Agenda item

DATGANIAD Y CADEIRYDD

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyhoeddiad diweddar gan Brifysgol Abertawe ynghylch gwahardd aelodau staff. Dywedodd y Cadeirydd fod y gwaharddiadau yn fater i Brifysgol Abertawe yn unig, fodd bynnag, byddai'n ddoeth i'r Cyd-bwyllgor ddeall ac ymateb i unrhyw bryderon posibl ynghylch y Fargen Ddinesig.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau, ar ôl iddo gael gwybod am y gwaharddiadau, cysylltodd â Chofrestrydd y Brifysgol ar unwaith. Rhoddodd y Cofrestrydd sicrwydd iddo, er bod y gwaharddiadau yn gysylltiedig â'r Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant, nid oeddent yn gysylltiedig ag unrhyw brosiectau eraill y Fargen Ddinesig. Dywedodd y Cadeirydd fod Prifysgol Abertawe wedi ailddatgan ymrwymiad cadarn i'r Fargen Ddinesig. Awgrymodd, fodd bynnag, ynghyd â'r sicrwydd hwn, y byddai'n fuddiol i'r Cyd-bwyllgor gynnal adolygiad mewnol ynghylch diwydrwydd dyladwy y Fargen Ddinesig. Awgrymodd y gellid cynnal yr adolygiad ochr yn ochr â'r adolygiad annibynnol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a hynny o dan ei gadeiryddiaeth, a Chyngor Sir Penfro yn cymryd cyfrifoldeb am y gwaith archwilio. 

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin wrth y Cyd-bwyllgor fod Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo Achos Busnes Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli mewn egwyddor a barnwyd ei fod yn barod i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, cyn cymryd unrhyw gamau pellach, cyfarwyddwyd bod angen cael rhagor o sicrwydd gan Swyddogion, gan gynnwys cyngor cyfreithiol allanol arbenigol, bod yr holl brosesau cyfreithiol priodol wedi cael eu dilyn a bod angen adrodd yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol yn unol â hynny. Dywedodd yr Arweinydd wrth Aelodau fod y broses hon ar waith a byddai'r Cyd-bwyllgor yn cael adroddiad ynghylch y canlyniadau. Gofynnwyd hefyd i'r swyddogion ystyried dulliau darparu eraill er mwyn sicrhau y gellir cwblhau Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli. Roedd yr Awdurdod yn gwbl ymroddedig i'r prosiect ac yn hyderus y byddai modd cael cyllid gan y sector preifat. Roedd yr Awdurdod yn parhau i weithio gyda'r ddwy brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i symud y prosiect yn ei flaen, a gofynnodd i'r Cyd-bwyllgor gefnogi a pharhau yn ymroddedig i gyflawni'r holl brosiectau sy'n rhan o'r Fargen Ddinesig.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli, a chadarnhaodd ei fod yn adlewyrchu barn y Cyd-bwyllgor na fyddai modd i’r prosiect barhau hyd nes i gynnig diwygiedig gael ei gyflwyno i’r Cyd-bwyllgor er mwyn ei ystyried.  Ailbwysleisiodd y byddai'n synhwyrol ac yn ddoeth yn ei farn ef i gynnal adolygiad ynghylch diwydrwydd dyladwy'r holl brosiectau, er mwyn sicrhau bod y Fargen Ddinesig yn parhau ar y trywydd cywir a hefyd i sicrhau bod yr holl gynlluniau yn gadarn. Byddai'r adolygiad yn cynnwys rheoli rhaglenni, statws prosiect, gwelededd a pherchnogaeth, capasiti, rolau, cyfrifoldebau a swyddogaethau ac yn galluogi'r Cyd-bwyllgor i barhau yn hyderus. Byddai canfyddiadau unrhyw adolygiad gan y Cyd-bwyllgor yn cyd-fynd â'r Adolygiad Annibynnol ac yn cael eu cynnwys yn y trefniadau cydweithio. Ni allai’r prosiect gymryd camau pellach hyd nes y bydd Sir Gaerfyrddin yn cyflwyno cynnig diwygiedig i’r Cyd-bwyllgor ac yn cael cefnogaeth ar gyfer y cynnig newydd a fyddai’n cynnwys darparu  sicrwydd pellach i’r Cyd-bwyllgor a manylion o'r model cyflawni diwygiedig. Gofynnodd i Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin anfon yr holl gyngor a dogfennaeth ynghylch yr adolygiad a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin pan fyddant ar gael, gan gynnwys y dulliau darparu diwygiedig.