Agenda item

BLAENORIAETH 3 Y PANEL - CRAFFU AR GYNLLUN YR HEDDLU A THROSEDDU

Cofnodion:

Cafodd y Panel adroddiad gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu i'w ystyried yn unol â darpariaethau Adrannau 12 a 28 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, a nodai'r cynnydd oedd yn cael ei wneud wrth weithredu'r Cynllun Heddlu a Throseddu.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Gwnaed ymholiad am ragor o wybodaeth ynghylch cydymffurfiaeth statudol yr ystadau. Mae'r adroddiad cynnydd yn nodi oedi wrth brosesu cydymffurfiaeth oherwydd ad-drefnu staff, gan raddio'r eitem fel un 'nad yw'n cydymffurfio'. Eglurodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod y rheswm am y radd yn ymwneud ag oedi wrth gael gwybodaeth gan gyflenwyr. Pwysleisiodd fod yr adroddiad yn rhagweld cynnydd cyflym yn y gyfradd gydymffurfio, gan gyrraedd cydymffurfiaeth lawn o fewn mis. Gofynnwyd ynghylch hyder y Comisiynydd yng nghadernid y rhagfynegiadau. Cyfaddefodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod y rhagfynegiadau yn seiliedig ar wybodaeth ddiweddar iawn a'i fod yn dal i aros am waith craffu manwl gan ei dîm gweithredol. Ychwanegodd Pennaeth Staff y Comisiynydd fod gwybodaeth reoli yn rhoi lefel o sicrwydd ar gyfer y rhagolygon.

 

Gwnaed sylw ynghylch yr eitem 'nad yw'n cydymffurfio' a gyfeiriai at y gofrestr risgiau ar gyfer y Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Awgrymwyd bod y radd yn adlewyrchu'r ffaith fod y Llu wedi methu â gweithredu dros 200 o argymhellion Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi cyn penodi Prif Gwnstabl newydd, ac y dylai'r Cyd-bwyllgor Archwilio fod wedi mynd i'r afael â'r methiant hwn. Mewn ymateb, eglurodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu nad yw'r eitem dan sylw yn cyfeirio at gofrestr risg y Llu, ond at risgiau yn Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu megis diogelu data. Pwysleisiodd y Comisiynydd y byddai eitem cofrestr risg y Llu wedi cael ei graddio fel un sy'n cydymffurfio'n llawn.

 

Mewn perthynas â'r Strategaeth Ymgysylltu a'r Cynllun Gweithredu, mynegwyd pryderon fod presenoldeb y Comisiynydd mewn sioeau gwledig yn yr haf yn ymgysylltu ag un math yn unig o gymuned yn ardal Dyfed-Powys. Awgrymwyd bod y Comisiynydd yn amrywio ei ymrwymiadau cyhoeddus ac yn teilwra ei neges i wahanol gymunedau. Atebodd y Comisiynydd trwy ddweud fod Tîm Ymgysylltu sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â'r mater wedi bod yn wynebu ad-drefnu a materion staffio. Pwysleisiodd hefyd ei fod yn cymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau ymgysylltu mewn gwahanol rannau o ardal Dyfed-Powys a nododd fod cynnydd yn cael ei wneud tuag at gydymffurfiaeth uwch. 

 

Holodd y Panel sut fydd y Comisiynydd yn pwysoli'r nodau, a allai fod yn groes i'w gilydd, o sicrhau'r gwerth gorau am arian yn erbyn gwario mor lleol â phosibl, yn enwedig gyda golwg ar y swyddogaeth ystadau. Roedd y Comisiynydd yn cydnabod bod cost-effeithiolrwydd yn hanfodol ond dywedodd y dylid hyrwyddo cwmnïau lleol oni bai fod y cyfaddawd mewn cost-effeithlonrwydd yn rhy niweidiol. Cyhoeddodd hefyd y bydd prosiectau ystadau sylweddol, megis prosiect dalfa Sir Gaerfyrddin, yn darparu cyfleoedd gwaith lleol.

 

Gyda golwg ar y mater o gam-drin domestig, mynegwyd pryderon ynghylch a oes yna ddarpariaethau digonol ar gyfer cynnig gwasanaethau i bobl sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd. Yn benodol, gofynnwyd a all swyddogion yr heddlu ddarparu gwybodaeth ar ffurf copi caled pan gânt eu galw i ddigwyddiadau o gam-drin domestig. Cytunai'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod defnyddio sianeli cyfathrebu lluosog yn hollbwysig. Adroddodd fod ffurflen asesu amlasiantaethol ar ffurf copi caled ar gael ar gyfer achosion o gam-drin domestig.

 

Mewn perthynas â Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol, eglurodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ei fod yn cwrdd â chydgysylltwyr partneriaeth o bob awdurdod unedol ar sail chwarterol. Mynegodd hefyd ei ddiolch i Mr Alan Garrod am ei waith ym Mhartneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion.

 

Mynegwyd llongyfarchiadau ar fenter, cynnwys a chyflwyniad y papur craffu 'Deep Dive' a ddaw gyda'r adroddiad cynnydd. Manylodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ynghylch y modd y cyhoeddwyd yr adroddiad, a dywedodd fod adroddiad Deep Dive pellach yn mynd i gael ei wneud i weithgareddau gorfodi cyffuriau'r Llu. Gofynnodd y Panel am eglurhad ynghylch argymhelliad yn yr adroddiad 'Deep Dive' yn ymwneud â chyfarpar adrannau arbenigol y Llu. Eglurodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu nad yw'r argymhelliad yn adlewyrchu problem ehangach gyda chyfarpar amhriodol, ond ei fod yn adlewyrchu pryder benodol iawn am gamerâu sy'n fflachio a wisgir ar y corff yn yr adran c?n.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: