Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2019/20 TAN 2021/22

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2019/20 i 2021/22 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod ar 19 Tachwedd 2018.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/2020, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2020/2021 a 2021/2022. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 9 Hydref 2018.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol er bod y setliad dros dro a gyhoeddwyd yn cynrychioli gostyngiad o 0.3% ar gyfartaledd ledled Cymru ar setliad 18/19, mae'r effaith ar Sir Gaerfyrddin, ar ôl cymryd i ystyriaeth ffactorau megis talu cost y dyfarniad cyflog athrawon a chymhwysedd o ran prydau ysgol am ddim, yn ostyngiad o 0.5%, sy'n cyfateb i £1.873m.

 

Gan grynhoi, byddai'r cynigion ar gyfer y gyllideb yn darparu'r £28 miliwn o arbedion a nodwyd dros gyfnod y cynllun. At hynny, roedd cynigion y gyllideb yn tybio cynnydd yn y Dreth Gyngor o 4.89% ar gyfer 2019/20.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol hefyd yn dilyn cyhoeddi cynigion cyllideb y Cyngor ar gyfer ymgynghori, fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £13m yn ychwanegol i ychwanegu at y Grant Cynnal Refeniw Cymru ar gyfer 2019/20. Er bod manylion penodol am y cyhoeddiad eto i ddod i law, amcangyfrifwyd y byddai effaith hyn ar Sir Gaerfyrddin yn golygu gostyngiad yn y diffyg ariannol a ragwelwyd o 0.5% i 0.3% dros gyfnod setliad 18/19. Yn ogystal, roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi grant ychwanegol o £7.5m ledled Cymru i ariannu dyfarniad cyflog yr athrawon yn rhannol; Fodd bynnag, yr oedd hyn ar gyfer un flwyddyn yn unig.

 

Ystyriodd y Pwyllgor felly'r wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·       Atodiad A(i) – Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·       Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaeth Cynllunio (dim un ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·       Atodiad B – Y rhannu o'r gyllideb sy'n ymwneud â meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·       Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at arbedion effeithlonrwydd y Cyngor ac at y sefyllfa bresennol lle mae ysgolion cynradd yn gyfrifol am ariannu cost gwersi nofio, a oedd yn cael ei dalu yn y gorffennol gan y Gwasanaethau Hamdden. Roedd ysgolion yn wynebu gostyngiadau yn eu cyllidebau, ac roedd y gost o ddarparu gwersi yn achos pryder i rai, awgrymwyd bod y Bwrdd Gweithredol yn rhoi ystyriaeth i'r posibilrwydd o'r Cyngor yn ariannu'r gost yn uniongyrchol a amcangyfrifwyd yn £150k. Petai hynny'n bosibl, byddai'n helpu gwella lefelau ffitrwydd plant, yn gwella eu diogelwch ger y d?r wrth eu dysgu i nofio a rhoi sylw i amcanion y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Dywedodd y Pennaeth Hamdden o ganlyniad i'r uchod, fod rhai ysgolion wedi lleihau nifer y disgyblion sy'n derbyn gwersi nofio, ac yn bennaf ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 2. Aeth ati hefyd i atgoffa'r Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu gwersi nofio am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol ar gyfer plant o dan 16 mlwydd oed ac roedd yn adolygu'r ddarpariaeth honno ar hyn o bryd.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol y Pwyllgor nad oedd y cynigion presennol yn cynnig cyllideb gytbwys, ac os oedd y cynnig yn cael ei gymeradwyo, byddai'r gost ychwanegol a amcangyfrifwyd yn £150k naill ai yn gorfod dod o ostyngiadau mewn meysydd gwasanaeth eraill neu drwy gynyddu'r dreth gyngor.

 

·       Dywedodd y Pennaeth Hamdden, mewn ymateb i gais am eglurhad ynghylch y diffyg yn y costau gweithredu ar gyfer Canolfan Hamdden Sanclêr a ragwelwyd yn £190k yn 2019/20, fod elfen sylweddol o hyn yn ymwneud â chostau nad oedd modd eu rheoli megis costau corfforaethol, ad-daliadau canolog, ad-dalu benthyciadau cyfalaf i ariannu gwelliannau i'r ganolfan ynghyd â chyfraddau o £36k.  Roedd yr adran, yn ymwybodol iawn o'r angen i gynhyrchu incwm/lleihau costau, yn datblygu arfarniadau ynghylch opsiynau ar gyfer y ganolfan gyda golwg ar gynyddu refeniw/cyfraddau cyfranogi a oedd yn cynnwys trafodaethau â'r Cyngor Tref a Chymuned a chlybiau/sefydliadau chwaraeon amrywiol. Fodd bynnag, dylid cydnabod hefyd bod darparu cyfleusterau hamdden mewn ardaloedd gwledig bob amser yn fwy heriol nag ar gyfer ardaloedd trefol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

5.1

Bod yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2019/20 – 2021/22 yn cael ei dderbyn.

5.2

Bod y Crynhoad Taliadau ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai, fel y manylir yn Atodiad C i'r adroddiad, yn cael ei dderbyn.

5.3

Bod y Bwrdd Gweithredol yn rhoi ystyriaeth i ariannu'r gost amcangyfrifedig o £150k i ysgolion cynradd o ddarparu gwersi nofio i ysgolion.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau