roi ar waith a sicrhau ei bod yn ddiogel imi fyw, gweithio a magu teulu yng Nghaerfyrddin yn y dyfodol”.

Cofnodion:

“Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn cael eu teimlo yn Sir Gaerfyrddin a chawsom lifogydd y llynedd a achosodd ddigartrefedd, difrod a marwolaeth. Beth mae'r Cyngor yn ei roi ar waith i sicrhau ei bod yn ddiogel imi fyw, gweithio a magu teulu yng Nghaerfyrddin yn y dyfodol.”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

Hoffwn yn gyntaf ddiolch i Coral Sylvan am godi'r cwestiwn hwn gyda ni. Cyn ateb, rwyf am ddiolch iddi nid yn unig am y cwestiwn, ond am ddod atom y bore yma, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n torri tir newydd yn hanes Cyngor Sir Caerfyrddin. Nid wy'n meddwl ein bod wedi cael rhywun mor ifanc ag un ar ddeg oed yn dod yma o'r blaen i ofyn cwestiwn i ni, sy'n cynnig her i ni, ac sy'n gofyn inni ystyried y dyfodol yng nghyd-destun ei chenhedlaeth. Synnwn i ddim petai'n Arweinydd ar y Cyngor hwn rhyw ddiwrnod. Rwy'n credu ei bod yn wych cael eich croesawu yma'n ffurfiol i'r Siambr a chael ymateb i gwestiwn y mae angen i ni fel cynghorwyr, fel cyngor sir, ac fel awdurdodau lleol ledled Cymru roi sylw iddo.

 

Rydym wedi clywed ers blynyddoedd nad yw'n edrych yn debyg fod gan bobl ifanc unrhyw ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth na'r byd o'u cwmpas.  Wel, mae arwyddion bod pethau'n newid. Fel y canodd rhywun roeddwn yn ei fwynhau nôl yn y 70au, Bob Dylan, mae'r amserau'n newid. Maent yn newid o ran y bobl ifanc sy'n barod i sefyll yn gadarn a gofyn y cwestiynau iawn a pherthnasol, ac mae clywed bod diddordeb ganddynt mewn gwleidyddiaeth a'r byd o'n cwmpas yn galondid mawr.

 

Rwy'n eistedd gyferbyn â'r Cyfarwyddwr Addysg ac rwy'n si?r na fyddwch chi'n cytuno â mi fan hyn, ond gwnaed cryn argraff arnaf i ddydd Gwener diwethaf pryd yr aeth disgyblion ar draws y DU "ar streic" fel rhan o ymgyrch fyd-eang i weithredu ar newid yn yr hinsawdd. Wyddoch chi beth, roeddwn i'n gyrru adref ar yr A48 nos Wener ddiwethaf a bu bron imi achosi damwain gan fy mod yn gwrando ar y newyddion am y streic a'i heffaith, ac ar bobl yn siarad am y peth. Dyfynnwyd siaradwr o Adran Addysg Llywodraeth y DU, a ddywedodd (a dyma pam bu bron imi gael damwain) mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid caniatáu absenoldeb yn ystod y tymor ysgol, a meddyliais i fi fy hun, ar ôl cael rheolaeth ar y llyw, beth am ddyfodol y blaned, pa mor eithriadol yw hynny? Mae'n rhaid bod hwnnw'n fater go eithriadol i ni i gyd.  

 

Cerddodd disgyblion o bob rhan o'r wlad mas o'u hysgolion er mwyn galw ar y llywodraeth i ddatgan argyfwng hinsawdd ac i gymryd camau gweithredol i ymdrin â'r broblem honno. Cynhaliwyd protestiadau mewn mwy na 60 o drefi a dinasoedd ar draws y DU, a bu i oddeutu 15,000 o fyfyrwyr gymryd rhan. Roeddent yn cario placardiau, ac roedd rhai ohonynt yn darllen: "Nid oes Planed B." Mae mor bwysig fod pobl ifanc yn cael dweud eu dweud a'u bod yn cymryd diddordeb brwd yn y byd o'u cwmpas. O ran y cwestiwn penodol a ofynnwyd gennych, gallaf ddweud wrthych fod y Cyngor, ers y llifogydd y siaradoch amdanynt, wedi gofyn am asesiad o beth yn union ddigwyddodd ar draws ein sir tua diwedd y llynedd. Rydym am benderfynu mewn ffordd glir a manwl beth ddylai ein blaenoriaethau at y dyfodol fod yn y cyd-destun hwn.

 

Mae tystiolaeth wyddonol yn rhoi darlun clir iawn: Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd; mae'n digwydd yn bennaf o achos gweithgarwch dynol, a bydd ei effeithiau yn y degawdau i ddod yn rhai difrifol, ac, o bosibl, niweidiol. Nawr, nid wyf yn wyddonydd nac ychwaith yn un sy'n meddwl yn wyddonol, ond rwyf yn gwybod y bu i Darwin, pan gyhoeddodd 'Origin of Species', fenthyg peth deunydd gan Gymro amlwg iawn, Alfred Russel Wallace, a oedd eisoes wedi cyhoeddi ei ddamcaniaeth ynghylch esblygiad a dethol naturiol. Mae rhai wedi ei galw'n 'survival of the fittest' ac, yn y cyd-destun hwnnw, mae'n rhyfedd meddwl ein bod ni yma'n trafod dyfodol y blaned fel y rhywogaeth honno  yng nghyd-destun dethol naturiol. Byddech yn meddwl y byddem wedi manteisio ar y cyfle hwnnw i ymddwyn yn gyfrifol ac yn ddoeth, o gofio ein lle ni yn y system honno. Yn anffodus, mae'n ymddangos ein bod wedi ei ddefnyddio fel trwydded i ddinistrio ac i lygru. Mae'r gwyddonwyr yn glir ynghylch y dystiolaeth honno. Mae effeithiau niweidiol posibl o'n blaenau yn y degawadau i ddod. Allyriadau nwyon t? gwydr o geir ac o weithfeydd p?er, yn ogystal â ffynonellau eraill a grëwyd gan Ddyn sy'n bennaf gyfrifol fel y gwyddoch, yn hytrach nag amrywiadau naturiol yn yr hinsawdd, beth bynnag y dywed Donald Trump. Mae'r allyriadau hyn yn cynnwys carbon deuocsid, y prif nwy t? gwydr, sydd wedi cyrraedd lefel yn ein hatmosffer nas gwelodd y Ddaear ers mwy na 400,000 o flynyddoedd. Mae'r nwyon t? gwydr hyn fel blanced sy'n cadw gwres yr haul yn agos at wyneb y ddaear, ac mae hynny'n effeithio ar system hinsawdd y blaned.

 

Yma yn Sir Gaerfyrddin, mae angen i ni benderfynu pa addasiadau y mae angen i ni eu gwneud i ymateb i'r her o'r newid hinsawdd hwnnw.

 

Yn ddiweddar rydym wedi ymuno â sefydliadau eraill yn y rhan hon o'r byd i greu prosiect sy'n un pwysig yn fy marn i, ac iddo'r enw bachog: ‘Asesu Tywydd Garw: profiadau lleol a blaenoriaethau'r dyfodol’.  Caiff ei arwain gan Gyfoeth Naturiol Cymru a bydd yn cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Phowys – bron hanner tir Cymru felly.

 

Byddai'r canlyniadau'n cael eu defnyddio i roi gwybodaeth i'r cyhoedd, ymgysylltu â nhw a'u haddysgu, ac i wneud argymhellion ar gyfer polisïau trafnidiaeth, tai, llifogydd, yr amgylchedd, gwastraff a pholisïau eraill yma yn Sir Gaerfyrddin ac yn ein hawdurdodau cyfagos.

 

Byddwn yn adolygu effaith y tywydd garw a gafwyd yn ddiweddar ac yn y gorffennol, drwy ddefnyddio gwybodaeth a roddwyd i ni gan sefydliadau sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus megis yr heddlu, y frigâd dân, a'r gwasanaeth iechyd i enwi ond rhai.

 

Mae'n rhaid i ni ddod i delerau â'r ffaith y bydd llifogydd difrifol tebyg i'r rhai y gwelsom ym mis Hydref yn digwydd yn fwy aml ond mae hefyd angen i ni benderfynu sut i ymdopi â hyn. Mae cymunedau ledled y sir sy'n fwy tebygol o ddioddef llifogydd oherwydd llanw uchel neu afonydd yn gorlifo. Mae angen i'r rhain gael eu nodi ac mae angen i ni gyd wybod y ffordd orau i ofalu am lesiant y bobl sy'n byw yno. 

 

Dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd llawer o dystiolaeth yn cael ei chasglu gan unigolion a sefydliadau er mwyn i ni baratoi yn well ar gyfer y newidiadau yn yr hinsawdd yn y blynyddoedd i ddod.

 

Mae awdurdodau lleol ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae hyd yn oed y Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod awdurdodau lleol ledled y byd, fel Sir Gaerfyrddin, yn gyfrifol am fwy na 70% o'r mesurau lleihau newid yn yr hinsawdd. I arweinwyr lleol fel fi, mae gwell ansawdd aer, costau ynni is, gwell systemau trafnidiaeth a thwf gwyrdd yn gwneud synnwyr gwleidyddol ac economaidd.

 

Rydych eisoes wedi fy nghlywed yn sôn am bwysigrwydd gwella'r rheilffyrdd a'r cyfle i leihau nifer y cerbydau sy'n cludo nwyddau ar ein ffyrdd, ac ymhen ychydig funudau byddwch yn ein clywed yn trafod cynnig gan un o'n cynghorwyr, Aled Vaughan Owen.  I raddau mwy na'r rhan fwyaf ohonom efallai, mae Aled yn sylweddoli bod yn rhaid newid, ac yn ei rybudd o gynnig bydd yn gofyn i ni wneud Sir Gaerfyrddin yn awdurdod lleol di-garbon erbyn 2030. 

 

Rwyf wedi siarad llawer am y cynlluniau sydd gennym ar gyfer y dyfodol a'r newidiadau mae'n rhaid i ni eu gwneud. Ond dylwn sôn ychydig wrthych am y pethau rydym eisoes wedi eu rhoi ar waith.

 

Tua chwe mis yn ôl, cyflwynodd un o'n cynghorwyr ieuengaf, y Cynghorydd Liam Bowen, rybudd o gynnig i'r Cyngor hwn yn gofyn i ni ymuno â Chyngor Ceredigion drwy greu a chefnogi cynlluniau rhydd rhag plastig ar draws y sir.  Mae'r ymgyrchoedd rhydd rhag plastig hyn wedi deillio o ymgyrch ehangach "Arfordiroedd rhydd rhag plastig" Surfers Against Sewage yn erbyn plastig sy'n cael ei ddefnyddio unwaith yn unig. Rydym eisoes yn ymwybodol iawn o hyn diolch i'r gwaith gwych sydd wedi'i wneud gan David Attenborough. Rwy'n sôn fan hyn am y plastigau rydym yn eu defnyddio unwaith ac yna'n eu taflu i ffwrdd, megis cyllyll a ffyrc plastig, poteli diodydd a bocsys cludfwyd polystyren.  Gofynnodd i'r Cyngor yn gyntaf leihau deunyddiau plastig untro yn adeiladau a swyddfeydd y Cyngor gan gynnwys gwahardd gwellt a chwpanau plastig.  Hefyd gofynnodd i ni annog busnesau, sefydliadau, ysgolion a chymunedau lleol i roi'r gorau i ddefnyddio deunyddiau plastig untro a mynd ati i ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy.  Roedd am i ni hyrwyddo'r defnydd o ddeunyddiau cynaliadwy yn lle deunyddiau plastig untro ym mhob digwyddiad a gefnogir gan y Cyngor.  Ac yn olaf, gofynnwyd i ni gefnogi ymgyrchoedd glanhau traethau ac unrhyw ddigwyddiadau eraill i godi ymwybyddiaeth o faterion sy'n ymwneud â phlastigion sy'n cael eu defnyddio unwaith o dan y cynlluniau "rhydd rhag plastig" hynny.

 

Ni fydd yn syndod i chi iddo gael cefnogaeth unfrydol y Cyngor hwn

 

Mae gennym eisoes bolisi o gynnwys technolegau carbon isel a di-garbon yn rhan o brosiectau adeiladu mawr megis gosod y paneli ffotofoltäig yn ddiweddar yn Ysgol Bro Dinefwr ac Ysgol Carreg Hirfaen. Rydym hefyd wedi darparu'r adeilad ysgol cyntaf yng Nghymru wedi'i achredu'n llawn sy'n bodloni safonau Passivhaus, ym Mhorth Tywyn.

 

Mae'r Cyngor wedi darparu 28 o loriau sbwriel newydd; gan gostio tua £4 miliwn.  Mae'r cerbydau'n darparu gwasanaeth mwy effeithlon i drigolion a hefyd yn helpu i gynyddu cyfradd ailgylchu'r sir.   Mae ganddynt adrannau gwahanol er mwyn cadw gwastraff bwyd a bagiau glas a du ar wahân.  Mae ein holl gerbydau newydd yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf o ran allyriadau sy'n sicrhau mai fflyd cerbydau Sir Gaerfyrddin yw'r fflyd fwyaf modern a chydnaws â'r amgylchedd yng Nghymru, os nad y DU gyfan.

 

Mae'r Cyngor wedi datblygu llwybrau cerdded a beicio diogel drwy fuddsoddiad Llwybrau Diogel yn y Gymuned a Llwybrau Diogel i Ysgolion er mwyn annog mwy o deithio cynaliadwy. Cefnogir y gwaith hwnnw gan ein timau Diogelwch ar y Ffyrdd sy'n gweithio gydag ysgolion i hyrwyddo mentrau megis "bws cerdded" a'n rhaglen diogelwch ffyrdd eang.

 

Mae Adran yr Amgylchedd wedi newid llawer o'n goleuadau stryd i unedau LED mewn ymgais i leihau costau ynni, yn ogystal ag allyriadau carbon deuocsid.

 

Sir Gaerfyrddin oedd y Cyngor cyntaf yng Nghymru i gyflwyno cerbydau adrannol trydan tua saith mlynedd yn ôl. Yn ddiweddar rydym wedi cael cyllid ar gyfer gwefrwyr 'plygio i mewn' yn dilyn cynnydd yn nifer y cerbydau trydan sy'n cael eu gwerthu. Bydd y gwefrwyr cyflym hyn yn gwella ein darpariaeth bresennol yn Sir Gaerfyrddin ac yn cynnig gwasanaeth mwy hygyrch i fodurwyr. Byddwn yn ystyried y posibilrwydd o osod mwy o'r pwyntiau hyn ledled y Sir er mwyn ateb y galw cynyddol am geir trydan a cheir hybrid.

 

Y llynedd, enillodd y Cyngor wobr genedlaethol nodedig am brosiect cadwraeth bywyd gwyllt.  Enillodd y prosiect y wobr gyntaf yn y categori Rhagoriaeth mewn Cynllunio ar gyfer yr Amgylchedd Naturiol yng Ngwobrau 2018 y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, a gynhaliwyd yn Llundain.   Y dyddiau hyn mae cadwraeth yn rhan annatod o'r broses gynllunio, ac mae hynny ond yn iawn.

 

Mae cymaint yn rhagor y gallwn i ei ddweud wrthych a hyd yn oed wedyn, mae cymaint yn rhagor y gallwn ni ei wneud yn y dyfodol. Bydd hynny'n rhan o'r drafodaeth nesaf, ac rwy'n si?r y byddwch chi Coral yn aros gyda ni i wrando arni. Rydym yn hoffi meddwl bod Sir Gaerfyrddin wastad wedi bod yn flaenllaw o ran cydlyniant cymdeithasol a newid. Nid oes rheswm gan y weinyddiaeth hon dros gefnu ar hynny mewn unrhyw ffordd, yn hytrach bydd yn cefnogi hynny yn y dyfodol. Er gwybodaeth i'r holl Gynghorwyr, rwyf hefyd am ychwanegu fod Coral wedi anfon dolen i ddogfen ataf, sef deiseb i'w llofnodi, oherwydd maent yn mynd â'r ymgyrch hon i Lywodraeth Cymru yn ogystal ag awdurdodau lleol, i ofyn iddynt ymrwymo i'r mesurau argyfwng hinsawdd cenedlaethol yng Nghaerdydd, Mae angen 5,000 o lofnodion arnynt cyn y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando ar y ddeiseb neu'n ei derbyn. Ar hyn o bryd, mae tua 1,200 o lofnodion ond rwy'n anfon y ddolen at bob un o'r 74 o Gynghorwyr sydd yma Coral, a diolch am y ddolen gyda llaw, ac rwy'n gobeithio, yn ogystal â'r 74 o gynghorwyr ynghyd â swyddogion (felly dyna bron i 90 arall), y byddant yn anfon y ddolen i drigolion yn eu wardiau fel y gallwn gyrraedd y 5,000 mor gyflym â phosibl, er mwyn cyflwyno'r ddeiseb yn ddiogel i Lywodraeth Cymru.

 

Unwaith eto, diolch yn fawr Coral am ddod yma heddiw, am ofyn cwestiwn mor berthnasol a bod mor ddewr, ac am yr hyder rydych wedi'i ddangos yma ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr iawn Coral.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau