Agenda item

ADRODDIAD MONITRO ABSENOLDEB SALWCH - HANNER BLWYDDYN CHWARTER 2 2018/19

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 5 o'r cyfarfod ar 14 Mehefin 2018, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn darparu data ynghylch absenoldeb ar gyfer cyfnod cronnol Chwarter 2 blwyddyn ariannol 2018/19 ynghyd â chrynodeb o gamau gweithredu i gefnogi lleihau lefel yr absenoldeb salwch.Roedd y canlyniadau cronnol yn dangos gostyngiad parhaus o gymharu â Chwarter 2 2017/18. Roedd yr Is-adran Rheoli Pobl yn parhau i gefnogi a chynghori Timau Rheoli Adrannol, rheolwyr pobl a gweithwyr mewn perthynas â'r Polisi Absenoldeb Salwch a gweithdrefnau a chanllawiau cysylltiedig i sicrhau bod absenoldeb yn cael ei reoli mewn modd amserol, cyson a rhagweithiol. Yn benodol, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Gynllun Cymorth Ariannol Neyber a oedd ar fin cael ei lansio i gyflogeion. Roedd y cynllun hwn yn galluogi cyflogeion i gael benthyciadau a chynnyrch cynilo ar gyfraddau cystadleuol y gallent gael anhawster eu cael drwy fenthycwyr y stryd fawr ac a allai fel arall ddefnyddio benthycwyr diwrnod cyflog fel dewis arall. Roedd hyn yn deillio o gydnabod y gallai pryderon ariannol gyfrannu i absenoldeb cysylltiedig â straen a nod y cynllun oedd cefnogi staff a chynnig ateb arall.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

 

·         Cytunodd y Partner Busnes Arweiniol [Adnoddau Dynol] i ddarparu rhestr o'r ysgolion cynradd hynny nad oeddent wedi ymuno â'r Cynllun Absenoldeb Staff Ysgolion eto, sef ffordd arall o ddarparu yswiriant i ysgolion ar gyfer costau cyflenwi staff a oedd yn gweithredu yn unol ag egwyddorion cydfuddiannu ac nid er elw;

·         Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl] ei fod wedi cymryd rhan mewn trafodaethau â chynrychiolwyr undebau ynghylch mentrau i hyfforddi a chefnogi rheolwyr i ymdrin â materion iechyd meddwl ymysg staff ac, yn dilyn trafodaethau â TUC Cymru, y byddai cyllid Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn cael ei ddefnyddio i gefnogi rhagor o waith i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn gorfforaethol;

·         Cyfeiriwyd at y Fforwm Herio ac Adolygu Presenoldeb, [sy'n cael ei gadeirio gan y Cynghorydd Mair Stephens, y Dirprwy Arweinydd, a'i fynychu gan y Cynghorydd Giles Morgan, Cadeirydd y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau] a oedd yn rhoi her a chymorth i Benaethiaid Gwasanaeth gynnal proffil uchel o ran rheoli presenoldeb;

·         Ailbwysleisiodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl] ei sylwadau a wnaed yn y cyfarfod ym mis Mehefin sef pan fydd pryderon parhaus ynghylch lefelau absenoldeb salwch efallai y byddai'r Pwyllgor am wahodd y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol i gyfarfod er mwyn egluro'r sefyllfa ac amlinellu unrhyw gamau a gymerir i wella'r sefyllfa;

·         Gwnaed nifer o sylwadau ynghylch y cysylltiad posibl rhwng y gostyngiad yn nifer y staff mewn rhai meysydd a'r straen tebygol ar y staff sydd ar ôl;

·         Awgrymwyd lle y defnyddiwyd y gair 'gwahodd' yn yr adroddiad efallai y byddai'n fwy priodol defnyddio'r gair 'gofynnol’;

·         Derbyniodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl] awgrym y gallai fod yn briodol cymharu perfformiad Sir Gaerfyrddin ag awdurdodau lleol tebyg, sy'n wledig i raddau helaeth, yn hytrach nag awdurdodau megis Merthyr Tudful.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1 derbyn yr adroddiad;

 

4.2 gwneud trefniadau ar gyfer Sesiwn Datblygu ychwanegol i'r Aelodau ynghylch Monitro Absenoldeb Salwch yn y flwyddyn newydd er mwyn rhoi gwybod i'r Aelodau am y datblygiadau sydd ar waith i helpu i leihau absenoldeb salwch.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau