Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Mae'r Awdurdod hwn wedi sefydlu nifer o gwmnïau yn y deunaw mis diwethaf sydd wedi arwain at lai o oruchwyliaeth o ran y gwasanaethau sy'n cael eu cyflawni fel arfer gan y Cyngor; nid yw Cynghorwyr na'r cyhoedd yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn y cwmnïau hyn; ac mae cyllid cyhoeddus sy’n gysylltiedig â mentrau'r sector cyhoeddus yn cael eu cwestiynu.  Yn hynny o beth, a oes modd i Arweinydd y Cyngor roi addewid y bydd yn atal gwasanaethau rhag cael eu trosglwyddo'n allanol yn barhaus i gwmnïau teckal ac addo peidio â chreu unrhyw gwmnïau newydd, gan gynnwys unrhyw rai sy'n ymwneud â'r Fargen Ddinesig, ar gyfer gweddill y tymor hwn?”

 

Cofnodion:

“Mae'r Awdurdod hwn wedi sefydlu nifer o gwmnïau yn y deunaw mis diwethaf sydd wedi arwain at lai o oruchwyliaeth o ran y gwasanaethau sy'n cael eu cyflawni fel arfer gan y Cyngor; nid yw Cynghorwyr na'r cyhoedd yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn y cwmnïau hyn; ac mae cyllid cyhoeddus sy’n gysylltiedig â mentrau'r sector cyhoeddus yn cael eu cwestiynu.  Yn hynny o beth, a oes modd i Arweinydd y Cyngor roi addewid y bydd yn atal gwasanaethau rhag cael eu trosglwyddo'n allanol yn barhaus i gwmnïau teckal ac addo peidio â chreu unrhyw gwmnïau newydd, gan gynnwys unrhyw rai sy'n ymwneud â'r Fargen Ddinesig, ar gyfer gweddill y tymor hwn?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd E. Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Na.”

 

Gofynnodd y Cynghorydd James y cwestiwn atodol canlynol:-

 

“Mae'n amlwg o'r drafodaeth hon fod y weinyddiaeth hon dros ei phen a'i chlustiau ac yn cael ei thywys ar hyd llwybr tywyll iawn. A ydych wir yn credu y bydd y cyhoedd yn ymddiried ynoch i fod yn gyfrifol am y pwrs cyhoeddus yn y dyfodol?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Ydw yw'r ateb. Efallai y gallaf dreulio munud yn esbonio beth yw Cwmni Teckal i'r Cynghorydd James?  Cwmni Teckal yn enw cyffredin ar gwmni sy'n elwa ar gontractau ar gyfer gwaith, gwasanaethau neu gyflenwi o'i Awdurdod contractio rheoli heb orfod mynd drwy broses dendro gystadleuol. Yn yr un modd â phob Awdurdod arall, rhaid i Gyngor Sir Caerfyrddin reoli'r holl gyfranddaliadau yn y cwmni hwn a hefyd arfer y rheolaeth o ddydd i ddydd dros ei faterion. Does dim ffynonellau allanol yma, rwy'n gwybod ei fod yn dwlu ar y term ond mae'n  amherthnasol.  Mewn geiriau eraill mae'n union yr un peth â'r berthynas rhwng y Cyngor ac un o'i gyfeiriaduron mewnol.  Gellir cyflawni hyn drwy'r strwythur llywodraethu hwnnw.  Hefyd mae'n rhaid i'r Cwmni edrych am mewn ac nid am allan. Gofyniad y gyfarwyddeb yw bod yn rhaid i o leiaf 80% o weithgarwch Cwmni Teckal, sef dros 80% o'i drosiant fod er lles ei berchennog sector cyhoeddus. Ni fydd unrhyw gontractau gyda chyrff sector cyhoeddus eraill neu endidau'r sector preifat yn elwa o'r esemptiad Teckal a byddai'n rhaid i'r cwmni gyflwyno tendr yn y ffordd arferol ar gyfer contractau o'r fath yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth gaffael briodol.

 

Diddorol yw nodi bod yr ymagwedd hon at sefydlu cwmnïau, gan gynnwys at ddibenion Bargen Ddinesig, wedi cael sêl bendith gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, a'i olynydd tebygol, Mark Drakeford, rai misoedd yn ôl.  Nawr dyna ichi rywfaint o realiti gwleidyddol.  Dyma'r peth Rob, y realiti ymarferol ac ariannol yw bod Awdurdodau Lleol ar draws Cymru yn gorfod meddwl am syniadau arloesol i ddarparu'r gwasanaethau mae'r bobl maent yn eu cynrychioli yn dibynnu arnynt o ddydd i ddydd. Mae'n rhaid inni wneud hynny mewn ffordd sy'n golygu ein bod yn gwneud gwell defnydd o adnoddau ariannol cyfyngedig ac yn chwilio am gyfleodd newydd i greu incwm newydd.  Prin bod angen ein hatgoffa ein bod yn y sefyllfa hon yn bennaf oherwydd blaenoriaethau Llywodraeth Lafur flinedig a di-glem yng Nghaerdydd. Roeddwn yng Nghaerdydd ddoe yn gwrando ar anerchiad rhagorol gan Brif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n rhoi'r gorau iddi cyn bo hir, ac a wnaeth yr union bwynt hwnnw mewn ffordd huawdl iawn.

 

Gwn ei bod yn boblogaidd bwrw'r bai ar Weinidog Llywodraeth Cymru am ein gofidiau ariannol, ond pan ddywedodd y Canghellor Phillip Hammond fod arian ychwanegol yn dod i ni, ar ôl y gyllideb ddiweddar fe wnaeth Mark Drakeford hi'n gwbl glir mai nid Llywodraeth Leol oedd ei flaenoriaeth ef. Ac er gwaethaf ei holl eiriau caredig yn nigwyddiadau a chynadleddau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae hynny'n dal yr un peth. Cafodd ei gyfweld yn y Western Mail yr wythnos diwethaf a'r cyfan allai ei ddweud oedd, "pe bai'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru yn wynebu'r un lefel o doriadau â chynghorau yn Lloegr, byddem yn wynebu toriadau o £65m yng Nghymru”. Rydych mewn sefyllfa well na Lloegr oedd i ateb, a dyw hynny ddim yn ddigon da. Dim argoel o unrhyw beth ychwanegol i Lywodraeth Cymru yng Nghymru. Mae'r arian yno, ond mae ganddo flaenoriaethau eraill. Yn y cyfamser rydym yn wynebu'r posibilrwydd go iawn o doriadau pellach yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Roedd y GIG yn edrych ymlaen yn eiddgar at gynnig hael iawn sef cynnydd o 3.5% y flwyddyn nesaf. Beth mae'n ei wneud?  Rhoi cynnydd o 7% iddynt mewn ymgais i chwarae pin pong gwleidyddol a chael y gorau ar Lywodraeth San Steffan yn Llundain, gan adael awdurdodau lleol â diffyg o -5% mewn termau real. 

 

Chi'n gwybod beth Cynghorydd James? Glywson ni i gyd eiriau gwag y Toriaid yn ddiweddar wrth frolio am ddiwedd honedig cyni cyllidol. Rhaid i ni beidio â gadael i'r geiriau hynny ein llonni'n ormodol. Mae Mark Drakeford a Llywodraeth Cymru yn rhedeg eu rhaglen cyni cyllidol Gymreig eu hunain, a ni sy'n dioddef yn sgil hynny. Yr wythnos hon rydym yn dechrau'r broses ymgynghori ynghylch cyllideb y flwyddyn nesaf. Gadewch imi eich atgoffa o rywbeth ddywedoch yn ein cyfarfod diwethaf o'r Cyngor, ac rwyf yn eich dyfynnu, sef eich bod yn mynd i gymryd golwg fforensig ar gyllideb y flwyddyn nesaf. Fe ddywedaf wrthych beth fyddai'n llawer mwy buddiol ichi ei wneud - cymryd golwg fforensig ar y setliad cyllidebol amodol ofnadwy ar gyfer Llywodraeth Leol a bennwyd gan y Llywodraeth Lafur yn y Cynulliad, a threulio eich amser yn perswadio eich cyd-Aelodau Llafur yng Nghaerdydd i edrych eto ar ddarparu setliad cyllidebol rhesymol i Lywodraeth Leol.  Mae'r arian yno, a thra byddwch wrthi, atgoffwch nhw o'u haddewid i ni ein bod ar flaen y ciw ac y byddwn yn cael blaenoriaeth.

 

Nid wyf yn sicr pwy ddywedodd hynny, ond maen nhw'n iawn mae'n debyg, "knowledge is giving the right answer to a question." Os yw hynny'n wir, mae'n rhaid taw deallusrwydd yw'r gallu i ofyn y cwestiwn iawn yn y lle cyntaf.