Agenda item

CANLLAW DYLUNIO PRIFFYRDD SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn atodiad i'r Canllaw Dylunio Priffyrdd diwygiedig.  Roedd y canllaw wedi'i lunio gyda'r nod o ddarparu arweiniad i ddatblygwyr, dylunwyr a gweithwyr proffesiynol eraill wrth baratoi seilwaith trafnidiaeth ac ymyriadau cysylltiedig mewn perthynas ag ystod eang o ddatblygiadau yn Sir Gaerfyrddin. 

 

Byddai'r Canllaw Dylunio Priffyrdd yn cymryd lle'r Canllaw Dylunio Priffyrdd presennol a grëwyd ym 1997.  Nododd y Pwyllgor mai prif nod y Canllaw Dylunio Priffyrdd oedd annog datblygwyr i greu dyluniadau Priffyrdd a fyddai'n cynnwys cymeriad nodedig yn yr amgylchedd adeiledig a'r dirwedd, wrth ddefnyddio safonau dylunio a fyddai'n sicrhau darpariaeth ddiogel a chynaliadwy ar gyfer yr holl ddefnyddwyr.

 

Yn ogystal, mae'r Canllaw yn pennu disgwyliadau'r Awdurdod o ran dyluniad seilwaith priffyrdd ar gyfer datblygiadau yn y Sir fel a ganlyn:

 

1.    Nodau ac Amcanion y Canllaw Dylunio

2.    Y Broses Gynllunio

3.    Y Cyd-destun o ran Polisi

4.    Y Broses Ddylunio

5.    Safonau Dylunio

6.    Adeiladu, Cynnal a Chadw a Chytundebau Statudol

 

Byddai'r Canllaw Dylunio Priffyrdd yn cael ei ddefnyddio fel dogfen bolisi allweddol i'r swyddogion Cydgysylltu Cynllunio Priffyrdd a'r Awdurdod Cynllunio Lleol gyfeirio ati wrth asesu ceisiadau cynllunio a gwneud penderfyniadau yn eu cylch.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

Cyfeiriwyd at dudalen 47 y Canllaw Dylunio Priffyrdd. Mewn perthynas â'r ffyrdd a fabwysiadwyd, gofynnwyd am ragor o eglurdeb ynghylch y cytundeb adran 278.  Dywedodd y Rheolwr Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd nad oedd rhai o'r ffyrdd ar ddatblygiadau tai newydd yn cael eu mabwysiadu gan yr Awdurdod Lleol oherwydd na chydymffurfir â'r safonau gofynnol ar gyfer mabwysiadu a bennir yn y Canllaw Dylunio Priffyrdd.  Yn ogystal, ar hyn o bryd nid oedd pwerau cyfreithiol ar waith i'w gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr godi safonau'r ffyrdd i gyrraedd y safon ofynnol.

 

Hefyd, dywedwyd bod y ddarpariaeth o ran parcio ar ddatblygiadau tai newydd yn annigonol yn aml.  Dywedodd y Rheolwr Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod canllawiau yn Safonau Parcio Cymru 2014 gan Gymdeithas Syrfewyr Sirol (CSS) Cymru yn ceisio lleihau tarfu ac yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy drwy beidio â darparu gormod.  Efallai y bydd mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol diwygiedig yn mynd i'r afael â'r problemau hyn yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i bryder a godwyd ynghylch y gwaith cynnal a chadw parhaus ar briffyrdd nas mabwysiadwyd ac a allai'r Cyngor wneud unrhyw beth i wella amserlen y datblygwyr, dywedodd y Rheolwr Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd nad oedd y Cyngor yn gallu cael dylanwad ar y datblygwyr.  Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd y byddai perchennog yr eiddo yn gallu gofyn i'w gyfreithiwr am ragor o fanylion ar ôl proses drosglwyddo.

 

Yn ogystal, nododd y Pwyllgor fod y Canllaw Dylunio Priffyrdd yn cydnabod bod pwysigrwydd cynnal a chadw'r priffyrdd yn elfen allweddol ar sicrhau diogelwch a llesiant pobl Sir Gaerfyrddin a bod priffyrdd sydd mewn cyflwr gwael yn gallu lleihau ansawdd a hwylustod teithio bob dydd.  Felly, wrth ddylunio datblygiadau dylid rhagdybio y byddent yn cael eu mabwysiadu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, ac felly dylai'r holl strydoedd gydymffurfio â'r gofynion a'r manylebau a bennir yn y Canllaw Dylunio Priffyrdd.

 

Yn ogystal, o ran y strydoedd hynny lle nad oes bwriad i'w cynnig i gael eu mabwysiadu, dylent barhau i gael eu dylunio yn unol â safon fabwysiadwy er mwyn diogelu gwaith cynnal a chadw effeithlon ar briffyrdd y datblygiad yn y dyfodol. 

 

Pwysleisiodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd nad oes gan yr Awdurdod bwerau cyfreithiol i'w gwneud yn ofynnol i ddatblygwr fabwysiadu priffordd er mwyn sicrhau bod gwaith stryd yn cael ei wneud yn unol â safon dderbyniol a mabwysiadwy ac y dylai preswylwyr gyfeirio'r mater hwn at eu cyfreithiwr trosglwyddo.

 


 

Ar ôl cael gwybod bod elfennau o Gytundeb Adran 38 y Ddeddf Priffyrdd yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru, cynigiodd y Pwyllgor y dylid ysgrifennu at Aelod Cynulliad bob plaid i ofyn iddynt, fel rhan o adolygiad Cytundeb Adran 38, ei gwneud yn ofynnol o dan y gyfraith i ddatblygwyr sicrhau bod strydoedd yn cael eu datblygu yn unol â'r safon ofynnol ar gyfer cael eu mabwysiadu, a hynny er mwyn diogelu perchnogion tai ar ddatblygiadau tai newydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

5.1

derbyn Canllaw Dylunio Priffyrdd Sir Gaerfyrddin;

5.2

ysgrifennu llythyr at yr Aelodau Cynulliad uchod gan ofyn iddynt, fel rhan o adolygiad Cytundeb Adran 38, ei gwneud yn ofynnol o dan y gyfraith i ddatblygwyr sicrhau bod strydoedd yn cael eu datblygu yn unol â safon fabwysiadwy.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau