Agenda item

URGENT QUESTION SUBMITTED BY COUNCILLOR DERYK CUNDY TO COUNCILLOR EMLYN DOLE, LEADER OF THE COUNCIL

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Cundy wedi cyflwyno cwestiwn brys o dan ddarpariaethau Rheol Gweithdrefn Cyngor 11.4(b) yr oedd y Cadeirydd wedi caniatáu:-

 

“Mae'r bwriad i gau Schaefflers â cholli 220 o swyddi da yn ergyd drom i'r Bynea, Llanelli a Sir Gaerfyrddin. Beth mae'r Cyngor Sir yn barod i'w wneud i geisio gwrthdroi penderfyniad y cwmni i adael, ac os na fydd yn gallu newid y penderfyniad hwnnw, beth fydd yn ei wneud i gefnogi gweithwyr presennol a'u teuluoedd drwy'r cyfnod anodd hwn ac yn y dyfodol?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Rwyf yn deall eich pryder fel yr Aelod Lleol ar gyfer Dafen.  Gallai cau'r safle olygu colli dros 200 o swyddi ac roedd y newyddion yn syndod i ni i gyd. Cysylltodd swyddogion y Cyngor ag uwch-gynrychiolwyr y cwmni cyn gynted ag y cyhoeddwyd y newyddion ddydd Llun wythnos diwethaf, i weld beth y gellid ei wneud i achub y swyddi o safon hynny, ac mae'r gwaith hwnnw'n parhau. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Mr Greig Littlefair, Rheolwr Gyfarwyddwr Shaeffler UK, yn gofyn am gael cyfarfod brys i drafod dyfodol y safle yn Llanelli.  Mae Shaeffler yn gwmni rhyngwladol sy'n cyflenwi cydrannau modurol a diwydiannol ledled y byd ac a symudodd i Lanelli yn 1957.  Mae'r cwmni wedi dweud y bydd y safleoedd yn Llanelli ac yn Plymouth yn cau o fewn y ddwy flynedd nesaf, ac y bydd y gwaith cynhyrchu'n symud i safleoedd eraill yn yr UDA, Tsieina, De Corea a'r Almaen.  Cafwyd ambell awgrym hefyd fod eu penderfyniad yn rhannol oherwydd yr ansicrwydd ynghylch Brexit.  Dylwn ychwanegu hefyd fy mod wedi cyhoeddi datganiad i'r wasg i rannu ein pryder am y bygythiad i 200 o swyddi yn dilyn y cyhoeddiad gan Shaeffler yn Llanelli, er mwyn dweud y byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac yn siarad â'r cwmni  i wneud popeth yn ein gallu i'w berswadio fod Llanelli yn dal yn lle gwych iddynt wneud busnes gyda'r sylfaen beirianegol sydd gennym a phopeth mae hynny'n ei gynnig. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni wneud mwy ac rwyf am ofyn i Lywodraeth Cymru weithio gyda ni i gymeradwyo a rhyddhau'n ddi-oed y £40m o gyllid y Fargen Ddinesig ar gyfer Llynnoedd Delta, gan fod y datblygiad arloesol ac unigryw rydym wedi siarad amdano yn ennill cydnabyddiaeth ryngwladol, wrth i gwmnïau mawr edrych i fuddsoddi yn yr ardal. Rhaid i ni fanteisio ar y diddordeb hwn mor gyflym ag y gallwn er mwyn dechrau ar ddarparu'r 1,800 o swyddi o'r radd flaenaf y bydd y pentref Gwyddor Bywyd, ynghyd â'r cyfleusterau cysylltiedig o ran y brifysgol, iechyd, ymchwil, addysgu, hamdden a gofal yn eu darparu.  Rydym hefyd yn dal i aros am i £5m o gyllid gael ei ryddhau ar gyfer Yr Egin yng Nghaerfyrddin, sydd wedi'i adeiladu a'i agor.  Mae angen inni gael yr arian hwn wedi ei ryddhau er mwyn galluogi rhagor o swyddi i gael eu creu yn ystod y cyfnod heriol hwn, ac mae angen i ni roi hyder i'r gymuned fusnes ar yr adeg hon i ddangos bod ein harian yn barod fel y gallan nhw fuddsoddi'n ogystal.”

 

Gwnaf yn si?r eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddar am y datblygiadau.