[NODER: Roedd y Cynghorwyr G.
Jones ac E. Schiavone wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn
gynharach.]
Daeth
Adroddiad Perfformiad a Chyflawniad Ysgolion ar gyfer 2017/18
gerbron y Pwyllgor. Gofynnwyd i'r Aelodau nodi cynnwys yr adroddiad
a'r materion allweddol oedd yn deillio o'r dadansoddiad o'r data
meintiol ac ansoddol mewn perthynas â pherfformiad yr
ysgolion yn ystod blwyddyn academaidd 2017/18. Rhoddodd Pennaeth y
Gwasanaethau Addysg drosolwg ar lafar o'r adroddiad ac yn benodol
tynnodd sylw'r aelodau at yr eitemau canlynol:
- Crynodeb o asesiadau athrawon a chanlyniadau arholiadau
disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnodau Allweddol 2, 3, 4 a
5.
- Deilliannau Gwelliannau Ysgol
- Datblygu Gwerthoedd a Sgiliau ar gyfer Dysgu Gydol
Oes
Codwyd
y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:
- Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am ddisgyblion sy'n
cael gwersi preifat ychwanegol y tu allan i'r ysgol ac a oedd hyn
yn cael ei fonitro, a chodwyd pryderon penodol ynghylch gwersi
ychwanegol sy'n cael eu derbyn oherwydd y diffyg o ran pwnc penodol
neu ysgol. Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch yr agenda amddifadedd
ac anghydraddoldeb mewn perthynas â'r mater hwn. Dywedodd
Pennaeth y Gwasanaethau Addysg y byddai'n anodd ceisio rheoli'r
maes hwn, ond, efallai y byddai'n bosibl ystyried ffordd o
fonitro'r mater.
- Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Cwnsela
mewn Ysgolion Sir Gaerfyrddin, a ddisgrifir yn yr adroddiad fel
gwasanaeth cwnsela annibynnol yn yr ysgolion sydd wedi'i
achredu’n broffesiynol, sydd ar gael i bobl ifanc o flwyddyn
6 i 18 oed. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod angen
sylweddol am y gwasanaeth hwn, sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd,
mewn ysgolion uwchradd fel arfer, dri diwrnod yr wythnos. Darperir
adroddiad dienw i benaethiaid er mwyn cael trosolwg o faterion a
phryderon.
- Codwyd pryderon o ran Dangosydd y Cyfnod Sylfaen a Maes
Deilliannau Dysgu (1.1.1 Tudalen 31), sy'n dangos ein bod yn
parhau'n is na chyfartaledd Cymru o ran ein perfformiad Dangosydd y
Cyfnod Sylfaen – sy'n dangos gostyngiad o 4.7%. Dywedodd
Pennaeth y Gwasanaethau Addysg nad oedd y meysydd dan sylw yn cael
eu hasesu yn yr un modd ledled y wlad, er bod gwaith yn cael ei
wneud i ddatrys y broblem hon.
- Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch eitem 1.2 yn yr
adroddiad (Presenoldeb - Perfformiad Ysgolion Cynradd) a mynegodd
yr aelodau bryderon ynghylch y perfformiad sy'n is na'r targed dros
y tair blynedd diwethaf. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg
fod dadansoddiad pellach o'r ffigurau yn dangos mai iechyd a
gwyliau (gyda chaniatâd a heb ganiatâd) oedd y prif
resymau dros absenoldeb. Dywedodd, os oedd gan y Gwasanaeth Lles
Addysg neu ysgol bryderon penodol ynghylch presenoldeb disgybl,
byddai camau angenrheidiol yn cael eu cymryd i weithio gyda
rhieni'r disgybl hwnnw.
- Roedd y cynnydd sylweddol yn nifer graddedigion y Rhaglen CPCP
(Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth)
wedi calonogi Aelodau, a gofynnwyd am ragor o wybodaeth am nifer y
graddedigion a oedd bellach mewn swydd neu'n aros i gael eu penodi.
Yn ogystal, mewn ymateb i ymholiad pellach ynghylch y cyfleoedd
sydd ar gael i fentora graddedigion y rhaglen, dywedodd Pennaeth y
Gwasanaethau Addysg fod cyfleoedd i unigolion gael eu mentora ond
bod costau yn gysylltiedig â hyn. Cydnabuwyd y byddai'n
briodol rhoi rhagor o ystyriaeth i'r maes hwn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad
Perfformiad a Chyflawniad Ysgolion 2017/18.