Agenda item

STRATEGAETH DDIGARTREFEDD RANBARTHOL

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi cymeradwyo'r gwaith o baratoi Strategaeth Digartrefedd Ranbarthol yn ei gyfarfod ar 11 Mai 2018, ac roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor ar y diwrnod hwnnw wedi nodi'r themâu a'r blaenoriaethau allweddol ynghylch sut y byddai Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys yn atal digartrefedd dros y blynyddoedd nesaf.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar y strategaeth:-

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr amser i ailgartrefu pobl y mae angen llety arnynt ar frys, dywedodd Pennaeth dros dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel ei bod yn cymryd oddeutu 3-4 mis ar gyfartaledd. Rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor fod llety gwely a brecwast ond yn cael ei ddefnyddio mewn argyfwng mewn amgylchiadau o'r fath, a bod y rhan fwyaf o'r unigolion digartref hyn yn cael cartrefi dros dro o ansawdd.

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyflwyno Credyd Cynhwysol i'r holl hawlwyr budd-daliadau yn Sir Gaerfyrddin ym mis Rhagfyr 2018, dywedodd Pennaeth dros dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod yr awdurdod yn ymwybodol o'r effaith bosibl y gallai hyn ei chael ar ei denantiaid ac y byddai'n monitro'r sefyllfa'n wythnosol.

 

·        Cyfeiriwyd at Asiantaeth Gosod Tai'r Cyngor ac a yw ei wasanaethau'n cael eu hyrwyddo'n ddigon i'r sector preifat o ystyried y ffaith bod yr 160 o'r eiddo sy'n cael eu rheoli ar hyn o bryd yn llai na'r 180 a oedd yn cael eu rheoli yn y gorffennol.

 

O ran landlordiaid yn mynd i mewn i'r maes gosodiadau tai ac yna'n gadael, dywedodd Pennaeth dros dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel nad yw nifer yr eiddo a reolwyd gan yr awdurdod wedi newid llawer dros y flwyddyn ddiwethaf. Rhoddodd sicrwydd fod ymdrechion yn cael eu gwneud yn barhaus i annog landlordiaid preifat i fanteisio ar ei wasanaeth, a gynigir fel pecynnau Efydd, Arian ac Aur. Hefyd roedd trafodaethau'n parhau ynghylch sut y gellid sicrhau bod y pecynnau hynny'n fwy deniadol ledled y sir.

 

·        Cyfeiriwyd at y defnydd o Dechnoleg Gwybodaeth i atal digartrefedd, a'r gronfa ddata a weithredir gan rai awdurdodau lleol yn Lloegr i fonitro a nodi unigolion sydd mewn perygl a rhannu gwybodaeth â darparwyr tai eraill a'r trydydd sector. Dywedodd yr Arweinydd - Cyngor ynghylch Tai y cafwyd trafodaeth ynghylch mabwysiadu dull Lloegr â Llywodraeth Cymru, a oedd wedi cytuno i'w gyflwyno ar draws Cymru.

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch darparu llety i berson sengl, dywedodd Pennaeth dros dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y cydnabuwyd, er mai nod y model presennol oedd canolbwyntio ar lety i berson sengl mewn ardaloedd penodol megis Heol yr Orsaf, Llanelli, y gallai'r ymagwedd honno gael effaith niweidiol ar unigolion agored i niwed. O ystyried y gydnabyddiaeth honno, roedd archwiliadau'n cael eu cynnal ynghylch y dichonoldeb o ran newid o ddarpariaeth fwy cryno i ddarparu unedau llai wedi'u gwasgaru sy'n haws eu rheoli ac sy'n parhau i fod yn agos i wasanaethau.

 

·        Cyfeiriwyd at y cynnig a nodwyd yn yr adroddiad i'r awdurdod ddarparu cymorth yn y gymuned er mwyn helpu i atal digartrefedd. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y byddai'r cymorth hwnnw'n cael ei ddarparu ac a fyddai'n cynnwys swyddogion ymgysylltu cymunedol.

 

Dywedodd Pennaeth dros dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y byddai archwiliad yn cael ei gynnal cyn cyflwyno'r cymorth yn y gymuned er mwyn asesu'r lefelau presennol o ddarpariaeth a'r ffordd orau o'i defnyddio.

 

·        Cyfeiriwyd at y datganiad yn yr adroddiad bod 'landlordiaid yn gadael y farchnad, yn ôl y sôn' oherwydd rhesymau amrywiol. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oedd hwnnw'n ffactor sydd wedi cyfrannu at nifer yr aelwydydd yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi sbarduno dyletswyddau digartref, lle cafwyd cynnydd o 444 rhwng 2015-16 a 2017-18.

 

Cadarnhaodd Pennaeth dros dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod landlordiaid yn gadael y farchnad a bod y farchnad rhentu yn amrywio ledled y sir, gan ei gwneud hi'n anodd asesu tueddiadau neu gyfeiriad y farchnad yn y dyfodol. Fodd bynnag bu'r awdurdod yn cysylltu â'r landlordiaid drwy'r Fforwm Landlordiaid fel rhan o'i ddull ar gyfer atal digartrefedd. Er yr oedd rhai o'r landlordiaid yn gadael, pwysleisiwyd bod y farchnad rhentu yn y sir yn gymharol gadarn yn gyffredinol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFYDROL gymeradwyo'r Strategaeth Digartrefedd a'i argymell i'r Bwrdd Gweithredol i'w chymeradwyo

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau