Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19.

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2018, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £889k o ran y Gyllideb Refeniw ac y byddai yna +£2 o amrywiant net yn erbyn y Gyllideb Gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2018/19.  Bydd yr amrywiant yn cael ei gynnwys yng nghyllidebau'r blynyddoedd sydd i ddod.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Codwyd pryderon ynghylch yr amrywiant o -£140k y manylir arno yn Atodiad B - Pobl H?n - Gofal Cartref yr ALl. Mae'r atodiad yn nodi bod yr arbedion yn sgil swyddi gwag a chodwyd pryderon ynghylch y pwysau y mae hynny'n ei roi ar y staff presennol.

 

Dywedwyd bod hyn wedi digwydd oherwydd oedi ac effaith y cyllid grantiau ar recriwtio. Mae recriwtio'n cael ei wneud ar gyfer gofal cartref mewnol. Fodd bynnag, mae recriwtio staff arbenigol yn broblem ond dylai'r cynllun datblygu'r gweithlu fynd i'r afael â hyn. 

 

·         Gofynnwyd pam mae amrywiant a ragwelir o £889k yn Atodiad C ar gyfer mis Hydref 2018 er mai'r ffigwr hwn oedd £746 ar gyfer mis Awst 2018.

 

Dywedwyd bod hyn oherwydd nad yw 'hysbysiadau yn ystod y flwyddyn' o gyllid wedi'u cynnwys yn y ffigurau eto.

 

·         Gofynnwyd pa system sydd ar waith i wneud llwybr gyrfa ym maes iechyd yn fwy deniadol i bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol.

 

Dywedwyd mai un o amcanion cynllun datblygu'r gweithlu yw gwneud y sector yn fwy deniadol i bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol. Awgrymwyd y byddai Rebecca Jones yn gallu adrodd wrth y Pwyllgor am y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Bartneriaeth.

 

·         Gofynnwyd beth oedd wedi achosi'r amrywiant rhwng y symiau a ragwelwyd ar gyfer mis Hydref 2018 o £120k a £21k ar gyfer mis Awst 2018 ym maes Iechyd Meddwl - Tai Gr?p/Llety Byw â Chymorth (Atodiad B).

 

Dywedwyd bod hyn wedi digwydd oherwydd amrywiadau o ran anghenion y gr?p cleientiaid sy'n anodd eu rhagweld. Un maes sydd wedi cyfrannu at hyn yw byw â chymorth.  Cytunodd Cyfrifydd y Gr?p i drafod y mater hwn â Phennaeth y Gwasanaeth a fyddai'n dwyn y pryderon at sylw'r Pwyllgor.

 

·         Gofynnwyd am y swyddi gwag parhaus (Atodiad D) yn y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol a sut yr ymdrinnir â hyn.  Dywedwyd bod angen dull mwy syml ar y gwasanaeth. Er enghraifft, os yw claf yn yr ysbyty am 2 wythnos neu fwy bydd y pecyn therapi galwedigaethol yn cael ei golli a bydd angen gwneud cais amdano eto.  Gofynnwyd bod Pennaeth y Gwasanaeth yn annerch y Pwyllgor ynghylch y mater hwn.

 

Cydnabuwyd bod problemau o hyd ond roedd gwaith yn cael ei wneud i fynd i'r afael â hwy. Cytunodd Cyfrifydd y Gr?p i drafod y mater hwn â Phennaeth y Gwasanaeth a fyddai'n sôn am y pryderon yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

·         Codwyd pryderon bod Blas Myrddin wedi cau yn enwedig gan fod y cyfleuster yn cael ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.  Ar ôl hynny roedd gwasanaethau arlwyo wedi dod i ben ar safleoedd Cartref Cynnes a Th? Dyffryn.  Dywedodd y Cadeirydd y dylai'r Pwyllgor fod wedi cael manylion ynghylch hyn cyn i'r wybodaeth gael ei chyhoeddi yn y wasg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau