Cofnodion:
· Mynegodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â theulu Gareth Jones, y Cyn-gynghorydd Sir a fu'n cynrychioli Ward Gogledd Tref Caerfyrddin ac a fu hefyd yn Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg o dan y weinyddiaeth flaenorol.
Rhoddwyd teyrngedau i Mr Jones gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor a'r Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant.
Safodd pob aelod mewn tawelwch yn arwydd o deyrnged er cof am Mr Jones.
· Cyfeiriodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant at farwolaeth gwraig Mr John Phillips, Cyn-gyfarwyddwr Addysg a Chyn-brif Weithredwr Cyngor Sir Dyfed a ragflaenodd Cyngor Sir Caerfyrddin, a chydymdeimlodd â'r teulu.
· Cyfeiriodd y Cadeirydd at y materion personol canlynol:-
- Croesawodd y Cynghorwyr Dorian Williams a Colin Evans i'r cyfarfod ar ôl iddynt dreulio cyfnod yn yr ysbyty yn ddiweddar,
- Dywedodd ei fod yn cymryd rhan yn Nhrochfa'r Tymor ar ?yl San Steffan yng Nghefn Sidan a gofynnodd i'r aelodau ei noddi er mwyn cefnogi'r elusen a ddewiswyd ganddo sy'n codi arian ar gyfer y banciau bwyd yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llandeilo. Hyd yn hyn, mae ei elusen wedi cyfrannu £1200 at y banciau bwyd,
- Diolchodd i bawb a oedd wedi cefnogi'i Noson Eidalaidd Elusennol a oedd wedi codi bron i £500 ar gyfer y banciau bwyd,
· Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad am y gweithgareddau a'r digwyddiadau yr oedd wedi bod iddynt yn cynrychioli'r Cyngor, gan gynnwys:-
· Gwasanaeth Dinesig Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot,
· Cyngor Mwslemiaid Cymru yn dathlu 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru,
· Cynhadledd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda ynghylch 'Therapi Galwedigaethol; Gwerth ac Effaith o'r Crud i'r Bedd' lle roedd Ei Huchelder Brenhinol, y Dywysoges Frenhinol, yn bresennol,
· Gwasanaeth Ymweld Blynyddol 'Priory for Wales of the most Venerable Order of the Hospital of St John of Jerusalem' â Dyfed yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi
· Gwasanaethau Blynyddol Sul y Cofio yn Llanelli, Caerfyrddin a Phump-hewl.
· Seremoni, lle roedd Is-gadeirydd y Cyngor yn bresennol, a gafodd ei llywyddu gan Arglwydd-Raglaw Dyfed a rhoddwyd MBE i Mr Michael Clive Norman o Lanybydder.
· Atgoffodd y Cadeirydd y Cyngor o nodau Ymgyrch y Rhuban Gwyn ac anogodd aelodau i arwyddo'r rhuban a gwneud yr addewid "i beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel am drais dynion yn erbyn menywod".
· Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole wrth y Pwyllgor am gyfraniad Mr Aled Walters o Sir Gaerfyrddin at lwyddiant De Affrica yn ennill Cwpan Rygbi'r Byd yn ddiweddar ac awgrymodd fod llythyr yn cael ei anfon ato yn cydnabod ei lwyddiant.
Cymeradwyodd y Cadeirydd y syniad uchod ac awgrymodd y dylid anfon llythyr tebyg at Dîm Rygbi Cymru am ennill y pedwerydd safle yn y twrneimant.
· Dywedodd y Cynghorydd P. Hughes Griffiths, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, wrth y Cyngor am gyflawniadau diweddar Tîm Marchnata a'r Cyfryngau y Cyngor yng Ngwobrau 'Pride' y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (Diwydiant Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu Cymru):
Gwobr Aur yn y categori 'Ymgyrch Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol' ar gyfer datblygiad a lansiad y Cyngor o'r Bwrdd Gweithredol Bach er mwyn helpu i egluro blaenoriaethau'r Bwrdd Gweithredol o ran "Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin" ac i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn democratiaeth leol;
Wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori 'Ymgyrch y Celfyddydau, Diwylliant neu Chwaraeon' am hyrwyddo a marchnata Grand Départ Taith Prydain ym mis Medi 2018
Cyflwynodd y Cadeirydd y Wobr Aur i D. Hockenhull, Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau, a Laura Morris, Uwch-swyddog y Wasg
· Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas wrth y Cyngor am y gwobrau/cydnabyddiaethau diweddar y mae ysgolion/busnesau yn y sir wedi'u derbyn:-
- Ysgol Gynradd Llandeilo am ennill y wobr Arian: Ymwybodol o Hawliau gan UNICEF, sef yr unig ysgol yn Sir Gaerfyrddin i ennill gwobr am wreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn ei pholisïau, ei harferion a'i hethos.
- Enillodd y canlynol wobrau yn y 'Welsh National Wedding Awards':-
The Plough Inn – enillydd rhanbarthol yn y categori Man Cynnal Priodas Bwtîc;
Huw Rees Bridal - enillydd rhanbarthol Manwerthwr Priodasol y flwyddyn;
Dyfed Menswear - enillydd cenedlaethol a rhanbarthol yn y categori Dillad Dynion
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL anfon llythyron llongyfarch at Mr Aled Walters a Thîm Rygbi Cenedlaethol Cymru ar eu llwyddiannau yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn ddiweddar.