Agenda item

Y DIWEDDARAF AM BROSIECTAU'R FARGEN DDINESIG

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad diweddaru ynghylch y prosiectau lleol a rhanbarthol canlynol a ariennir gan y Fargen Ddinesig:

 

·         Seilwaith Digidol;

·         Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau;

·         Sgiliau a Thalent;

·         Yr Egin;

·         Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli;

·         Campws Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli;

·         Cartrefi yn Orsafoedd P?er;

·         Canolfan Ragoriaeth Gwasanaethau y Genhedlaeth Nesaf (CENGS);

·         Ffatri'r Dyfodol;

·         Gwyddoniaeth Dur;

·         Ardal Forol Doc Penfro.

 

Anogwyd Arweinwyr y Prosiect i roi gwybod am unrhyw heriau o ran cynnydd eu prosiectau er mwyn i'r Cyd-bwyllgor allu cynorthwyo i ddatrys y rhain os oes modd. I gefnogi hyn, awgrymwyd y dylid cyflwyno cofnod materion a chofrestrau risg ar gyfer prosiectau unigol fel eitemau sefydlog ar yr agenda ar gyfer cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor yn y dyfodol. Gellid cyfuno'r cofrestrau risg prosiectau unigol yng nghofrestr risg y Cyd-bwyllgor.

 

O ran y prosiect Cartrefi yn Orsafoedd P?er, awgrymwyd y gallai cap ar godiadau rhent a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru effeithio ar un o ffrydiau refeniw y prosiect. Ar ôl cael gwybod efallai y bydd y cap ar rent yn bolisi interim, awgrymodd y Cadeirydd y byddai'n briodol gofyn am eglurhad gan Weinidogion Cymru.

 

Ar ôl cael gwybod na fyddai Is-ganghellor newydd Prifysgol Abertawe yn dechrau tan fis Gorffennaf 2019, awgrymwyd y dylid anfon llythyr at yr Is-ganghellor dros dro yn gofyn am sicrwydd bod Prifysgol Abertawe yn dal wedi ymrwymo i'r Fargen Ddinesig a phob prosiect unigol y Fargen Ddinesig.

 

O ran prosiect Ardal Forol Doc Penfro, dywedodd Awdurdod Arweiniol y Prosiect ei fod yn aros i gael adborth gan Lywodraeth Cymru ynghylch gwybodaeth atodol o ran y fersiwn ddrafft o'r achos busnes llawn. Pwysleisiodd y Prif Weithredwr Arweiniol ei bod yn hanfodol o ran hyfywedd y prosiect i gael sicrwydd ynghylch trefniadau ariannu gan Lywodraeth Cymru erbyn canol mis Mawrth.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi pryder ynghylch oedi o ran derbyn cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau'r Fargen Ddinesig a oedd wedi achosi oedi o ran cyflawni'r prosiect ac wedi gwneud pob partner yn agored i elfen o risg ariannol. Dywedodd y Swyddog Atebol fod oedi o'r fath yn rhwystredig, ond ei fod wedi codi'r mater hwn yn ddiweddar mewn cyfarfod â swyddogion a'r gobaith oedd y byddid yn mynd i'r afael â'r oedi parhaus.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o brosiect Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli, dywedodd Swyddog A.151 y Pwyllgor fod y datganiad yn y wasg yn anghywir ac y gofynnwyd i'r gohebydd geisio cael eglurhad gan Swyddfa Archwilio Cymru ond ei fod wedi gwrthod gwneud hynny. Roedd tystiolaeth ddogfennol i gefnogi gohebiaeth y Cyngor gyda Swyddfa Archwilio Cymru ar gael. O ran craffu ar y prosiect, dywedodd Swyddog Monitro'r Cyd-bwyllgor, dan y Cytundeb Cyd-bwyllgor, fod pob awdurdod unigol yn gyfrifol am graffu ar brosiectau unigol. Dywedodd y Cadeirydd fod y Cyd-bwyllgor Craffu wedi estyn gwahoddiad iddo ef a'r Prif Weithredwr roi diweddariad ar yr adolygiad ac roedd wedi cytuno â'r cais hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod

4.1.    Adroddiad diweddaru ynghylch y prosiectau yn cael ei dderbyn;

4.2.    Cofnodion materion a chofrestrau risg prosiect yn cael eu cynnwys fel eitemau sefydlog ar yr agenda yng nghyfarfodydd y Cyd-bwyllgor yn y dyfodol;

4.3.    Llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ynghylch y cap ar godiadau rhent;

4.4.    Llythyr yn cael ei anfon at Is-ganghellor dros dro Prifysgol Abertawe yn gofyn am sicrwydd bod y Brifysgol yn parhau'n ymrwymedig i'r Fargen Ddinesig a phob prosiect unigol;

4.5.    Llythyr yn cael ei anfon yn gofyn i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gyhoeddi llythyr o eglurhad ynghylch ei gymorth ariannol ar gyfer Ardal Forol Doc Penfro.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau