Agenda item

BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL - DIWEDDARIAD .

Cofnodion:

[Noder:  Roedd y Cynghorydd K. Lloyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru a'r datblygiadau cenedlaethol cysylltiedig gan gynnwys Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi 'Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol'. 

 

Yn ogystal â'r adroddiad, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad oedd adborth wedi dod i law hyd yn hyn gan Lywodraeth Cymru o ran cais am gyllid o'r Gronfa Drawsnewid Genedlaethol a sefydlwyd er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni 'Cymru Iachach'. Disgwylir i hynny ddod i law yn y man. Os byddai'n llwyddiannus, byddai cyfyngiad amser ar y cyllid, a byddai dod â'r mentrau i'r prif ffrwd ac arallgyfeirio'r adnoddau ar ôl i gyfnod y cyllid ddod i ben yn her allweddol.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd at ba gyfnod yr oedd y 'Gweithgareddau dros y 6 mis diwethaf' yn yr adroddiad yn cyfeirio.

 

Dywedwyd bod y 6 mis yn grynodeb o'r gweithgareddau a wnaed ar ddechrau'r flwyddyn ariannol.

 

·         Yn dilyn datganiad a wnaed gan y Comisiynydd a gododd bryderon ynghylch ansawdd y gwasanaeth eiriolaeth yng Nghymru, gofynnwyd beth oedd rôl y Bartneriaeth o ran datblygu'r gwasanaeth a rennir.

 

Dywedwyd bod hwn yn faes blaenoriaeth allweddol i'r Bartneriaeth ac y byddai datganiad sefyllfa'n cael ei gyhoeddi cyn hir mewn ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y Comisiynydd.  Ar ôl cael ei gyhoeddi byddai'r datganiad yn cael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor.  Mae Ceredigion yn arwain o ran y broses gaffael ac mae'r Bartneriaeth wedi bod yn gweithio ar y model gwasanaeth ar y cyd â darparwyr y gwasanaeth ers dros 18 mis.  Disgwylir i'r broses gaffael ddod i ben ym mis Medi 2019.  

 

·         Gofynnwyd pa ddull fyddai ar waith er mwyn monitro perfformiad darparwyr y gwasanaeth eiriolaeth.

 

Dywedwyd bod fframwaith perfformiad yn cael ei lunio ar y cyd a fyddai'n mesur perfformiad. Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud gyda'r darparwyr a'r gofalwyr ynghylch ymddangosiad y gwasanaeth. Yn ogystal, byddai data ansoddol a data meintiol yn cael eu casglu a'u dadansoddi er mwyn sicrhau bod darparwyr y gwasanaeth yn darparu'r gwasanaeth yn unol â'r contract.

 

·         Gofynnwyd pa waith sydd wedi'i wneud o ran unedau byw â chymorth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl. 

 

Dywedwyd bod cais yn cael ei gyflwyno am gyllid cyfalaf drwy'r Gronfa Gofal Integredig er mwyn gwella'r ddarpariaeth ledled y rhanbarth. Byddai'r cynigion yn cael eu llywio ar sail y ddarpariaeth bresennol a'r dyhead strategol ar gyfer llety byw â chymorth gwell er mwyn hyrwyddo annibyniaeth a gwella canlyniadau. Mae asesiad cynhwysfawr o anghenion wedi'i gynnal ar ran y Bartneriaeth, gan ystyried y gofynion deddfwriaethol a'r ddemograffeg.  Byddai cyllid cyfalaf yn galluogi buddsoddi mewn unedau presennol yn ogystal â datblygu unedau newydd.  Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi i'r Pwyllgor wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.

·         Cafodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda ei feirniadu'n ddiweddar gan yr Archwilydd Cyffredinol yn sgil ei wariant uchel ar staff asiantaeth.  Gofynnwyd beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn.

 

Dywedwyd bod y Bwrdd Iechyd eisoes wedi llwyddo i leihau costau'r staff asiantaeth, ond roedd denu pobl i'r sector yn heriol. Mae strategaeth gweithlu rhanbarthol yn ceisio mynd i'r afael â'r broblem hon. Dywedwyd hefyd y byddai'r newid i'r model gwasanaeth yn lleihau'r galw mewn rhai meysydd gwasanaeth.

 

·         Gofynnwyd pa sicrwydd y gellid ei roi o ran 'gofalu am weithlu' gan fod yna drosiant uchel o staff sy'n gweithio i asiantaethau neu gyrff allanol ar hyn o bryd sydd ar yr isafswm cyflog gan amlaf.

 

Dywedwyd bod y gwasanaethau comisiynu'n rhoi'r sicrwydd gan y nodir isafswm o'r cyflog byw yn fframwaith y gwasanaeth a byddai hyn yn cael ei fonitro.  Mae dull ar waith er mwyn monitro cwynion, proffil y gweithlu ac arolygon staff.  Dywedwyd bod y Bartneriaeth yn comisiynu Fforwm Arloesi ar hyn o bryd, sy'n cynnwys sefydliadau statudol, annibynnol a gwirfoddol. Byddai'r fforwm ar waith ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a byddai'n trafod materion sy'n ymwneud â'r gweithlu. Byddai gweithwyr a defnyddwyr gwasanaeth hefyd yn cael eu cynrychioli yn y fforwm.

 

·         Dywedwyd bod angen sicrhau bod tai priodol ar gael i ddenu pobl sengl yn ogystal â theuluoedd i weithio yn y sir.  Gellid gwneud hyn drwy gael y Bartneriaeth i weithio gyda datblygwyr ac Adran Gynllunio'r Awdurdod.

 

Dywedwyd bod y Bartneriaeth yn ymwybodol bod hyn yn her a byddai'n penodi cynrychiolydd tai ar y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol yn unol â gofynion y rheoliadau diwygiedig.

 

·         Gofynnwyd cwestiwn ynghylch sut y mae'r Bartneriaeth yn monitro ansawdd a darpariaeth y gofal a ddarperir gan Wasanaeth Cartref ac Ysbyty'r Groes Goch Brydeinig.

 

Dywedwyd bod monitro'n cael ei wneud mewn modd tebyg i ofal cartref. Mae dull cydlynol ynghyd â fframwaith sicrhau ansawdd y cytunwyd arno, a phrotocol ar gyfer uwchgyfeirio pryderon.

 

·         Codwyd pryderon gan nad oedd canlyniadau rhyddhau o'r ysbyty fel y dylent fod bob amser.  Nid oes pecynnau gofal ar waith bob amser cyn rhyddhau.

 

Rhoddwyd gwybod bod y ffigurau yn yr adroddiad yn dangos effaith gadarnhaol ond nad oedd y broblem wedi'i datrys eto.  Nod y model gofal rhagweithiol yw atal derbyniadau ac arosiadau hirdymor yn yr ysbyty.  Bydd fframwaith canlyniadau cyffredinol yn cael ei ddatblygu er mwyn galluogi effaith y gwaith buddsoddi a thrawsnewid ledled y rhanbarth mewn perthynas â materion o'r fath.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol am gyflwyno adroddiad eglur a llawn gwybodaeth i'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD 

 

4.1 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

4.2 bod y Pwyllgor yn argymell bod yr Adran Gynllunio'n cydweithio â'r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol i ystyried gofynion tai staff y Bwrdd Iechyd yn y CDLl. 

4.3 bod y Groes Goch yn cael ei wahodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y gwaith y mae'n ei wneud drwy'r Gwasanaeth Cartref a'r Ysbyty.

4.4 bod Julia Wilkinson, Rheolwr yr Ardal Leol, yn cael ei gwahodd i gyflwyno 'Mae Sir Gaerfyrddin yn Garedig' i'r Pwyllgor.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau