Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“A fyddai modd i Arweinydd y Cyngor roi trosolwg cryno i ni ar y broses a ddilynwyd wrth ddewis partner sector preifat ar gyfer y Pentref Llesiant, gan amlinellu faint o sefydliadau a gymerodd ran yn y Drafodaeth Gystadleuol a’r rheswm pam y dewiswyd Sterling Health?”

 

Cofnodion:

“A fyddai modd i Arweinydd y Cyngor roi trosolwg cryno i ni ar y broses a ddilynwyd wrth ddewis partner sector preifat ar gyfer y Pentref Llesiant, gan amlinellu faint o sefydliadau a gymerodd ran yn y Drafodaeth Gystadleuol a’r rheswm pam y dewiswyd Sterling Health?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Os ydynt yn dymuno, gall rhai aelodau o'r Cyngor hwn adael yn awr os ydynt am fynd mas i'r lolfa i ddarllen beth sy'n mynd i gael ei drafod yn y papur lleol cyn ei fod yn cael ei drafod, oherwydd mae'n ymddangos bod Arweinydd yr Wrthblaid wedi rhannu'r cwestiynau hyn ymlaen llaw â newyddiadurwr. Dyna ddywedodd Richard Jewell. Rwyf yn dweud hyn am ddau reswm oherwydd yn un o'r paragraffau olaf mae'n dweud fy mod wedi cael cais gan y newyddiadurwr hwn i ateb y cwestiynau hyn iddo cyn y cyfarfod hwn o'r cyngor. Gwrthodais, ac nid wyf yn si?r sut y gall ddweud "Ychwanegodd Mr Dole" oherwydd ni siaradais ag ef. Gwrthodais siarad ag ef drwy'r adran lawr y grisiau. Fe wnes ei atgoffa mai yma oedd y seddi democrataidd yng nghyd-destun yr awdurdod lleol, nid mewn swyddfa newyddiaduraeth, ac mai yma fyddai'r atebion yn cael eu rhoi i'r cwestiynau. Dyma'r man lle mae angen iddynt gael eu hateb, ac mae'r ffaith bod hyn wedi'i amlinellu mewn papur lleol cyn bod y cwestiwn wedi'i ofyn yn ffurfiol yma, a chyn bod yr ateb wedi'i lunio'n ffurfiol, yn dangos diffyg parch i'r siambr hwn ac i brosesau democrataidd yn y sir hon. Nid fel hyn mae pethau'n gweithio. Dyma lle gofynnir y cwestiynau. Bu'n rhaid i mi atgoffa'r newyddiadurwr y dylai ddod i'r cyfarfod ac wedyn adrodd ar yr hyn a drafodwyd, nid i'r gwrthwyneb. Dim ond crybwyll hynny cyn inni ddechrau.

 

Er eglurhad, dilynwyd y broses dendro er mwyn nodi partner datblygu, nid partner o'r sector preifat. Efallai y gallaf esbonio'r gwahanol gamau yn y broses honno, yn unol â'r cais. Yn gyntaf, y drefn gaffael a'r broses ei hun. Cyflwynwyd hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw a holiadur profi'r farchnad ar 15 Mawrth 2017, a daeth i ben ar 10 Ebrill 2017 y llynedd. Nod gwneud hynny oedd creu diddordeb yn y broses gaffael. Yna rhoddwyd hysbysiad yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a chyflwynwyd tendr a oedd yn gwahodd cynigion gan sefydliadau neu gonsortia i fod yn bartneriaid datblygu i'r awdurdod. Daeth y cam hwnnw i ben haf diwethaf ar 8 Awst, 2017. Gofynnwyd i ymgeiswyr gyflwyno holiadur cyn-gymhwyso i'w asesu. Roedd 34 o sefydliadau i gyd wedi bwrw golwg ar yr holiadur cyn-gymhwyso a chyflwynodd un cynigydd yr holiadur. Yn dilyn ei asesu, barnwyd bod yr un cynnig hwnnw'n cydymffurfio â'r meini prawf, a gofynnwyd iddo gymryd rhan yn rhan nesaf y broses, sef y sesiynau dialog. Felly, roeddem wedyn yn cychwyn ar gam dialog gystadleuol y broses. Cynhaliwyd dwy rownd o ddeialog. Bydd pob un yn cynnwys chwe chyfarfod unigol. Yn dilyn pob rownd o ddeialog, cynhaliwyd cyfres o weithdai wedyn gyda'r cynigydd i ystyried manylion y cynigion. Roedd y sesiynau deialog a'r gweithdai yn cynnwys uwch-swyddogion allweddol ar draws adrannau priodol Cyngor Sir Caerfyrddin megis hamdden, gwasanaethau cymdeithasol, y gyfraith, cyllid, caffael, adfywio, ac eiddo ynghyd â chynrychiolaeth gan ein prif bartneriaid yn y sectorau iechyd ac addysg bellach. Wedyn daeth y broses gaffael i ben drwy'r cytundeb cydweithio a lofnodwyd rhwng  Cyngor Sir Caerfyrddin, Prifysgol Abertawe a Sterling Health Security Holdings Ltd. Felly, yn gryno, dyna'r broses, a dyna sut dewiswyd Health Security Holdings Ltd.” 

 

Gofynnodd y Cynghorydd James y cwestiwn atodol canlynol:-

 

“Yn 2016 llofnododd eich Bwrdd Gweithredol gytundeb cyfyngol o ddeuddeg mis gyda Kent Neurosciences Ltd i ddatblygu'r syniad o bentref. Onid ydych yn pryderu, gan mai'r un Cyfarwyddwyr sydd gan Sterling Health â Kent Neurosciences, nad yw'r broses yn edrych yn un deg ac agored?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“A allaf ddweud, yn ogystal ag amharchu'r Siambr fe wnaethoch amharchu'r Cadeirydd. Ef yw Cadeirydd y cyfarfod ac ef sydd i benderfynu sut y mae'n cyfeirio at ei hun, nid chi na fi. Cyfeiriaf at fy ateb blaenorol, gofynnoch i mi amlinellu'r broses. Rwyf wedi amlinellu'r broses i chi. Rwyf wedi ei gwneud yn glir sut cyrhaeddom ble rydym yn awr. Mae'n eglur i bawb. Byddai hefyd wedi bod yn eglur petaech wedi dod i'r cyfarfod o'r Bwrdd Gweithredol lle trafodom hynny. Dewisoch beidio â bod yma bryd hynny ond trafodwyd y peth yn llawn. Byddech wedi cael ateb ar y pryd heb orfod dychwelyd i ofyn y cwestiwn i'r cyngor llawn. Yr un yw'r ateb. Rwyf yn pendroni pam rydych, yn ôl pob tebyg, am geisio tanseilio'r broses honno, os dyna yw eich bwriad, oherwydd rwyf wedi pwysleisio manteision hyn i bobl Llanelli. Rwyf yn edrych ar yr aelodau y tu cefn i chi, sy'n gegrwth ac yn methu deall pam dewisoch ymosod ar yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yn Llynnoedd Delta a'r pentref hwn. Fel y gwyddoch, neu byddech yn gwybod petaech wedi dod i'r cyfarfod, mae'n cynnwys Canolfan Iechyd, sy'n cynnwys Sefydliad Gwyddor Bywyd, Canolfan Addysg Llesiant, Canolfan Darpariaeth Glinigol, llety byw â chymorth, sy'n cynnwys tai gofal ychwanegol a chartref nyrsio. Mae hefyd yn hybu byw'n annibynnol drwy ddefnyddio technolegau byw â chymorth a ddatblygwyd ar y safle yn Llynnoedd Delta. Mae'n cynnwys gwesty llesiant i ddiwallu'r angen am dwristiaeth llesiant ymysg y datblygiadau eraill sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y pentref, ynghyd â mannau wedi'u tirweddu i drigolion Llanelli a Sir Gaerfyrddin gerdded a beicio. Llecyn chwarae i blant a mannau ar gyfer celfyddydau perfformio awyr agored. Disgwylir y bydd elfennau canolfan llesiant ac iechyd cymunedol y pentref ar waith yn 2021, gyda'r holl brosiect wedi'i gwblhau erbyn 2023, gan greu'n agos at 2,000 o swyddi o ansawdd uchel yn ystod y pymtheg mlynedd nesaf. Rhagwelir y bydd y pentref llesiant a gwyddor bywyd yn rhoi hwb o £467 miliwn i'r economi leol. Bydd cais cynllunio amlinellol ar gyfer y datblygiad yn cael ei ystyried i'w gymeradwyo yn y misoedd sydd i ddod, a disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2019. Fel y soniais, bydd y cydweithio â darparwyr addysg ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn canolbwyntio ar gyfleoedd hyfforddi ar gyfer swyddi ar bob lefel yn y pentref, a bydd y bobl leol yn elwa ar hyn yn y tymor hir. Bydd parcio digonol ar y safle ynghyd â standiau i feiciau, parth gollwng i fysiau a thacsis, ac ymweliadau gan ysgolion, gan greu cyswllt â Llwybr Arfordirol y Mileniwm ac ardaloedd o'r pentref sydd i'w tirweddu at ddibenion hamdden. Bydd hynny'n rhoi hwb pellach i'n diwydiant twristiaeth ffyniannus. Beth nid ydych yn ei hoffi am hyn?”

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau