Agenda item

CWESTIWN Â RHYBUDD I'R PANEL GAN A.T. O SIR GAERFYRDDIN

Roeddwn i'n synnu gweld nad yw'r panel yn cynrychioli'r gymdeithas y mae'n ei gwasanaethu.  Dim ond un fenyw h?n â chroen gwyn sydd ar y panel ac mae'r gweddill yn ddynion h?n â chroen gwyn. A ellid rhoi system ar waith er mwyn sicrhau bod aelodau'r panel yn adlewyrchiad gwell o'n cymdeithas? Dylai'r system hon sicrhau bod menywod ifancach ar y panel, yn enwedig mamau sydd â chyfrifoldebau o ran gofal plant, aelod o'r panel sy'n perthyn i'r gr?p Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, aelod o'r panel sy'n anabl ac aelod o'r panel sy'n perthyn i'r gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol. Pam y penderfynwyd y dylai'r panel gynnwys cynghorwyr sir, oherwydd mae'r rhain yn bennaf yn ddynion h?n, strêt â chroen gwyn sydd wedi ymddeol. Mae gennym gymdeithas batriarchaidd iawn o hyd lle mae hiliaeth a rhywiaeth strwythurol a sefydliadol yn bodoli ac nid yw'r panel hwn yn gwneud dim i geisio mynd i'r afael â hyn. Gan fod mwyafrif aelodau'r panel yn cynrychioli yn bennaf un gr?p o'n cymdeithas amrywiol, golygir eu bod yn debygol o ddangos tueddiadau yn yr isymwybodol yn erbyn grwpiau penodol a gall hyn gyfrannu at wneud penderfyniadau gwael a gwahaniaethu yn erbyn y grwpiau hynny o bobl.”

Cofnodion:

“Roeddwn i'n synnu gweld nad yw'r panel yn cynrychioli'r gymdeithas y mae'n ei gwasanaethu. Dim ond un fenyw h?n â chroen gwyn sydd ar y panel ac mae'r gweddill yn ddynion h?n â chroen gwyn. A ellid rhoi system ar waith er mwyn sicrhau bod aelodau'r panel yn adlewyrchiad gwell o'n cymdeithas? Dylai'r system hon sicrhau bod menywod ifancach ar y panel, yn enwedig mamau sydd â chyfrifoldebau o ran gofal plant, aelod o'r panel sy'n perthyn i'r gr?p Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, aelod o'r panel sy'n anabl ac aelod o'r panel sy'n perthyn i'r gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol. Pam y penderfynwyd y dylai'r panel gynnwys cynghorwyr sir, oherwydd mae'r rhain yn bennaf yn ddynion h?n, strêt â chroen gwyn sydd wedi ymddeol. Mae gennym gymdeithas batriarchaidd iawn o hyd lle mae hiliaeth a rhywiaeth strwythurol a sefydliadol yn bodoli ac nid yw'r panel hwn yn gwneud dim i geisio mynd i'r afael â hyn. Gan fod mwyafrif aelodau'r panel yn cynrychioli yn bennaf un gr?p o'n cymdeithas amrywiol, golygir eu bod yn debygol o ddangos tueddiadau yn yr isymwybodol yn erbyn grwpiau penodol a gall hyn gyfrannu at wneud penderfyniadau gwael a gwahaniaethu yn erbyn y grwpiau hynny o bobl.”

 

Ymateb gan y Cadeirydd

“Caiff cyfansoddiad Paneli Heddlu a Throseddu ei bennu gan Atodlen 6 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Mewn perthynas â Phaneli Cymru, mae'r atodlen yn nodi mai'r Ysgrifennydd Gwladol fydd yn rhagnodi nifer y cynghorwyr o bob awdurdod lleol perthnasol sy'n aelodau o Banel. Yn ogystal, mae'n rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol gytuno ar nifer yr aelodau cyfetholedig y gall y panel ei benodi.

 

Yn achos Panel Dyfed-Powys, penderfynodd yr Ysgrifennydd Gwladol y byddai'r 4 Cyngor yn ardal y llu yn gallu penodi 3 chynghorydd fel aelodau o'r panel. Yn ogystal, byddai'r panel yn gallu penodi 2 aelod cyfetholedig.

 

Yn dilyn etholiadau'r awdurdodau lleol yn 2017, ysgrifennodd Swyddog Arweiniol y Panel at Benaethiaid Gwasanaethau Democrataidd y 4 Cyngor i'w hatgoffa nhw ynghylch y gofyniad statudol i adlewyrchu cydbwysedd daearyddol a gwleidyddol eu hawdurdodau perthnasol gan fynegi gobaith y byddai unrhyw enwebiadau hefyd yn adlewyrchu cydbwysedd rhyw, oedran a hil eu cymunedau.

 

Er y cydnabyddir nad yw aelodaeth gyfredol y panel yn adlewyrchiad cywir o gydbwysedd oedran, rhyw a hil cymdeithas yn ardal y llu, mae hyn yn bennaf oherwydd y cydbwysedd o ran aelodaeth y 4 Cyngor. Nid oes gan y panel ei hun ddim p?er i newid hyn.

 

Dim ond mewn perthynas â'r aelodau cyfetholedig y mae gan y panel unrhyw fewnbwn o ran pwy sy'n cael ei benodi. Yn ystod yr ymarfer recriwtio cyhoeddus diwethaf ar gyfer aelodau cyfetholedig yn 2016, derbyniwyd wyth cais ac o'r rheiny, roedd 2 o'r ceisiadau hynny gan fenywod. Cafodd un o'r menywod hynny ei phenodi.

 

O dan yr amgylchiadau, rwy'n cynnig felly bod y camau canlynol yn cael eu cymryd;

 

1.                  Yn dilyn etholiadau nesaf yr awdurdodau lleol, bod Swyddog Arweiniol y Panel yn ysgrifennu eto at y 4 awdurdod lleol yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod eu henwebiadau yn adlewyrchiad mor gywir â phosibl o gydbwysedd eu cymunedau a,

2.                  Bod y Panel yn cysylltu â'r Swyddfa Gartref ar unwaith i ofyn am ei sylwadau ynghylch cynyddu nifer yr aelodau cyfetholedig er mwyn gwella cydbwysedd y Panel.”

 

Codwyd sylwadau ychwanegol a bwysleisiai fod gan Aelodau'r Panel brofiad amrywiol o ymgysylltu â phobl o bob cefndir ac nad oeddent yn dangos unrhyw dystiolaeth o ragfarn anymwybodol, gwneud penderfyniadau gwael na gwahaniaethu er anfantais i grwpiau penodol. Awgrymodd yr Aelodau hefyd y gallai A. T. gyflwyno sylwadau i'r Swyddfa Gartref i gynyddu'r Aelodaeth Annibynnol ac annog pobl i ymgeisio am y swyddi hyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod ymateb y Cadeirydd, yn amodol ar y sylwadau ychwanegol a godwyd yn ystod y drafodaeth, yn cael ei gymeradwyo a'i anfon at A.T.