Agenda item

CANLLAW DYLUNIO PRIFFYRDD SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Ganllaw Dylunio Priffyrdd newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin i ddisodli'r canllaw presennol a fabwysiadwyd ym 1997. Nodwyd bod y canllaw newydd yn cynnwys nifer o newidiadau polisi lleol a chenedlaethol, templedi dylunio newydd, fel y nodir yn y Llawlyfr ar gyfer Strydoedd a'r Llawlyfr ar gyfer Strydoedd 2. Roedd yn nodi disgwyliadau'r Awdurdod ar gyfer dylunio seilwaith priffyrdd o ran datblygiadau yn y Sir a'r bwriad oedd darparu canllawiau i ddatblygwyr, dylunwyr a gweithwyr proffesiynol eraill wrth baratoi seilwaith trafnidiaeth ac ymyriadau cysylltiedig sy'n ymwneud ag amrywiaeth eang o ddatblygiadau yn Sir Gaerfyrddin. Roedd hefyd wedi'i gynllunio i gefnogi datblygiad drwy sicrhau bod y broses gynllunio mor esmwyth, tryloyw, cyson a chywir â phosibl drwy ddarparu manylion ynghylch gofynion y Cyngor o ran pob agwedd ar effeithiau posibl y priffyrdd, dyluniad y priffyrdd a chymhwyso canllawiau polisi lleol a chenedlaethol priodol.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad.

 

·        Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio y byddai'r Canllaw yn cael ei roi ar waith ar unwaith ar ôl ei fabwysiadu gan y Cyngor. Ar ôl hynny, y bwriad oedd i'w ddatblygu yn Ganllawiau Cynllunio Atodol gan ddechrau gydag ymgynghoriad yn ystod Gwanwyn 2019 a'i fabwysiadu yn ystod Hydref 2019, yna ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig ar gyfer 2018-2033.

·        Fel rhan o'r drafodaeth ar y canllaw cafwyd sawl cyfeiriad y tu hwnt i gylch gwaith y Pwyllgor ac yn hynny o beth dywedwyd wrth y Pwyllgor:

Ø  Mewn perthynas â ffyrdd nad ydynt wedi'u mabwysiadu o fewn y Sir, nid oedd gofyniad deddfwriaethol ar ddatblygwyr i adeiladu ffyrdd i safon fabwysiadu nac i ofyn i'r Awdurdod Priffyrdd Lleol eu mabwysiadu. Er y derbyniwyd bod priffyrdd heb eu mabwysiadu yn achosi anawsterau i berchnogion tai, roedd hwn yn fater sifil iddynt hwy a'u cyfreithwyr i fynd i'r afael ag ef. Nodwyd hefyd bod y mater yn dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a oedd wedi cytuno i ysgrifennu at Aelodau'r Cynulliad lleol i ofyn i Lywodraeth Cymru i edrych ar y mater o ffyrdd heb eu mabwysiadu ac i gyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn perchenogion cartrefi;

Ø  O ran y ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus, a'r cyhoeddiad diweddar gan ddarparwr bws i dynnu'n ôl o gontract i ddarparu gwasanaethau yn y Sir, cadarnhawyd bod yr Awdurdod wedi gwahodd tendrau ar gyfer y gwasanaeth, ac roedd yr Awdurdod yn aros am ymateb. Nodwyd er ei bod yn anodd darparu gwasanaethau bysiau mewn ardaloedd gwledig am nifer o resymau e.e. amser teithio, amlder, perchnogaeth car a lefel yr adnoddau sydd ar gael i roi cymhorthdal i fysiau mewn ardaloedd gwledig, mae'r awdurdod yn rhagweithiol yn ei ymagwedd at ddarparu llwybrau bysiau ac yn cyflwyno ceisiadau am grantiau lle bynnag y bo'n bosibl, ar gyfer prosiect Bwc-a-Bus er enghraifft;

Ø  Mewn perthynas â darparu pwyntiau gwefru i gerbydau trydan, roedd cais wedi'i gyflwyno ar y cyd â Phartneriaeth Ynni Sir Gâr i gyflogi cydgysylltydd cerbydau trydan i baratoi strategaeth ar gyfer eu darparu ledled y Sir, mewn cysylltiad â phartneriaid y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Roedd ar  ffurf drafft ar hyn o bryd, a byddai cael ei chyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd. Cafwyd cyllid yn ddiweddar ar gyfer eu darparu yng Nghaerfyrddin a Chastellnewydd Emlyn a chyn hir yn Llanymddyfri. Roedd cais am grant pellach hefyd yn cael ei baratoi i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru i ariannu'r gost o'u gosod ym meysydd parcio'r cyngor.

 

Dogfennau ategol: