Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2019/20 - 2021/22 (Atodiad A) a oedd wedi'i chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 19 Tachwedd 2018. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/2020, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2020/2021 a 2021/2022. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 9 Hydref 2018.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol er bod y setliad dros dro a gyhoeddwyd yn cynrychioli gostyngiad o 0.3% ar gyfartaledd ledled Cymru ar setliad 18/19, mae'r effaith ar Sir Gaerfyrddin, ar ôl ystyried ffactorau megis talu cost y dyfarniad cyflog athrawon a chymhwysedd o ran prydau ysgol am ddim, yn ostyngiad o 0.5%, sy'n cyfateb i £1.873m.
Gan grynhoi, byddai'r cynigion ar gyfer y gyllideb yn darparu'r £28 o arbedion a nodwyd dros gyfnod y cynllun. At hynny, roedd cynigion y gyllideb yn tybio cynnydd yn y Dreth Gyngor o 4.89% ar gyfer 2019/20.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol hefyd yn dilyn cyhoeddi cynigion cyllideb y Cyngor ar gyfer ymgynghori, fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £13m yn ychwanegol i ychwanegu at y Grant Cynnal Refeniw Cymru ar gyfer 2019/20. Er bod manylion penodol am y cyhoeddiad eto i ddod i law, amcangyfrifwyd y byddai effaith hyn ar Sir Gaerfyrddin yn golygu gostyngiad yn y cyllid i 0.2% dros gyfnod setliad 18/19. Yn ogystal, roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi grant ychwanegol o £7.5m ledled Cymru i ariannu dyfarniad cyflog yr athrawon yn rhannol;
Nododd y Pwyllgor mai peidio â chyrraedd targedau o ran incwm meysydd parcio a gostyngiad mewn incwm yn sgil ceisiadau cynllunio oedd yn gyfrifol yn bennaf am orwariant Adran yr Amgylchedd a'r amcanestyniad presennol ynghylch y Canlyniadau Refeniw ar gyfer 2018/19.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:
· Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd;
· Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer Gwasanaethau'r Amgylchedd;
· Atodiad B – Y rhannau o'r gyllideb sy'n ymwneud â Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd, yr Amgylchedd a Diogelwch Cymunedol;
· Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-
·
Cyfeiriwyd at arbedion
effeithlonrwydd y Cyngor mewn perthynas â'r Priffyrdd -
Ysgubo Ffyrdd Gwledig yn Atodiad A(i).
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr effaith o ran diogelwch yn sgil
peidio â gwneud y gwaith a gynllunnir i ysgubo ffyrdd
gwledig, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd er mai'r
cynnig oedd peidio â gwneud gwaith ysgubo ad hoc a’r
gwaith a gynllunnir, y byddai'r adran yn ymateb i argyfyngau yn
ôl y galw, o bosibl drwy gyflogi contractwyr. Y bwriad oedd y byddai arbedion yn cael eu
cyflawni yn sgil lleihau'r gwasanaeth yn rhannol, er enghraifft
gellir cysylltu atodiadau ysgubo mecanyddol â JCBs am gost
gymharol isel wrth drwsio rhannau o’r ffordd.
Er y cydnabyddir y gostyngiadau yn y cyllidebau, mynegwyd pryder mawr ynghylch yr effaith o ran diogelwch petai'r cyllidebau'n parhau i gael eu lleihau dros y blynyddoedd nesaf.
·
O ran y cynnig mewn
perthynas â chodi tâl am ddarpariaeth cludiant ar gyfer
addysg ôl-16 neu'r posibilrwydd o'i thynnu'n
ôl. Dywedwyd er bod hyn wedi cael
ei ohirio am flwyddyn er mwyn i'r awdurdod fodloni ei ymrwymiadau
statudol o ran newidiadau, fod nifer o aelodau yn gwrthwynebu'r
cynnig hwn.
PENDERFYNWYD:
4.1 |
Bod yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth
Cyllideb Refeniw 2019/20 – 2021/22 yn cael ei
dderbyn; |
4.2 |
Bod y Crynhoad Taliadau ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, fel y manylir yn Atodiad C i'r adroddiad, yn cael ei dderbyn. |
Dogfennau ategol: